Holiadau Lhwyd sy'n gosod y patrwm, ond Rowlands biau drylwyredd deallus yr atebion sy'n nodi enwau, ffiniau a phoblogaeth pum plwyf Llanidan, Llanedwen, Llanddaniel-fab, Llanfairpwll a Llandysilio, ynghyd a manylion am eu hanes, eu henebion (gyda darluniau ohonynt), a sylwadau ar ansawdd y tir, y cynnyrch, a'r gwrtaith a ddefnyddid, y ffynhonnau, yr afonydd, y dirwedd a'r mathau o gregin a geid ar lan y mor.
Awdur y Parochial Queries hyn oedd Edward Lhwyd, Ceidwad Amgueddfa Ashmole yn Rhydychen, a oedd yn casglu defnyddiau ar gyfer cyfrolau a fyddai'n trafod hanes, iaith a naturiaetheg Cymru.
Un felly oedd Henry Rowlands, gŵr na fu ymhellach bron na Chonwy ac na sangodd ei droed ar ddaear Lloegr odid erioed, yn ol ei gyfaill Edward Lhwyd.
Ynddo ceisiodd egluro sut y ffurfiwyd yr ynys wedi'r Dilyw, a holai beth oedd iaith y trigolion, ai o'r Hebraeg y tarddodd y Gymraeg: disrifiodd gyfraith a chrefydd gynnar yr ynys, athroniaeth a defodau'r Derwyddon, eu tamlau, eu hallorau a'u canolfannau yn y llwyni derw, gan atgynhyrchu'r lluniau o'r henebion derwyddol a gynhwysodd yn ei atebion i Queries Lhwyd.
Diau i'w gyfeillgarwch a Lhwyd fod yn ddylanwad ar Rowlands ac yn addysg iddo, ond yr oedd wrth reddf yn fyfyriwr darllengar, cynhwysfawr ei ddiddordeb.
Cynhwysodd yn ei lyfr ddetholiad o'r ohebiaeth a fu rhyngddo a Lhwyd a'i holai'n fynych ynghylch ystyr a tharddiad enwau priod Cymraeg, ond rhaid cyfaddef, er bod Rowlands yn hyddysg yn namcaniaethau ieithyddol ei ddydd a'i fod yn rhannu holl ddiddordebau eang Lhwyd na ddeallasai ef arwyddocad dull gwyddonol ei gyfaill o weithio.