Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lladron

lladron

Yr hyn a'i dychrynai fwyaf oedd bod ei gwas ffyddlon wedi bod yn helpu'r lladron.

'Rydan ni i gyd wedi clywed am Hollywood, am y criw syrffio, am y daeargrynfeydd ac am y lladron.

Roedd yn amlwg y gellid erlyn lladron y car am gymryd y car, nid oedd hwn yn anhawster o gwbl.

Y lladron a fyddai'n gyfrifol am lywio barn y gwylwyr yn y pen draw, nid y gohebwyr oedd yn cofnodi'u troseddau.

Y lladron yna wnaeth ddwyn gardd gyfan o dy ar gyrion un o drefi Lloegr.

Mae ei holl adwaith i'w amgylchfyd, fel y portreedir ef, yn arwydd pendant o'i benderfyniad i ddal ei dir ac o'i allu i ffynnu ymysg lladron a thaeogion.

Ar deithiau fel hyn byddai rhyw ysfa yn gafael yn y bechgyn ac yn eu troi'n lladron a'r peth arferol i'w ddwyn oedd arwyddion.

Wyddoch chi beth, gyfeillion, tydwi ddim hyd yn oed yn ei feio fo chwaith - wel, toeddwn i heb arfer hefo lladron yr adeg honno, yn nago'n, yn enwedig lladron yn codi o fôn llwyn drain i ymosod arnaf ac yn fy mraw mi wnes i gadw braidd gormod o sūn.

Dywedodd fod lladron yn hoffi'r cyfle hawdd a phwysodd arnom i wneud ein cymdogaeth yn lle mwy diogel i fyw.

Mae profiadau personol a phoenus y bardd yn amlwg yn y gerdd Lladron Nos Dychymyg sy'n trafod salwch henaint.

Roedd y ddau wrth eu bodd gan eu bod yn hoff iawn o gerddoriaeth glasurol ac ar y nos Wener cafodd y ddau noson i'w chofio - a mwy fyth o achos cofio pan ddaethant adref a chanfod fod lladron wedi dwyn popeth oedd o werth yn y tū...

Mae gan Blair amser eto i adfer ei boblogrwydd ond bydd yn rhaid i Hague feddwl am strategaeth newydd wedi i'r etholwyr anwybyddu ei alwad i roi ffoaduriaid dan glo a saethu lladron.

Mi fum yn crwydro yma ac acw ar hyd yr ynys, gan feddwl fod Twm Dafis rywfodd wedi fy ngweld a bod y lladron wedi sleifio drwy un o'r ffenestri i guddio allan yn rhywle.

Ond erbyn deall nid ser Hollywoodaidd fydd y lladron hynny ond dynion o Lundain bell yn dod i roi taw ar yr hen sinema, yr olaf o blith pump a fu yn y dref - Aberdar - pan oedd hi'n oes aur ar y pictiwrs.

"Na, dim ond dweud fod rhywun yn helpu'r heddlu gyda'u hymholiadau, a hynny er mwyn i'r lladron feddwl eu bod yn ddiogel am dipyn."

Mae'r lladron cathod yn gweithio yn y nos, ac mae ysbryd llestri aur Plas Madyn yn prowla yn y nos hefyd." Crychodd Llinos ei thalcen mewn penbleth.

Ac eto, beth pe deuai lladron i'r lle?

Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.

Cyflawnid nifer fawr o droseddau o'r fath gan Wyddelod, a dedfrydwyd lladron penffordd ac eraill fel Henry Hope, carcharor ar y Tortoise gyda Benjamin Griffiths ar y fordaith i Awstralia, am ladrata sofrenni.

Dywedwyd y stori yma wrthym yn hollol ddifrifol a heb wên a'r unig chwerthin a fu rhyngom i gyd oedd wrth ddychmygu wynebau lladron y car wrth iddynt agor y babell a oedd wedi'i rholio ar do'r car.