Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ledu

ledu

Rhoddai ystyriaethau o'r fath ysgogiad i'r teulu hwn ac eraill cyffelyb iddo i ledu eu gorwelion cymdeithasol ac ennill cryn awdurdod iddynt eu hunain yng ngogledd Cymru.

Pa neges oedd yn eu hysgogi i grwydro tros leoedd anhygyrch ym mhob tywydd i ledu'r newyddion da?

Cytunwyd y dylid rhoi blaenoriaeth uchel i Gynllun Darllen Graddedig yn yr ail iaith; dd) bod angen goresgyn yr anhaster o ledu cynllun darllen o un sir i'r llall; e) bod yr Uned Iaith yn gwneud cais i'r Swyddfa Gymreig am Swyddog Cynradd a fyddai'n ymwneud â mamiaith ac ail iaith.

Y dail cennog sydd gochaf, ond mae'r dail ifanc yn eithaf coch tra mae'r crychni ynddynt, ond wedyn yn glasu wrth ledu a heneiddio.

Yna, gwelir newid yn naws y darn fel y mae'r rhythm yn newid i ganiata/ u i Hiraethog ledu'r ffocws er mwyn y gomedi.

Ond y mae Humphrey Llwyd yn pwysleisio bod y Gymraeg yn ei grym yn y man drefi, ac yn wir ei bod yn tueddu i ledu dros afon Dyfrdwy.

os yw cymru am ledu'r bêl i ieuan evans a nigel walker yna bydd yn rhaid i jenkins ddarllen y gêm yn well yn dactegol nag a wnaeth achos nid yw'n ddigon da dewis maswr ar sail ei ricio yn unig.

Roedd y plant yn gorfod sefyll yr wythnos yn Aberhonddu, ac arferai bws rhyw fath o lori - ddod lan unwaith yr wythnos i fynd â nhw i'r dre'.' Er hynny, gwnâi'r athrawon eu gorau i ledu gorwelion eu disgyblion, gyda thripiau i Abertawe i ddangos y môr iddynt, neu i weld Cefn Brith.

Mae nhw wedi mabwysiadur dacteg o ledu ar draws y cae er mwyn ymateb i unrhyw fygythiad.

Mewn rhan o Asia lle roedd y Moslemiaid yn fwyafrif llethol hyd nes dyfod cyfnod Stalin, mae crefydd yn blodeuo eto a'r grefydd honno yn ei thro yn erfyn y gellir ei ddefnyddio i ledu'r bwlch rhwng Uzbekistan a Rwsia.

Os ni'n meddwl taw lledu'r bêl sy angen - fe wnawn ni ledu hi.

Perthynai Bowser i deulu a ddeilliai o Swydd Efrog o ardal Castle Howard ond yn araf gwasgarodd y teulu fel y ceisiai'r aelodau ifanc ledu eu hesgyll i chwilio am borfeydd brasach.

Clywodd E. H. Jones y waedd a chyhuddodd y myfyrwyr o ledu digalondid bradwrus a'u gorchymyn i ddod i'w ystafell tra oedd yn galw'r heddlu.