Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

liaws

liaws

Credir yn gryf erbyn hyn gan liaws o arbenigwyr seryddol y gall fod y blaned Mawrth fod wedi ei gorchuddio ar un cyfnod yn ei hanes â gorchudd cefnforol oedd yn gorchuddio o leiaf dair rhan o'i harwynebedd.

Y mae ein calonnau yn gresynu, a'n gwaed Cymroaidd yn ymferwi o'n mewn, pan ystyriwn fod yn mysg puteiniaid trefydd Lloegr liaws mawr o ferched glandeg Cymru, y rhai a fagwyd yn dyner gan deuluoedd crefyddol ar lethrau ei mynyddoedd, ond y rhai sydd yn awr yn dilyn bywyd pechadurus a gwir druenus puteiniaid cyhoeddus; .

Dadlennai astudiaeth o hanes liaws o enghreifftiau o'r bywyd da ac hefyd o'r bywyd gwael a diffrwyth.

Er ei methiant cymharol (ac onid trafod llwyddiant a methiant cymharol yr ydym mewn celfyddyd fel mewn bywyd?), fe berthyn iddi liaws o rinweddau, ac efallai fod hyd yn oed ei gwendidau yn dadlennu pethau diddorol am natur ein diwylliant llenyddol yn gyffredinol.