Cyn hir dechreuodd ysgrifennu'r llyfrau hynny a ddaeth yn rhan mor ddiddorol a phwysig o ryddiaith lenyddol Gymraeg, llyfrau gŵr dysgedig o lenor yn ysgrifennu ar gyfer y genedl fach y cododd ef ohoni.
Ond trwy wneud hyn caiff ei longyfarch ei hun ei fod yn foddion achub ei genedl rhag marwolaeth, tra ar yr un pryd yn ei brysur ladd ei hun fel gwir lenor.
Ar un adeg roedd hi'n anodd iawn i lenor o Gymru yn sgrifennu yn Saesneg gael hynafiaid fel hyn - yn sicr, nid hynafiaid mo Herbert a Vaughan, a dim ond soffistigeiddrwydd academaidd yw ceisio'u galw yn Eingl-Gymry.
Mae hi bron yn amhosib i lenor proffesiynol sy'n byw ar ei ysgrifbin neu'i brosesydd geiriau ennill ei damaid wrth ysgrifennu yn Gymraeg yn unig, er bod y sianel deledu Gymraeg yn siŵr o fod wedi bod yn gaffaeliad yn hyn o beth.
mae'n anodd meddwl am ddau lenor mwy gwahanol i'w gilydd na Kate Roberts a Lewis Jones.
Mae'n ddigon naturiol, wrth gwrs, os bydd bardd neu lenor yn gweld rhyw debygrwydd rhwng ffurf lenyddol estron ac un o ffurfiau ei lenyddiaeth frodorol ei hun, iddo roi cynnig ar gyfieithu rahi enghreifftiau o'r naill iaith i'r llall.
Gweinidogion oedd golygyddion y mwyafrif llethol ohonynt ac yr oeddent yn awyddus i gefnogi llenorion ac nid oedd dim yn rhoi cymaint o hwb i lenor ifanc â gweld ei waith mewn print.
o ystyried bod cynifer o lenorion ac artistiaid dros y blynyddoedd yn hoyw, tybed nad oes yna fantais i lenor fod felly?
Petai'n onest, pa lenor o Gymro na fyddai'n cyfaddef iddo gael ei demtio i sgrifennu yn Saesneg am ryw reswm neu'i gilydd?
Fe'n rhybuddiwyd gan Saunders Lewis flynyddoedd yn ôl y dylid disgwyl gan lenor neu ysgolhaig amgenach pethau na'r rhai y gall pawb arall eu rhoi i ni.