Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lein

lein

Ni ddefnyddiai lein ond i gychwyn gwal neu adeilad er mwyn cael y mesur a'r sylfaen--a dyna hi wedyn; dibynnai'n gyfangwbl ar ei Iygad a synnwyr bawd a byddai pob gwal yn berffaith union.

Arferai 'Nhad ac amryw eraill osod cefnen - lein hir a bachau arni- i bysgota a defnyddient lymriaid yn abwyd.Dalient lawer o bysgod:lledod, draenogiaid a chathod mor yn bennaf.

Tudalen diddorol lluniau 'Ddoe a Heddiw' a hyd yn oed copi o cofnodion cyfarfod diweddaraf o Gyngor Tref Penrhyndeudraeth ar gael ar-lein.

Newid i lein Caer yn Ninbych.

Yn aml iawn fe ddeuai llais Rwsiaidd ar y lein yn rhybuddio'r un oedd yn galw fod honno wedi mynd am ei swper ac felly roedd rhaid aros tan iddi ddychwelyd cyn ein cysylltu ni â Phnom Penh.

BBC Cymru Wales yw'r unig ddarlledwr sy'n cynhyrchu gwasanaethau yn y Gymraeg a Saesneg ar radio, teledu ac ar-lein, gan adlewyrchu bywyd a thalentau Cymru yn eu holl amrywiaeth mewn rhaglenni a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru.

Edrychodd Alun ar y lein.

Dywed yr hen awdurdodau bod yn rhaid cael tywydd caled, a'r lein yn rhewi ym modrwyau'r enwair.

'Nid yw y penderfyniad hwn yn effeithio ar y cystadlaethau barddoniaeth arbennig ar-lein a gyhoeddwyd ar wefan yr Eisteddfod ac atgoffir i'r beirdd sydd yn defnyddio'r Wê ac e-bost bod cyfle i gystadlu trwy'r amser ar y rhyngrwyd,' meddai llefarydd.

Wrth wylio'i lein yn y dw^r teimlai'n fodlon braf.

Er ei fod yn y rheng ôl yn y sgrym, safai Gareth Llywelyn wrth ymyl Anthony Copsey yng nghanol y lein, ond y Sais a enillodd y gystadleuaeth honno o ryw ychydig.

Byddai'r lein yn bachu yn y coed oedd yn tyfu ar lan yr afon.

Tynnodd Alun ei gyllell o'i boced a thorri'r lein.

Cewch wybodaeth fanwl am ein hymgyrchoedd ac amcanion yn y dogfennau sydd ar gael ar-lein yma.

Cododd y lein o'r dw^r ...

Dechreuais daflu lein ar draws ac i lawr.

Bwriad y Comisiwn Ffilm yw hyrwyddo'r defnydd o adnoddau a lleoliadau Canolbarth Cymru ar gyfer cynhyrchu ffilmiau, rhaglenni teledu ac hysbysebion. Y tudalen flaen yn unig sydd yn y gymraeg, ond mae 'na luniau lleoliadau a'r cyfle i cysylltu a'r Comisiwn ar-lein.

Yr oedd yn frodor o'r ardal, ond fel yr awgrymais, y peth arbennig o ffodus yn ein cyfarfyddiad oedd mai ganger oedd Mr Jones cyn i'r lein gau.

Os gadewir yr awr fawr yn rhy hwyr, bydd cyfnod yr 'hanner cyntaf' pan chwery'r sewin ar yr wyneb gan gymryd ambell bluen ar lein nofio (floating line) wedi darfod.

Roedd o'n mynd i neud troli i symud y weldar o gwmpas y lle, trwshio'r cafn dŵr yn y beudy, trwshio'r lein ddillad a choncritio'r cowt i'r Wraig, a phe cai amsar byddai hyd yn oed yn rhoi hoelan yn y lechan rydd uwchben drws y beudy!

Cadarnhawyd eisoes eu bod yn rhan o'r lein-yp ar gyfer Gwyl y Gwyniad a gynhelir rhwng yr ail a'r nawfed o Fedi; ond os na fedrwch chi aros tan hynny ewch draw i Dy Newydd Sarn ar Fehefin 30.

'Dwi'n deud wrtha chi rwan, isio'u ffrog- martsio nhw i gyd i'r ffrynt lein sy, i'r Jyrmans gal practis saethu.'

Tawelodd y lein a safodd Angharad yn fud.

Rhaid, drwy gyffyrddiad y bysedd ar y lein, ddychmygu taith y plu ar y blaen llinyn, a thrwyddynt gyfieithu pob cyffyrddiad ac ystum o'u heiddo yn ddarlun o'r hyn sy'n digwydd yn y pwll.

Yn ara deg yr oeddwn yn adennill lein i'r rîl.

Egyr Ifans ddorau'r ffenestr a llifa'r golau i mewn; oherwydd y golau, nid ydym yn ymwybodol o'r diffyg trydan na'r ffon heb lein ac mae yna elfen stori dditectif, dod i wybod mwy, yn y plot.

Ffurfiwyd Cymdeithas Rheilffordd Eryri i gefnogi ac i gymryd rhan flaenllaw yn y broses o atgyweirio a chynnal y Rheilffordd ac mae'n cefnogi Rheilffordd Ffestiniog yn y gwaith o ailadeiladu'r lein.

Pnawn addysgiadol arall yn olrhain hanes datblygiad y lein, y gweithfeydd oedd yn gysylltiedig a'r datblygiad yma a'r bobl oedd ynglŷn â'r holl fenter.

suai'r lein wrth dorri'r dwr wrth iddo ruthro i fyny'r pwll.

