ii) i ddechrau ffurfio canon o lenyddiaeth Gristionogol a wrthodai syniadau Gnosticaidd, ac a danlinellai'r parhad rhwng proffwydoliaeth yr Hen Destament a chenhadaeth Crist;
Mewn un dosbarth o lenyddiaeth ganoloesol fe gynigir i ni bortread o Arthur sy'n gwbl groes i'r un arferol.
Yn wir, un o siomedigaethau llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif yw bod profiadau mawr y bro%ydd diwydiannol wedi esgor ar gyn lleied o lenyddiaeth storiol dda.
Pan yw'n gwneud gosodiadau cyffredinol am lenyddiaeth, ei duedd yw pwysleisio elfennau fel crefft a deall, ond wrth drafod llenorion unigol, y maent yn aml yn ei gario ar donnau angerdd nes ei fod yn traethu ar ddwyster eu gweledigaeth o fywyd.
Er bod Cymry Cymraeg yn ffurfio cyfran sylweddol o ddarllenwyr cylchgronau llenyddol Saesneg Cymru, fel yr Anglo-Welsh Review a Planet, ac er (neu efallai oherwydd) bod adran Saesneg gan yr Academi Gymreig, ychydig iawn o gydberthynas ac o gyd-drafod sydd wedi bod rhwng y ddwy lenyddiaeth.
Mae Derfel i raddau'n dilyn barn y Dirprwywyr Addysg yn y Llyfrau Gleision am gyflwr Cymru; er enghraifft, eu cyhuddiad nad oedd neb o bwys erioed wedi codi o rengoedd gwerin Cymru, ac nad oedd unrhyw lenyddiaeth o werth yn y Gymraeg, ac i raddau y mae'n pastynu pethau a oedd yn gas ganddo ef yn bersonol, megis beirniadaethau eisteddfodol neu awen glogyrnaidd y beirdd Cymraeg.
Oherwydd diffygion y gorffennol dywed fod yr angen yn bod yn awr i greu trwy edrych dros yr ysgwydd fel petai lenyddiaeth fawr am lowyr Cymru.
Dwy Lenyddiaeth Cymru yn y Tridegau - Dafydd Johnston
Ac yntau o gefndir glofaol ei hun y mae'r ffaith fod gan lenyddiaeth Gymraeg gyn lleied i'w ddweud am ddiwylllant y glowr yn achos loes arbennig i Hywel Teifi.
Roedd y 'Llythyr' yn ble dros ddifrifwch llwyr, dros lenyddiaeth gyfrifol, dreiddgar - nid llenyddiaeth addurnol, dlos, sentimental neu bietistaidd.
Fel y cawn weld, mae agweddau'r beirdd a'r llenorion Cymraeg at y clasuron yn amrywio'n aruthrol, ond prin iawn y gwelir un ohonynt yn methu ag ymateb o gwbl i lenyddiaeth glasurol.
Ac wele, yn agwedd Williams at lenyddiaeth, yr un hawl arloesol ag a welwyd yn ei a~wedd at ei ~refydd.
Trown yn awr at lenyddiaeth Gymraeg.
Cyfrifiaduron Sycharth - Safwe sy'n llawn o lenyddiaeth i blant ac oedolion.
Roedd i lenyddiaeth hefyd rôl bwysig yn y cyswllt hwn.
A'r ail gyfnod yr oedd a fynnai W J Gruffydd yn ei bapur i Urdd y Graddedigion, ac â Dafydd ap Gwilym yn fwyaf neilltuol; yn wir, iddo ef, Dafydd ap Gwilym oedd yr arwydd benodol gyntaf yn dangos ddyfod o'r ail gyfnod i lenyddiaeth Gymraeg.
Yr oedd yn Sarah Owen, meddai ef, 'ryw ddefnydd anghyffredin', nid yn unig yn gorfforol - cerddodd bedair milltir a deugain un diwrnod gwresog gan gario plentyn ar ei braich y rhan fwyaf o'r ffordd - eithr hefyd yn feddyliol, oblegid er ei bod yn anllythrennog, yr oedd ganddi gof cryf a chariai lawer o lenyddiaeth arno.
