Wedi'r cyfnod hwn o ailddarganfod ffydd yn ei weledigaeth wleidyddol mae Lenz yn dychwelyd i Berlin.
Ymlaen wedyn i Trento ac yma o'r diwedd y mae Lenz yn darganfod yr hyn y mae wedi bod yn edrych amdano.
Ond tra mae Lenz yn ymwneud ag effeithiau'rsiom a deimlai Schneider a nifer o'i gyfoedion wedi chwalfa'r mudiad mawr, mae'n diweddu ar nodyn positif.
Ni fedrant ddeall person sy'n ymgymryd â'r fath waith undonog o'i wirfodd a methiant yw ymdrechion tila Lenz i egluro, am nad yw ef ei hun yn argyhoeddiedig o effeithiolrwydd y dacteg hon i greu rhyw fath o ddealltwriaeth rhwng y myfyrwyr a'r gweithwyr.
Ychydig y mae pethau wedi newid yno ond mae Lenz yn synhwyro bod yno nawr fwy o gysylltiad personol rhwng y myfyrwyr ac y mae'n barod i ymgymryd â'r gwaith unwaith eto.
Hanes y myfyriwr, Lenz, sydd yma, dyn ifanc a oedd wedi bod yn weithgar ynghanol cynnwrf y chwedegau ond sydd, ar ôl cael ei siomi pan ddaeth y cyfan i ben, yn teimlo'n gynyddol ynysig.
Metha Lenz dderbyn hyn ac o ganlyniad mae'n mynd i deimlo'n fwyfwy ynysig ac yn y pen draw mae'n gadael Berlin am Yr Eidal, taith gyfarwydd i gymeriadau llenyddol yr Almaen pan mae gofyn am eli i'r galon.
Mae'n amlwg fod Lenz yn gweld colli'r emosiwn a'r angerdd a oedd yn rhan o brotestiadau'r chwedegau ac yn teimlo mai llwm a dideimlad yw gwleidyddiaeth y saithdegau cynnar mewn cymhariaeth.
Nid ydynt erioed wedi profi'r hollt a oedd mor boenus i Lenz yn Berlin.