Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lifo

lifo

Pwysodd a'i gefn yn erbyn y drws a gadwodd i'r llonyddwch lifo drosto.

Mae'r cirysau hyn yn gymorth i hidlo gronynnau o'r dwr wrth iddo lifo trwy'r ffilamentau ond ni wyddom yn fanwl sut y maent yn gwneud hyn.

Fe wnaeth e ddinistrio'r gêm - dim gadael iddi lifo o gwbwl.

cofient adegau pan allent gerdded hyd y lan a gwylio 'u hynt, a 'r afon yn loetran lifo dan y coed, ond nid felly 'n awr.

Gadewais iddo lifo drosof yn rhaeadrau, roedd yr haul mor ddisglair ac yn chwarae gyda ni yn bryfoclyd.

Mae'r gwenwyn yn parlysu'r chwarennau ac mae hyn yn gwneud i ewyn lifo o geg y cleifion.

Er enghraifft, gall y ffaith bod llawer o ddŵr ffo olygu bod yr afon yn fwy tebygol o lifo dros ei glannau.

Wn i ddim...., na, hoffwn i ddim bod yn lle Marc ac Anita heno." Am ryw reswm, dechreuodd y dagrau lifo eto wrth iddi ddweud hynny.

Gosodwch y blwch ar ogwydd tua'r pen blaen er mwyn i'r dŵr glaw lifo oddi arno'n rhwydd.

Dymunai i'r ddaear ei lyncu a'r môr lifo drosto a'i foddi.

'Roedd yr hogiau yn y capel 'rŵan yn disgwyl ei weld meddyliodd, a heb rybudd o gwbl dechreuodd y dagrau lifo.

Roedd yr aer yn oer a diferai dŵr o'r nenfwd gan lifo i lawr y waliau.

Collodd pob un o chwaraewyr Llanelli o gwmpas hanner stôn o bwyse yn ystod y gêm honno, wrth i'r chwys lifo oddi arnon ni.

Ceir hefyd waith gitâr arbennig ar y gân yma, ac mae'r holl beth yn adeiladu'n effeithiol nes gadael i'r dwr lifo unwaith eto ar y diwedd.

Dechreuai pob un symud wrth i fywyd lifo'n ôl i'w gorff; y swyn wedi torri wrth i'r bêl gael ei symud.

Cred rhai i'r afonydd hyn lifo i gefnfor anferth a fu'n sych ers tair biliwn o flynyddoedd!

Roedd e mewn car, ac Adam yn gyrru - neu o leiaf yn ceisio gyrru - a'r chwys yn rhedeg i lawr ei wyneb, gan lifo dros gyhyrau oedd yn tynhau ac ymlacio am yn ail.

Yna wrth i'r golau tanbaid lifo i mewn fe welais amlinell lori'n gwegian dan ei llwyth o sachau a dynion arfog yn syllu'n herfeiddiol ar bawb a phopeth.

wrth bwyso ar un o'r allweddau, yr oedd y pwynt cyferbynnol yn cael ei godi yn ddigon agos at yr olwyn fel bod ei bin yn ei gyffwrdd ar y cylchdro nesaf o'r olwyn, a thrwy hynny yn caniatau i drydan lifo drwy'r cysylltiad.

Wedyn dechreuodd y dŵr lifo i mewn ar eu pennau nhw.