Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lawnt

lawnt

Y frawddeg i'w chofio yw'r un a ddywed: "Po fanaf yr had, manaf y pridd." Rhai mân iawn yw hadau lawnt.

Yn y lawnt parhaol torrwch y glaswellt yn is drwy ostwng llafnau'r peiriant torri.

Dyma'r adeg addas i ladd chwyn lawnt hyn.

Gan mai'r lawnt yw'r canfas i'r holl arddio addurnol mae'n rhaid iddo fod y lân a thrwsiadus.

Yr oedd y Cyfundeb wedi sefydlu eglwysi ers rhai blynyddoedd o bobtu Peniel, sef yn Nantglyn a Phrion, ond fe gynhaliwyd Ysgol Sul yn y Lawnt, lle bychan rhwng Peniel a Dinbych, ac hefyd yn Nhŷ Coch sydd ar fin y ffordd rhwng Dinbych a Nantglyn ac ar gyrion ardal Peniel.

Ar gyfer lawnt newydd, parhewch gyda'r gwaith o chwynnu drwy hofio a fforchio.

Suddodd Miguel Angel Martin ergyd anhygoel o ddeugain troedfedd ar y lawnt ola i fynd a'r gêm i dyllau ychwanegol yn erbyn David Frost.

Ar ambell lawnt, byddai'n amhosibl defnyddio'r peiriant llafnau cylch.

Cwestiwn ofynnwyd imi droeon ar ôl dechrau'r flwyddyn hon oedd ynglŷn â thorri'r lawnt yn y gaeaf.

Peidiwch byth â defnyddio chwynladdwr yn ystod blwyddyn gyntaf lawnt newydd.

Gellir fforchio, cribinio a chroesgribinio er briwsioni'r tir ar gyfer hau hadau lawnt.

Mor dda hefyd y cofiai ei chyfnither, Anna Maria, merch ei Hewyrth Joseph y ddwy ohonynt ar lawnt fechan Trefeca Isaf yn gorwedd ar eu cefnau i weld y sêr a'r lleuad trwy delesgop rhyfeddol ei hewyrth, wedi eu swyno gan ddirgelwch peiriant a fedrai dynnu'r sêr a'r nef ei hun mor agos atynt.

Dymchwel y bwrdd adar, rhychu'r lawnt....

Mi gei di fynd yn ôl at y lawnt 'na rwan.'

(Gyda llaw, os cofiaf yn iawn, dwy bunt dau swllt ac wyth geiniog ydoedd cyflog wythnosol dyn clirio'r eira oddi ar y ffordd y pryd hynny!) Sylwais y bore yma fod asgell-goch ymhlith yr adar oedd yn bwyta briwsion ar y lawnt.

Aethom allan trwy'r drysau gwydr ac ar hyd llwybr llyfn o fflagiau coch a oedd yn arwain o'r garej hyd ymyl pellaf y lawnt.

Gafelodd Mrs Kramer yn y ffôn symudol ac arweiniodd Leah a Harvey allan i ddiogelwch y lawnt.

Yr oedd wrth ei fodd ar Lawnt y Peli yn chwarae Bowls, ac yr oedd yn gryn gampwr ar hynny a'i hanesion am y gemau yn ddifyr a doniol.

Mynd i fyny at y lawnt tu allan i lyfrgell y coleg i baratoi ffilmio hefo aelodau clwb Saesneg yr Ysgol Ganol.

Gellir taenu chwynladdwr detholus yn ôl y mesuriad cywir ar wyneb y lawnt gan ddefnyddio peiriant.

'Torri'r lawnt mae o ac mi fydd o'n falch o'r seibiant,' daeth ateb Claudia Morris.

Gellid yn hawdd gymeradwyo ffyrdd amgenach o dreulio'r diwrnod na sefyllian ar lawnt yn Reykjavik a hithau'n ddiwedd Hydref ond dyna oedd y dasg gerbron.

Yn wir awgrymir mai'r adeg orau i hau hadau lawnt yw o ddiwedd Awst i ddechrau Medi.

I gael lawnt da, cofiwch groesdorri ar yn ail.