Wedi inni godi pabell yn Zernez yn yr Engadin Isaf, roeddwn wedi mynd i fyny i gaban Lischana, rhyw bedair awr uwchben tref Scuol, gan obeithio esgyn Piz Lischana yn y bore: yn y gwres mawr, roedd yn well gan y teulu gael prynhawn yn y pwll nofio.
Rhannodd y Kloteniaid eu cawl a'u tegell a mi a'm rhybuddio fod cymaint trwch anarferol o eira newydd ansefydlog ar grib uchaf Piz Lischana nes bod y ddau dad wedi gorfod troi yn eu holau y bore hwnnw cyn cyrraedd y copa: yn sicr nid oedd y mynydd mewn cyflwr priodol i alleinganger.
Lischana Fy nhad a'm difethodd gyntaf - gwneud imi gymryd yn ganiataol y buasai rhywun i ddisgwyl amdanaf ac i'm hebrwng adref ym mhen draw pob taith hir ar draws y mynyddoedd: o Oerddrws i Islaw'r dref, o Lanbedr yn Ardudwy i Lanelltyd, o Gerrigydrudion i'r Ganllwyd o Gapel Curig i Groesor.