Nid yw barn y sawl sy'n adnabod, er enghraifft, un bardd yn unig neu un math o lenyddiaeth yn unig yn farn i ddibynnu arni.
Llew' drwy'r blynyddoedd ym myd llyfrau plant, o'r dyddiau cynnar hynny (ar ddechrau'r pumdegau) pan gâi cyrsiau i awduron eu cynnal yn y Cilgwyn, Castellnewydd Emlyn, at ennill Gradd MA Prifysgol Cymru am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant.
Ni chyfrannodd yr ardaloedd diwydiannol ddim newydd chwaith i'r bywyd cymdeithasol Cymreig nac i lenyddiaeth yr eisteddfodau.
Hawdd yw edmygu pob un o'r creaduriaid hyn ond annisgwyl braidd yw'r toreth o lenyddiaeth a gyhoeddwyd yn flynyddol sy'n ymwneud a hwynt.
oherwydd y drwg mawr a all ddigwydd i lenyddiaeth o'i throi hi'n israddol i wleidyddiaeth a phroblemau politicaidd, megis pwnc yr
Ar ei ddychweliad i Fangor gofynnwyd i'r darlithydd newydd draethu ar amryw bynciau, gan gynnwys Gramadeg Hanesyddol, y chwedlau canoloesol a pheth o lenyddiaeth Oes Victoria.
Cefais fy nghyflwyno'n gwbl annisgwyl i gorff o lenyddiaeth y gallwn weld fod ei bethau gorau yn deilwng i'w gosod ochr yn ochr â rhai o brif greadigaethau'r dychymyg mewn llenyddiaethau eraill.
Cynhyrchwyd corff enfawr o lenyddiaeth Gymraeg o dan nawdd yr eglwysi a'u gweinidogion.
Yn ystod ei yrfa academaidd astudiodd lenyddiaeth yr holl gyfnodau a chyhoeddi cryn dipyn ar bob un.
Rhaid i lenyddiaeth fod â chydbwysedd artistig, ond gan na cheir hynny mewn pornograffwaith, ni all hwnnw fod yn llenyddiaeth dda.
Roedd iddo ymhlygiadau gwleidyddol, am fod ei ddiffiniad o lenyddiaeth ynghlwm wrth ei syniadau am hanfodion cenedl.
Yr enghraifft gyflawn gyntaf o lenyddiaeth fodern mewn Cymraeg yw'r Bardd Cwsc.
Credai Saunders Lewis fod 'ymwybod o bechod' yn angenrheidiol i lenyddiaeth.
Iddo ef, ni allai unrhyw lenyddiaeth fodoli yn annibynnlo ar lenyddiaethau eraill oni bai ei bod yn perthyn i genedl neilltuol a'i hiaith a'i thraddodiadau ei hun.
Cynigiwyd y Fedal Lenyddiaeth am y gwaith llenyddol gorau.
Y llynedd cefais innau flwyddyn Sabothol, a threuliais hi yn dechrau darllen ar gyfer astudiaeth arfaethedig o ddylanwad y Beibl ar lenyddiaeth Gymraeg y canrifoedd modern.
Y mae celfyddyd ysgrifennu a chreu unrhyw fath o lenyddiaeth yn ffrwyth hyfforddiant o fath gwahanol i'r hyn a geid yn yr ysgol Sul.
JE Caerwyn Williams, yn ei ddull manwl arferol, a sicrhaodd gywirdeb y testun, ac achubodd hefyd ar y cyfle i ychwanegu, o'i wybodaeth hynod eang am lenyddiaeth Cymru ac Ewrop yn y cyfnod canol, doreth o nodiadau tra defnyddiol ar fanylion iaith a chynnwys a fydd yn goleuo'r testun mewn modd amheuthun i bawb a fydd yn ei ddefnyddio.
Rhoddir cyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan gyflawn mewn amrywiaeth o weithgareddau llafar gan ddod ar draws amrediad eang o lenyddiaeth a thestunau eraill, gan gynnwys deunydd gyda dimensiwn Cymreig.
Yn wyneb yr ymosod a fu ar ymdriniaeth Ffowc Elis â chenedlaetholdeb yn ei lenyddiaeth dyma Derec Llwyd Morgan yn achub ei gam.
