Nes ymlaen, cafodd fynd i aros i le Richard Williams ar lechwedd Mynydd Llwyd i ddod a'r eneth fach wrth ei sgîl ar gefn ceffyl i'r ysgol fach to gwellt o dan ofal yr athro Owen Williams o Gymru.
Pan tua thair neu bedair milldir o Memphis, a'r ffordd yn rhedeg drwy ganol meysydd llydain a gwastad o bob tu i ni, gofynnai Mr Eleazar Jones i deithiwr a ddigwyddai eistedd ar ei gyfer, gan gyfeirio at faes ar lechwedd bychan gyferbyn â'r ffenestr, â rhyw fath o growcwellt hir yn tyfu arno, nad oedd Mr Jones yn hollol sicr beth ydoedd, - `Cnwd,' ebe fe, `o ba beth yw hwn ar y maes yna?' Ebe'r dyn, gan godi ei ysgywddau ac ysgwyd ei ben gydag ochenaid, `that is a war crop!' - Cnwd rhyfel ydyw hwnyna!
Y mae i'r plwyf hwn ei batrwm ffisegol yn ei nentydd a'i afonydd, ei ffyrdd a'i ffermydd, ei gloddiau a'i gaeau, ei bant a bryn, ei goed a'i ddrysni, ei lechwedd a'i wastadedd, ei wyndwn sych a'i rosydd corsiog.