Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llac

llac

Roedd ei ddwylo tenau crafangog wedi eu plethu'n llac ar y garthen, yr ewinedd yn lasgoch.

Rhaid defnyddio eli haul ffactor uchel, gwisgo het a dillad cotwm llac.

Ac mi fyddai'n siwr o gyrraedd bob tro o ochor i ochor a'i holwyn yn llac.

Nid oedd fy fferau i yn ymwthio dros ymylon fy esgidiau bach i fel rhai Emli Preis, na fy nwyfron i'n hongian mor llac, na'm bol i mor dynn chwaith o dan fy sgert i.

Fel arfer roedd e'n gorfod gwasgu'n reit galed, ond y tro hwn roedd y pedal yn hollol llac.

Cydymaith Byd Amaeth. Cyfrol 3 llac - rhywogaeth gan Huw Jones.

Aderyn y gweundiroedd agored ydyw, gyda'r iâr yn dodwy rhwng tri a saith þy glaswyn mewn nyth llac ei adeiladwaith, ynghanol y grun.

O faes awyr Belem yng nghar y Weinerts, yna i Ogledd y dref ar hyd ffyrdd di-darmac, drwy resi dirifedi o gabanau unllawr, drwy heidiau o blant mewn trwsusau llac a festiau, a rhywle yn y fan honno, rhwng cþn a chymdogion hanner noeth, tywyll eu croen, y dyn yn y siaced law, DR.

Cymaint mwy ydi'n parch ni at unigolion fel Ffred, Toni ac Angharad nac at bysgod aur byr eu cof a llac eu gafael ar egwyddor fel Rhodri Williams.

Roedden nhw'n gwisgo crysau llac gwyn at y ben-lin a chadwyn aur am eu gyddfau.

Yn un pen i'r raddfa, hen ferfa drom, lymbrus a'i holwyn yn llac a'i hechel yn gwichian ac aml i dolc ei gyrfa wedi gadael eu ôl ar ei choed.

Prynasid hi yn y ffair am na allasai ei phrynwr wrthsefyll apêl ei phen main gyda'r trwyn cau, a'i chroen tenau llac, a'i phwrs llydan cymesur.

Ambell kafcan llac o'r India iddi hi'i hun, neu rhyw grys sgotwr yr un i'r plant.

Y mae'r cyfieithu yn anwastad iawn, ar dro yn gwneud dim ond atgynhyrchu Beibl Genefa, dro arall yn cadw fersiwn y Beibl Mawr heb ei newid nemor ddim; mewn rhai llyfrau yn aralleirio'n llac, mewn llyfrau eraill yn trosi'n dra llythrennol.

Dwi'n wlyb at fy nghroen ac mae'r carpiau bratiog yma sgynnai'n llac amdanai, yn da i ddim yn erbyn yr oerfel sy'n gafael ym mêr fy esgyrn, waeth gen i pa mor hudol bynnag ydyn nhw, ac mae hi'n mynd yn hwyr.

Roedd y cyfarwyddo yn llac hefyd.