Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

les

les

Wel, pa les mynd o flaen gofid?

Bu Les a Jessie Powell, Abercraf, yn aelodau a chefnogwyr brwd i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r cychwyn cyntaf.

Cymysgedd yr ydw i'n dechra amau y byddai o ddirfawr les i Gruff acw wrthi - achos mai fo ydy'r unig ddyn yng Nghymru, synnwn i ddim, sy'n cwyno ei fod o wedi blino gormod a bod ganddo fo gur yn 'i ben ar yr un pryd.

Gall craciau yn y selydd ollwng dwr i mewn fel y gallasai'r awdur fod wedi dysgu ar ei les yn y dyddiau cynnar.

Cafodd y prif ddiwydiannau eu gwladoli, roedd perthynas glØs rhwng y wladwriaeth a'r undebau llafur, a chrewyd gwladwriaeth les enfawr.

Roeddynt wedi eu gwisgo mewn sidan lliw eirin gwlannog wedi eu haddurno a les gwyn ac yn cario blodau gwyn ac eirin gwlanog.

Bid siŵr y mae ymyrraeth Llywodraeth â bywyd cymdeithasol yn y Wladwriaeth Les yn cyrraedd ymhellach nag a ddychmygwyd yn y ganrif ddiwethaf.

Dywedodd Churchill mai ef oedd 'y Cymro mwyaf ers y Brenhinoedd Tuduraidd'. Sefydlodd y Wladwriaeth Les, arweiniodd Brydain drwy'r Rhyfel Mawr, a dinistriodd y Blaid Ryddfrydol.

Y farn yw y gall y llyfr iawn wneud byd o les i rywun syn teimlo dan y don.

Y mae'r plu chweochrog yn rhan annatod o dymor yr hirlwm a diau y gwna'r eira lawer o les wrth ladd hadau anhwylderau mewn dyn ac anifail a thir.

Ond pa les oedd hynny?

Dau grŵp sydd: Gŵr Glangors-fach a'i ddwy ferch, etifeddion y bobl a blannodd y gors a gwneud tyddyn; a dau frawd, sydd wedi priodi dwy chwaer, a chymryd y tyddyn ar les ar farwolaeth yr hen ŵr.

Gwnaeth fyd o les i mi, beth bynnag.

Llongyfarchodd y Cadeirydd Dianne Bishton a Les Oldman o Ganolfan Gynghori Tywyn ar iddynt gwblhau a llwyddo yn y cwrs gohebol ar ddyledion.

Wnaiff o les i'r ysgol.

Wrth reswm mae pawb bron yn unfrydol ynglyn â chydnabod y cyfraniad Meic Stevens i'r byd roc dros y blynyddoedd ac yr oedd yn hen bryd i Les Morrisson dderbyn gwobr am ei waith fel cynhyrchydd gorau ac i ddangos fod Les yn dal i fod mor weithgar - ef sydd wedi cynhyrchu albym newydd Maharishi - Merry Go Round fydd allan ddiwedd y mis ‘ma.

Os oes yna rywbeth wedii guddio, fe ddaw i olwg y byd, ac fe wnaiff fwy o les nag o ddrwg.

Bernid mai'r tad a ddiogelai les ei deulu mewn cyfnod pan na cheid gwladwriaeth oleuedig ddemocrataidd y deuai i'w rhan ofalu am fuddiannau materol ei deiliaid fel y gwneir yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Newyddion Teuluol Hyfryd oedd clywed newyddion da am Rhian a Rhidian Lewis, merch a mab Mr a Mrs Les Lewis, St Mary's Cresc, Garth.

Enillodd LES MILLS o Gaerdydd hefyd wobr am LWYDDIANT UNIGOL ARBENNIG.

Bid a fo am hynny, ni waeth pa ran o'r byd a wel rai ohonynt, digon yw le spectacle: si ordinaire qu'il soit: qu'on a sous les yeux.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Technegol, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor a'r Trysorydd, i roddi caniatâd y Cyngor, fel lanlord, i unrhyw estyniad neu newid saerni%ol i eiddo dan les neu i osod arwydd ar y fath eiddo cyn belled â bod y cyfryw waith neu arwydd wedi derbyn hawl cynllunio neu, os nad oes angen y fath hawl am unrhyw reswm, nad oes gan y Prif Swyddog Cynllunio wrthwynebiad iddo.

Roedd hi'n noson olau leuad dawel, dyner a dywedodd fy mam os lapiwn fy hun yn ddigon cynnes y gwnâi'r cerdded les i mi.

Gwariodd yn helaeth ar wladwriaeth les; un o'r blaenoriaethau oedd dymchwel yr hen gartrefi sinc a chodi tai newydd.

