Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

layard

layard

Megis i Freud, y mae gwedd o rywioldeb ar bopeth bron i ddisgyblion Jung hefyd, ond yr oedd Layard, fel ei feistr, yn ymwybodol o'r ysbrydol a'r diwylliadol yn ogystal.

O dderbyn syniad Layard am natur Culhwch ac Arthur fel Ego a Hunan yr un person, fe ddatrysir y broblem, i raddau helaeth.

Ond i Layard y mae hi'n elfen gadarnhaol ac angenrheidiol, fel y 'fam' sy'n mynnu cychwyn y broses neu'r ddefod o urddo'r mab a'i ddiwyllio i fod yn berson dynol cyflawn, yn ogystal â bod yn wryw ac yn anifail greddfol.

I Layard, mae'r ddwy widdon yn adlewyrchu'r ddwy fam a roes fod i Culhwch ac a fabwysiadodd Culhwch, yn eu tro.

Nid person ydyw Culhwch i Layard, ond Ego, sef craidd person, sy'n gorfod mynd ar ofyn yr Hunan, sef Arthur, i'w helpu i gyflawni'r tasgau sy'n angenrheidiol er mwyn cael rhyddhad oddi wrth ddylanwadau a hualau a osodwyd arno, neu er mwyn medru dod i delerau, a dysgu cyd-fyw, â hwy.

Gwedd arall ar y hehongliad rhywiolfrydig yma ar y chwedl ydyw'r ffordd y gwêl Layard y Pair Diwrnach Wyddel, sy'n gyfarwydd inni o chwedloniaeth Iwerddon, fel 'croth', sy'n arwydd o allu'r elfen famol i gynhyrchu bywyd, ac i'w ddistrywio.

Mae'r esboniad yma gan Layard yn un manwl, gofalus ac yn fewnol gyson.

Mae Layard, fel Jung, yn pwysleisio agweddau deublyg, amwys pethau a phobl a chreaduriaid, yn gweld y ddrysien ddeuben a dyfodd ar fedd mam fiolegol Culhwch, Goleuddydd, fel arwydd o'r hyn yr oedd yn rhaid iddo ei wynebu ac ymgodymu ag ef wrth gychwyn ar ei bererindod at oedoliaeth.

Y ffigur pwysicaf y mae'n ofynnol inni dderbyn dehongliad Layard ohono, er mwyn gwerthfawrogi ei holl ddamcaniaeth am y chwedl, ydyw Ysbaddaden Bencawr.

Yn ei rhagair mae hi'n esbonio mai ceisio gweld ystyr, fel y mae'r gair hwnnw'n tarddu o'r Lladin historia, y mae Layard wrth drafod Culhwch ac Olwen.

Mae Layard yn trafod chwedlau perthnasol eraill, megis hanes Zeus a Hephaestus a Thetis, a hanes geni Athene, byd duwiau'r hen Aifft a byd Aborigineaid Awstralia.