Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lew

lew

Mae modd rhagweld y troeon yn y ffordd wrth astudio gwifrau teligraff yn y pellter; mae gweld rhywun yn sefyll mewn arosfan bysiau yn arwydd go lew y gallai fod bws rownd y tro nesaf; chwiliwch yn y pellter am geir yn dod i'ch cyfarfod, a gofalwch eich bod yn tynnu a gwthio'r llyw drwy'ch dwylo yn hytrach na chroesi'ch breichiau.

Bu cyfeillion yn lew iawn, gan gynnwys cyfreithwyr a bargyfreithwyr.

Doedd y Cymry yn yr ardal lle y cafodd hi ei magu ddim yn gwrthwynebu tai haf, ac roedd nifer go lew ohonyn nhw o gwmpas: rhai'n perthyn i enwau cyfarwydd megis Mackintosh, Dunlop, a Rowntree, teuluoedd a oedd yn berchenogion ar geir crand a chychod hwylio.

Er gwaethaf dy ymdrech lew nid yw'r gwreiddiau'n ildio.

Tra medrwch chi a fi fanejio'n go lew ar chwe bar o siocled yr wythnos y mae'r Siocaholics hyn yn dibynnu ar siocled am y pumed ran o'u calori%au.

Mi fu'n eistedd yno am dipyn go lew, yn syllu i gyi/ eiriad yr ynys.

Y mae rhai ohonom yn ddigon senoffobig i gredu mai dim ond pan oedd yna gnwd go lew o siaradwyr Cymraeg yn y tîm yr oedd Cymru yn chwarae orau - eich Gareth, Barry, Delme, Gerald ac yn y blaen.

Ni wn i beth yw'r ateb cywir i'r holl gwestiynau hyn (er bod gennyf syniad go lew) am nad oes neb yn eu gofyn; ond cwestiynau fel hyn sy'n rhaid eu gofyn os am sicrhau dyfodol i'n hiaith.

Roedd e'n foi digon smart, yn barchus gan bawb yn yr ardal, yn feirniad da ar ddefaid a thipyn go lew gydag e yn y banc.

Ond mi fyddai yno griw mawr o gūn bob amser; rhwng y cūn a'r plant a thipyn go lew o ddiawlio byddant yn llwyddo i gael defaid i fewn bob tro!

Yno dywedodd TW Jones y byddai ef a'r ASau Cymreig yn parhau i ymladd yn lew "hyd at y Ffos olaf", sef trydydd darlleniad y mesur.

Mi fuon ni ar hyd lôn Bicall pnawn 'ma, a gweld bod 'na olwg go lew am gnau, a rhai wedi tyfu mor fawr nes basa rhywun yn meddwl yn siŵr eu bod nhw'n barod.

Digon am y tro ydi datgan yn weddol hyderus, os byw ac iach, y bydd y cerrig hyn yn goffadwriaeth i rai o'n ty ni, am sbel go lew beth bynnag .

"Dydach chi ddim wedi newid ych plaid, gobeithio?' 'Na, 'dydw i ddim yn cofio imi wneud.' 'Cellwair o'n i, wrth gwrs.' Gwasgarodd Rhodri dipyn go lew o 'i gwrw ar hyd y bwrdd a' ddillad wrth i'r chwerthin chwalu allan pan oedd ar ganol cymryd llwnc.

Ar adeg arall daeth merch fach ato, yn erfyn am y bêl hud, a hyd yn oed yn cynnig yn ei lle ryw lew tegan a'i ben yn symud, ac yn rhuo fel llew byw.

Roedd yn ddyn a chanddo dalp go lew o addysg y tu mewn iddo.

''Maen nhw'n gwybod os na fedrwch chi fforddio cael car go lew na fedrwch chi fforddio talu'r ddirwy ychwaith.

Fe fyddai'n meddwl heddiw, wrth weld cymaint o ysgariadau, y basa dôs go lew o hiwmor yn help i leihau'r tyndra.

'Gawsoch chi hwyl yn y parc?' 'Go lew,' atebodd Rhys.

'Mi fydda i'n cael dipyn go lew o waith theatr, a dwi'n gweithio ar fersiwn deledu o'r ddrama Leni ar hyn o bryd.'

Rwy'n gobeithio eu bod nhw'n fodlon erbyn hyn ein bod ni yn o lew o barod i gael ein derbyn yn aelodau llawn o eglwys Crist.

Mae dy un di o faint go lew,' meddai wrth Bleddyn, 'ond mae hwn braidd yn fach,' oedd ei sylw wrth weld pysgodyn Alun.

Bydd raid i Gasnewydd wella'u gêm dipyn go lew a thrïo ennill.

Yn ôl y protestwyr yr oedd yn ddiwrnod cenedlaethol peidio â gwenu a hwythau, yn gwneud ymdrech lew i edrych yn flin ac yn gâs.

Ni soniai air am ei phris, ond fel un a oedd yn gwybod be-oedd-be, byddai gan Elsbeth syniad go- lew.

"Flynyddoedd go lew yn ôl, rydw i'n cofio un hydref stormus dros ben.

Roedd hi'n ymdrech lew gan Bellamy yn yr eiliadau olaf, roedd hi'n ymdrech lew gan y tîm cyfan am awr a hanner.

Tra bo hi'n bosibl i gael cwmni%aeth ffrindiau llengar yn y wlad mewn ardal bendant, a chymdeithas i sgwrsio am y pethe, a mwynhau gwir ffrwythau'r awen, gyhyd â hynny y bydd rhywrai'n deall y math o fywyd yr oedd Waldo'n gynrychiolydd mor lew ohono.