Bu Les Powell farw tra roedd y ddau ar eu gwyliau yn y Taleithiau Unedig rai wythnosau yn ôl.

"O'i gymharu â rhai o'r symiau ar y rhestr cyfalaf, dyma swm bitw, bitw iawn," meddai'r Cung Huws, a ychwanegodd: "Dwi'n amau ers tro bod 'na gynllun gan y Swyddfa Gymreig, a gan Gwynedd hefyd, i sianelu arian mawr i ganolfan gwleidyddol poblogaidd sy'n cael eu gweld -- a hynny ar draul yr ardaloedd diwydiannol traddodiadol, lle byddai'r arian yn gwneud mwy o les.

Etholwyd Llywodraeth Lafur yn 1945, gyda chymeradwyaeth trwch poblogaeth Cymru, a sefydlu'r wladwriaeth les a'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, yn creu sustem i gefnogi'r diwydiant amaeth, yn gwladoli nifer o ddiwydiannau – polisïau sy'n cael mesur helaeth o gefnogaeth, o leiaf tan y 1970au.

Gwisgai'r briodferch wisg laes wedi ei hardduno a les a pherlau, roedd ei phenwisg o flodau lliw gwyn ac eirin gwlannog, ac roedd yn cario torch o flodau amrywiol ac eirin gwlanog.

Caem y pryd nesaf oddeutu pump o'r gloch, am hynny o les a wnâi inni o achos roedd safon y reis yn gymhedrol iawn erbyn hyn.

Ei freuddwyd ef oedd cymdeithas o "gyfalafwyr bychain", lle byddai pawb yn gweithio er lles y gymdeithas a'i les ei hun yr un pryd.

A'r rheswm dros amddiffyn yr iaith yw ein bod ni'n gofalu'n bennaf am les y dyn cyffredin sy'n bwrw'i oes yn y rhan hon o'r byd.

Gwna dro da neu ddau, fe wnaiff hynny fyd o les i ti, a chodi dy broffil.

ii) bod yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain, gan dalu sylw i ofynion y Gymdeithas a'r manylion yn y Côdau Ymarfer/Canllawiau lle bo'n briodol, gan gynnwys gwisgo dillad/cyfarpar gwarchod; iii) bod yn gyfrifol am ddiogelwch pobl eraill (boed y rheiny yn weithwyr cyflogedig neu beidio) trwy beidio â chamddefnyddio unrhyw beth a ddarparwyd er mwyn iechyd a diogelwch neu les, a chydweithredu â'r Gymdeithas er mwyn ei galluogi i gyflawni ei chyfrifoldebau ei hun yn llwyddiannus;

Y mae'r glowr mewn llenyddiaeth yn enghraifft meddai, "o gymeriad a grebachwyd gan deyrngarwch." "O safbwynt llenyddiaeth y Gymraeg byddai mwy o 'anheyrngarwch' ...wedi gwneud mwy o les, wrth gwrs, na'r teyrngarwch rhigolus sydd yn ei hanfod yn wrthlenyddiaeth, ond yr oedd argyfwng y Gymraeg, gwaetha'r modd, wedi peri meddwl ers tro fod pob 'anheyrngarwch' o reidrwydd yn ddinistriol.

Ehangwyd y cyfleusterau swyddfa trwy gymeryd les ar Ty Paris, Penygroes.

Adroddiad Beveridge yn awgrymu sefydlu Gwladwriaeth Les a fyddai'n gofalu am bobl 'o'r crud i'r bedd'.

Dyw'r diwydiant ymwelwyr ddim o les mawr i'r rhan fwyaf o bobl gyffredin, fodd bynnag.

Nid yw'n berthnasol i les y dinesydd eithr i falchder gwladwriaethau mân a mawr.

(Yn ôl un stori ddi-chwaeth gan un o'n plith nad oedd yn or-hoff o ymweld â Moscow, roedd Mr Gorbachev wedi llwyddo o'r diwedd i gael gwared ar y ciwiau hynny drwy sicrhau fod y siopau bwyd yn wag!) Go brin fod parch newyddiadurwyr estron tuag ato, yn enwedig yn y dyddiau cynnar, wedi gwneud llawer o les iddo ymhlith ei bobl ei hun.

Ond ar y llaw arall gallai fod yn llaith ac yn ddrafftiog yn y gaeaf A dyna ichwi dystiolaeth fod gennyf ffydd nid ychydig yn y Wladwriaeth Les a'i darpariaeth dai, a minnau mor beryglus o agos i'm hoedran ymddeol, heb arlliw o fwthyn uncorn o dŷ haf na dim arall i droi iddo pan fydd raid troi o'r annedd steil ar ben stôl y gwelodd yr Eglwys yng Nghymru neu ddamwain hanes imi drigo ynddi nawr'.