Mae'n ddigon naturiol, wrth gwrs, os bydd bardd neu lenor yn gweld rhyw debygrwydd rhwng ffurf lenyddol estron ac un o ffurfiau ei lenyddiaeth frodorol ei hun, iddo roi cynnig ar gyfieithu rahi enghreifftiau o'r naill iaith i'r llall.
Perthyn y llyfr i fath o lenyddiaeth a ffynnai ymhlith Iddewon a Christnogion yn y dyddiau tyngedfennol hynny.
Felly, er mwyn ceisio'u paratoi hwythau i allu hyfforddi eu praidd bu raid cyfieithu i'w mamiaith ar eu cyfer lawer o lenyddiaeth grefyddol yr oes a ysgrifenasid yn Lladin yn wreiddiol.
Synhwyrir mai'r hyn a olyga yw nad â chanonau moesol y dylid beirniadu darn o lenyddiaeth, er mae'n siwr yr honnai hefyd na ellir ysgaru llenyddiaeth yn llwyr oddi wrth adrannau eraill bywyd.
Enwebu Saunders Lewis am wobr lenyddiaeth Nobel.
Eto i gyd, yr oedd prif elfennau fersiynau Cyfandirol hanes y cariadon yn bur hysbys y tu allan i lenyddiaeth ysgrifenedig.
Hyn sy'n esbonio'r corff sylweddol o lenyddiaeth grefyddol yn y Gymraeg ac mewn ieithoedd eraill a oroesodd o'r Cyfnod Canol.
Er hynny, yr oedd Gwybod yn arbrawf ardderchog ac yn gyfraniad gwerthfawr at lenyddiaeth addysgol plant y genhedlaeth honno.
Ceir darnau gan Watcyn Wyn, Gwydderig a Gwalch Ebrill mewn amryw o'i bamffledi, ac er mai enw'r Meudwy sydd ar glawr Llon lenyddiaeth y gweithiwr (Abertawe c.
Y cwestiwn hanfodol, meddai ef, yw a yw 'pentwr o aflendid' yn hanfodol mewn darn arbennig o lenyddiaeth.
Mae'r Academi a Chyngor y Celfyddydau hwythau wedi chwarae eu rhan ac mae i lenyddiaeth Eingl-Gymraeg rywfaint o le yng nghyrsiau'r Brifysgol.
(Nid y peth lleiaf yng nghynhysgaeth feirniadol Mr Thomas yw ei wybodaeth o lenyddiaeth Saesneg y cyfnod ar ei hyd: mae yma ym Mhennod II astudiaeth gymharol rhwng Henry Vaughan a Morgan Llwyd sy'n berl.)
Yr oedd ei ymchwiliadau i lenyddiaeth yr Oesoedd Canol wedi ei arwain i synio am gelfyddyd fel disgyblaeth:
Diolch i'w fagwraeth, bydd yn well gan yr Eingl-Gymro lenyddiaeth Saesneg.
Nid trwy lyfr yn unig yr ymledodd hanes Trystan ac Esyllt, ac o gofio poblogrwydd golygfa'r 'oed dan y pren' yn y cyfryngau gweledol, hynod yw nodi na adawodd yr elfen bwysig hon yn y fersiynau cyfandirol o'r hanes unrhyw ôl ar lenyddiaeth Gymraeg.
Ond yr oedd yn Morris- Jones, a dysg y Brifysgol a enillasai'r genedl iddi ei hun, trwythwyd holl lenyddiaeth Cymru â moddau a meddyliau newydd.
Pan ddaeth y Gymraeg yn iaith crefydd mewn ffordd a oedd yn unigryw ymhlith y gwledydd Celtaidd, yr oedd gan y Cristnogion lenyddiaeth wych.
Nofel fuddugol Medal Lenyddiaeth Gwyl yr Urdd 2001.
Cyn trafod y daliadau eu hunain, rhaid yn gyntaf arolygu agwedd y Methodistiaid at lenyddiaeth fd y cyfryw, callys y mae a wndo'u hagwedd gryn lawer â'u dull o fynegi'u meddyliau, a chryn lawer hefyd ~ dirnadaeth eu darllenwyr ohonynt.