Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lif

lif

Effeithiodd nifer o newidiadau eraill yn weladwy ar lif y gêm yn union fel a ddigwyddodd pan fu newidiadau tebyg tuag at ddiwedd y gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau.

Ar “l glaw trwm y noson cynt roedd tipyn o lif yn yr afon.

I'r mwyafrif llethol, os gwyddent amdani o gwbl, rhywbeth od ydoedd, eithriadol, eithafol, y tu allan i lif normal bywyd, a orfodid ar eu sylw o bryd i bryd gan ddarn o newydd neu ddatgan wasg neu ar y radio.

Mae cyfraniad Harvinder Sangha - a gyfrannodd hefyd i Hen Wlad Fy Mamau rai blynyddoedd yn ôl - yn un pwysig i lif y gân gyda'r bît ethnig yn amlwg ac yn sicr yn un o uchelbwyntiau'r albwm sy'n dangos yn eglur faint o feistri ar eu crefft ydy Llwybr Llaethog, yn gosod y llais mewn mannau allweddol yn y cyfoeth o gerddoriaeth.

Disgynasant fel cawod o gesair arni, ond er gwaethaf y rhain, aeth y ddraig ymlaen atyn nhw, ei chorff yn troi'n goch gan lif ei gwaed.

Os golygir mai troedigaeth SL yn y tridegau a arweiniodd rywsut at Penyberth a'i daflu ef i 'eol y gelyn', yna beth yw ystyr y 'carchar a'r seler ddilawnter dan lif anafon' yn y pennill cyntaf, cyn dyfod 'Arthur i'th arbed di'?

"Chiw, cholwes chwet chyntil chiw chan stand chon chior scis biffchor chiw lif!"

Rydw i'n estyn y pethau o'r cefn efo un law a'u rhoi ar lin Bigw tra'n llywio'r car o'r garej yn ôl i lif y traffig.

fel rheol, pan ddeuent y ffordd hon, byddent, ymhen hir a hwyr, yn blino ar lif cyson y dŵr ^ r ac yn chwilio am rywbeth arall i 'w diddanu.