Genwair ddeg troedfedd ffibr carbon, rîl yn cario lein nofio AFTM.

Clywodd lais Kirkley yn galw'i enw dros y lein.

A rywsut, unwaith yr oedd Mam ar ben arall y lein, roedd hi'n amhosib ei siomi efo'r araith yr oedd hi wedi ei pharatoi mor ofalus.

Mae meddwl am gael eich lladd, nid ar y lein ffrynt, ynghanol môr o gyhoeddusrwydd, ond yn y dirgel, heb dystion, yn hunllef.

Taflwyd cerrig, llechi a rheiliau gan rai o'r cannoedd o bobl a safai oddeutu'r lein.

Ebe fe yn y man: "Dyna ni, Der, ni sy'n y ffrynt lein ran." Y mae'r ffrynt lein honno heddiw yn deneuach o lawer hebddo ef.

Roedd un Llandudno fel stryd gefn o'i gymharu a hwn a ymestynnai o'r naill ochr i'r llall yn un lein ddillad hir, ddi-ben- draw gyda phob math o geriach yn rhyw fudr symud uwch ei ben.

Rhan o'i ddyletswydd beunyddiol cyn iddo ymddeol oedd cerdded ar hyd trac y rheilffordd ar hyd y gangen a arweiniai o lein Aberystwyth i gyfeiriad Castellnewydd Emlyn pellter o ddeng milltir, i wneud yn siwr fod pob allwedd, os hynny yw'r term sy'n cyfieithu 'key', yn ei lle rhwng y cledrau ac ochr allanol y cwpanau dur a i daliai.

Anfonwch ambiwlans, mae Williams yn fyw o hyd.' 'Ble ry'ch chi nawr, syr?' Roedd tinc o nerfusrwydd yn llais Kirkley ar ben arall y lein; fel arfer rhedai gweithgareddau'r adran yn llyfn a digynnwrf.

Wrth gwrs, roedden ni'n delio â gwledydd a oedd yn wleidyddol sensitif a does gyda ni ddim ein llywodraeth ein hunain gyda'i buddiannau a'i buddsoddiadau ariannol ac ideolegol ar draws y byd i greu `lein' i ni ei dilyn.

Siop lyfrau hynaf Rhydychen sy'n cynnig gwasanaeth ar-lein ar gyfer llyfrau newydd a rhai ail-law.

Mae'r Cyngor hefyd yn falch bod adnoddau ar gael yn awr i gyflawni amcanion ar-lein ar gyfer y ddwy iaith.

Yn sydyn teimlodd blwc ar y lein.

Dechreuodd fynd rownd a rownd ar lein dyn.

Amazon.co.uk yw siop lyfrau ar-lein sy'n cynnig dosbarthu pob llyfr Prydeinig yn fyd-eang.

Dewi Llwyd ydy'r cyflwynydd ac mae'n edrych ymlaen at gael cwestiynau neu sylwadau ar bynciau llosg y dydd oddi wrth wylwyr ar-lein y gyfres.

Gwna dy ffilm ar-lein dy hunan.

Cyn iddo fedru meddwl am ateb clyfar teimlodd Bleddyn rywbeth yn tynnu ar y lein.

...Paid ƒ thynnu cymaint neu mi dorri di'r lein,' oedd cyngor Alun.

Pan symudodd y milwyr i glirio pobl oddi ar y lein, trodd y dyrfa'n elyniaethus.

'Bwriad y Comisiwn Ffilm yw hyrwyddo'r defnydd o adnoddau a lleoliadau Canolbarth Cymru ar gyfer cynhyrchu ffilmiau, rhaglenni teledu ac hysbysebion.' Y tudalen flaen yn unig sydd yn y gymraeg, ond mae 'na luniau lleoliadau a'r cyfle i cysylltu a'r Comisiwn ar-lein.

Ni fu'n disgwyl yn hir cyn teimlo'r cnoc cnoc drwy'r lein a ddaliai yn ei law.

Syrth calon Bronwen 'fel pendil cloc pan dorro ei lein' ('Gorymdaith'); mae Lora'n teimlo ias 'tebyg i'r un a gafodd pan oedd yn blentyn, pan dorrodd lein y cloc mawr yn y gegin, gefn trymedd nos' (Y Byw Sy'n Cysgu); cwyd y pwysau oddi ar fynwes Bet 'yn araf, fel pendil doc yn codi wrth ei ddirwyn' (Tyroyll Heno).

Aeth y lein yn fyrrach.

yw'r siop lyfrau ar-lein gyntaf yn Awstralia sydd ar gael i'r cyhoedd ar y Rhyngrwyd.

Ac y mae gennyf gof sicr am gangers lein-gangen Aberteifi yn cerdded ar hyd y lein â morthwyl hirgoes yn eu llaw i yrru'r allweddau disberod yn eu holau.

Wedi gwneud yn siw^r fod y pwysau ar y lein yn ddigon trwm i suddo'r abwyd rhoddodd Alun ei lein yn dw^r a gadael i'w wialen symud gyda'r lli.

"Ti'n sylweddoli dwad, gwaith cofio sy' 'na, camras, goleuada, meicraffons, a chei di ddim deud dy lein yn rhywla, rhywla sdi, rhaid i chdi ddeud dy linellau yn yr un lle bob tro, neu mi fydd y cyfarwyddwr.