Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

licio

licio

"Sut mae Owen?" "Reid dda; mi ges lythyr y bore yma, yn licio i le'n iawn." "Da iawn bod rhywun yn hapus." "Ond cofiwch, 'dydi i gyflog yntau ddim hanner digon, a chysidro'r gost sy wedi bod efo fo." "Nag ydi, mae'n siŵr." "Mae o'n talu chweugian yn yr wsnos am lodging ac yn prynu i fwyd i hun." "Gwared y gwirion!" "Ydi, a mae'r criadur bach yn tri%o anfon rhyw 'chydig adre bob mis." "Chwarae teg iddo fo.

"Ond faswn i ddim yn licio i neb gael cyfla i intyffirio hefo o'ch blaen chi." Ac ar ôl hynny, y fi oedd y dyn i gyd, all the rage, chwadal nhwtha, a fynna hi neb i fynd â hi i'r Disco ond y fi, ac yno y buon ni tan yr oria mân.

Mi fydda i'n un sy'n licio gorsafoedd petrol.

'Dydw i ddim yn dweud.' 'Pwy sy'n dy licio di, 'ta?' 'Wn i ddim.' 'Pwy sy'n caru dy wallt hir tywyll ac yn ysu am gribinio ei fysedd drwyddo?...Bertie?' Chwarddodd Bigw yn bryfoclyd.

"Wn i ddim fasa chi'n licio peth," meddai, "fasa fo'n wahaniaeth yn y byd gen i ddwad â dau." "Ardderchog, Mrs Roberts," meddwn innau'n ddigon awchus.

Mi fydda i'n licio cyfarfod pobl a chael sgwrs efo hwn a'r llall.

'Doedd Tada ddim yn licio iddi ddeud 'siŵr Dduw'.

Ddim yn licio'r gwir pan glywi di e.' 'Edrych 'ma gw'boi,' roedd dwylo Dilwyn allan o'i bocedi bellach, 'dyweda di un gair arall am Rhian ac mi ladda i di, fel y dywedais i'r noswaith o'r blaen.'

Dim ond un peth dwi ddim yn licio yma - bod 'na dai a thai a thai o'n cwmpas ym mhob man.

"Mae pethau'n dechra poethi erbyn hyn," meddai, yn ei ffordd gyfeillgar, "Ddowch chi ddim draw i'r ysgol nos 'fory?" 'Does gen i ddim llawer o awydd." "Mi faswn i'n licio i chi fod yno pan ddaw Lewis Olifer a Deilwen Puw am y tro cynta'." 'Fyddan' nhw yno nos yfory?" "Byddan.

Yr unig beth yr oedd o'n ei licio am gynllunio YTS oedd y teithio.

Fydda i'n licio mynd 'nôl i Port ar wylia - gweld fy rhieni a ffrindia, a chael brÚc bach - ond famma dwi'n licio byw.'

Ma' rhywbeth yn stico mas o'r ddaear!' Ond cyn iddi gael mwydro mwy a mynd yn ôl i astudio'r fangre, gofynnodd Ifor iddi: 'Fasa chi'n licio panad o dê?'

"Mae hwn'na'n licio'r haul hefyd," meddai wrth Sandra, gan wenu.

Rhythai arnaf gan ychwanegu'n awgrymog: 'A 'dydw i ddim yn licio'r ffordd y bydd hi'n codi'i choesau ar y fainc yn y festri.

Gwrandawodd Mam ar y bregeth heb dweud yr un gair, ond doedd hi ddim yn licio.

Oedd Harri'n licio bloda?

'Mi gefais i dy hanes di gan Emrys, ac yr ydw i'n licio dy olwg di.

Mi fydda hi wedi licio cael rhoi bloda ar fedd Harri, ond chafodd hi erioed weld bedd ei brawd.

Mae yna lot o gicio yn y stori hon ac os ydach chi ddim yn licio cicio peidiwch â darllan gam ymhellach.

Mi fydda i'n licio'r stwna yma ef o ceir.

Mae llawer o afiechyd wedi bod yn ddiweddar - symptomau ffliw ac mae'r tair ohonom wedi dioddef yn ogystal â llawer o'r plant yn VIC - dydyn ni ddim yn licio mynd i'r ystafelloedd a pheswch 'germs' drostyn nhw i gyd!

'Pwy wyt ti yn ei licio, Bigw?'

'Hei, Megan, faset ti'n licio dŵad efo mi i Shwsbri ddydd Gwener?'

Roedd o'n licio darllen.

'Doedd hi ddim yn licio'r Betsan Mair 'na chwaith.

Bobl yn licio byw ar bethau y cymydog os gallant.

"Mi faswn i'n licio riportio fy mhysan." Dyma fo'n edrach arna i, fel gwelsoch chi glagwydd wedi gweld draenog.

Does neb yn licio cael y drefn o flaen pobl eraill, ond mae'n waeth pan ydach chi'n dri deg pump, a'ch plant yn gwrando.