Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lithro

lithro

Dechreuodd y ddau lithro'n arafach lawr tuag at faes awyr Shobdon.

Yn naturiol gallai'r cardiau lithro ar fwrdd o'r fath neu gael eu hadlewyrchu ynddo, dyna pam mae defnydd gwyrdd ar fwrdd cardiau mor boblogaidd.

Os cedwir llyfrau costio ar wahân, y mae'n bwysig eu bod yn cael eu cysoni â'r llyfrau ariannol; oni wneir hyn, y mae yna berygl i gamgymeriadau lithro i mewn.

Er gwaethaf ei fywiogrwydd dechreuai'r cylchgrawn lithro i rigol unfrydedd a gwir berygl iddo fynd yn 'ddiogel'.

Collwyd cysylltiad ar raddfa fawr â phobl ifainc ac erbyn hyn y mae'r plant bach yn prysur lithro allan hyd yn oed o'r hen gysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol â'r eglwysi.

Pan fo un plaid mewn awdurdod am ddegawd a rhagor yn ddi-dor gall y gweision sifil mewn adran gymharol fychan lithro i rigol meddwl sy'n eu dallu rhag gweld rhinweddau'r gwrthddadleuon.

Fel roedd hi, roedd Castell Nedd bron yn cicio'i hunain am ddod o fewn dim i adael y gêm lithro o'u gafael.

Nid ei fod yn cynnig yr un peth yn union wrth son am 'lithro i'r llonyddwch mawr yn ol'.

O'u cwmpas roedd cannoedd o filidowcars a gwylanod yn sgrechian eu protest wrth i'r cwch pysgota bychan lithro'i ffordd i fyny un o'r hafnau a arweiniai i Ogof Plwm Llwyd.

Yr oedd rhywbeth o naws actio mewn drama o gwmpas y peth wrth inni lithro o'n diwylliant cynhenid i'n diwylliant addysgol.

Yn Hydref aeth trên oddi ar y cledrau yn Virginia Water, Surrey, wedi iddo lithro ar ddail gwlyb.

Ymlaciodd eto a mwynhau cynhesrwydd ei blancedi gan lithro'n freuddwydiol-ddyfnach i gofio am yr hen hapusrwydd, y dyddiau melyn cynnar, yn arbennig cofio'i Hewyrth Joseph yn cyrraedd Trefeca mewn chaise o Lundain i adfer ei iechyd yn y tawelwch.

Ochenediodd hithau, cyn rhoi ei llaw yn ysgafn ar ei thalcen i'w thawelu, ac ni symudodd nes iddi lithro'n eri hôl i gysgu'n esmwyth a dibryder.