Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lawntiau

lawntiau

Torrwyd ein lawntiau ni am y tro cyntaf ar yr ail ar bymtheg o Ionawr eleni, eilwaith ar y dydd olaf o'r mis, dim unwaith yn ystod mis Chwefror, ni bu tyfiant yn ystod y mis hwnnw, ac yna ar y seithfed ar hugain o Fawrth.

Mae'n canmol y colomendy a'r llyn pysgod ac yn gweld tŷ'r crehyrod, a'r peunod ar y lawntiau.

Gwelai Myrddin Tomos yn y gell gosb y meysydd moethus, maethlawn ar lannau Tywi, y cnydau cyfoethog, y bencydd beichiog,,a'r gweunydd sa oedd mor esmwyth-lyfn â lawntiau.

Wedi cynnig ei wasanaeth, a thra'n disgwyl am long, prysurodd ymlaen â'r gwaith enfawr o aildrefnu perllannau a gerddi yr hen Blas ac ailhau y lawntiau a'r porfeydd, yn ogystal â phlannu rhai miloedd o goed i gysgodi a harddu'r lle.

Pe bawn wedi aros yn y bwthyn gyda mam a Rachel, buaswn wedi gweld dwy'n ymgolli'n ddagreuol a melys yn eu hatgofion a chlywed canmol gerddi Y Plas gyda'i lawntiau'n dawnsio yn lliwiau porffor ac aur tanbaid canhwyllau'r forwyn.

Mae cofnod yn y DDolen am blant ysgol Ponterwyd wedi bod am drip yn Harlech gan fwynhau tocyn ar y lawntiau yn y Castell.

Cyn dyfeisio peiriant torri lawntiau defnyddid gwyddau i gadw tyfiant glaswellt i lawr, mae hwythau hefyd yn pori'n glos i wyneb y ddaear.