Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

letraws

letraws

Daeth y cais cyntaf o'r chwech pan gafodd Castell Nedd sgrym bump ar ôl i Luc Evans ddal cic letraws Steve Bowling, ac er syndod i bawb, gwthiwyd wyth Llanelli dros eu llinell a chwympodd Gareth Llywelyn, yr wythwr, ar y bêl.

Cynllun y cyfansoddi sy'n rheoli: llinell letraws cwmwl yn cyd-bwyso â llinell letraws y graig ac yn tywys y llygaid ar lwybr igam-ogam trwy ofod y darlun at y bobol yn y blaendir.

Cyfyng yw'r amrywiaeth tonyddol, ond mae yma gyfoeth o sensitifrwydd a theimlad.Yn rhannau uchaf yr awyr mae'r haenau paent yn dewach a'r llwydlas ar letraws yn awgrymu cymylau'n symud ac yn cyd-bwyso â llinellau esgyll y felin.

Dim ond tri chyffyrddiad o baent a ddefnyddir i gyfleu'r ieir yn y blaendir a dim ond un llinell doredig ar letraws yw'r ystol sy'n pwyso ar un o'r teisi.