Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lenyddol

lenyddol

Cyn hir dechreuodd ysgrifennu'r llyfrau hynny a ddaeth yn rhan mor ddiddorol a phwysig o ryddiaith lenyddol Gymraeg, llyfrau gŵr dysgedig o lenor yn ysgrifennu ar gyfer y genedl fach y cododd ef ohoni.

'Doedd dim llawer o arwydd fod y Rhyfel Mawr wedi digwydd yn nwy brif gystadleuaeth lenyddol y 'Steddfod hon.

Ond problem unrhyw ddiwylliant lleiafrifol yw ei bod yn straen ar adnoddau dynol ac ariannol gorfod darparu'r helaethrwydd defnyddiau sy'n angenrheidiol i blesio chwaeth amrywiol y gynulleidfa, ac na ellir chwaith fforddio troi unrhyw ffurf lenyddol i gyfeiriadau rhy esoterig ddeallusol ar draul ennyn diddordeb y mwyafrif (sydd ynddo'i hun yn lleiafrif!) Felly rhaid o hyd ennyn diddordeb yn y gair Cymraeg printiedig trwy gyfrwng pethau fel Cyfres y Fodrwy neu'r papurau bro, er bod y wasg argraffu'n anleu fwyfwy at bobl sy'n meddwl yn ystyriol erbyn hyn.

Ynghanol bwrlwm a chyffro mudiad protest y myfyrwyr y dechreuodd gyrfa lenyddol Peter Schneider.

Angharad Tomos oherwydd ei gwaith ymgyrchu diflino a'i dawn lenyddol.

Mi awn mor bell a dweud mai'r nofel yw'r ffurf lenyddol Gymraeg fwyaf arwyddocaol yn ystod y cyfnod hwn, a hyn er gwaethaf pob arwydd allanol i'r gwrthwyneb.

Er fod techneg ffilm wedi datblygu'n frawychus yn ystod y ddegawd olaf, ochr yn ochr â theledu, ac er fod gwaith Spielberg, er enghraifft, yn gwneud defnydd rhyfeddol o effeithiau gweledol, eto y mae'r ffilm 'lenyddol', ffilm sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar rinweddau'r nofel - cymeriadaeth, ethos lle ac amser ac yn y blaen - yn parhau'n boblogaidd ac yn gwbl dderbyniol ar unrhyw lefel.

Beth oedd oblygiadau'r 'Llythyr' o safbwynt beirniadaeth lenyddol?

Ar wahân i ffilmiau Saesneg mor wahanol i'w gilydd â My Beautiful Landrette a Howard's End a sawl un arall, fe fyddai rhai'n dadlau mai'r ffilm Ffrengig, Manon des Sources, oedd un o ffilmiau mawr yr wythdegau mewn unrhyw iaith, ac yr oedd honno'n ffilm hynod o lenyddol.

Beirniadaeth lenyddol yn trafod y traddodiad barddol.

Gwynn Jones y gadair genedlaethol ym Mangor â'i awdl enwog "Ymadawiad Arthur", ac yn yr un flwyddyn ymddangosodd erthygl gan John Morris-Jones yn Y Traethodydd, sef datganiad o gyffes ffydd lenyddol yr adfywiad.

Ceir yn y ddwy yr un awydd i gyfuno'r brotest lenyddol esthetig a'r defnydd o gyfryngau barddonol blaengar, newydd.

Rhaid deall Keats and Shakespeare yn erbyn cefndir ehangach y ddadl lenyddol-grefyddol rhwng Murry a T.

Yn y Gymru sydd ohoni heddiw, nid oes ateb llenyddol i'r broblem lenyddol.

Er bod lle i ddal fod Traed mewn Cyffion yn rhy gynnil mewn mannau, ac mewn perygl o droi'n gronicl moel, rhaid derbyn yn gyffredinol nad yw Lewis Jones ddim yn yr un cae a Kate Roberts lle mae celfyddyd lenyddol yn y cwestiwn.

Mae'n ddigon naturiol, wrth gwrs, os bydd bardd neu lenor yn gweld rhyw debygrwydd rhwng ffurf lenyddol estron ac un o ffurfiau ei lenyddiaeth frodorol ei hun, iddo roi cynnig ar gyfieithu rahi enghreifftiau o'r naill iaith i'r llall.

O sylwi fel y trodd bopeth a ddywedodd yn 'Safonau Beirniadaeth Lenyddol' â'i wyneb i waered yn 'Swyddogaeth Celfyddyd', mae hynny'n sicr o fod yn wir.

Nid sôn yr wyf am yr isfyd llenyddol, lled- lenyddol a chymdeithasol a ddatguddiwyd gan ysgrifenwyr fel Steven Marcus, Fraser Harrison, Kellow Chesney, Peter Gay ac eraill.

A allai'r Frawddeg Annormal fod yn ganlyniad syml i arfer y mynaich o siarad Saesneg, rhyw fath o ddullwedd neu snobyddiaeth lenyddol?

Gwaith creadigol, ar unrhyw ffurf lenyddol, yn dangos tyndra rhwng dyn a'i gydwybod.

Er hynny, wrth ymdrin â gweithiau fel nofelau Daniel Owen a Charadog Prichard, a cherddi megis 'Atgof' Prosser Rhys, yn unig y cawsom ddirnadaethau seiciatreg yn cael eu cyfaddasu at feirniadaeth lenyddol Gymraeg.

Tra medrwn ni greu cystal ffilmiau â Hedd Wyn, does dim angen i ni ymddiheuro am natur 'lenyddol' ein meddylfryd ffilmaidd.

Ysgrifennai'n rhwydd a gofalus gyda'i iaith yn raenus, gywir a heb fod yn rhy lenyddol a chymhleth.

Mae yn ymdrin a sawl agwedd o sgrifennu Robin gan gynnwys ei ddefnydd diddorol ac arloesol o iaith lenyddol a'i dechnegau naratif.

Eisteddfod lenyddol yn unig oedd hon.