Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llafn

llafn

Chwiliwch am y rhain: pren y ddannoedd Sedum rosea, teim gwyllt Thymus drucei, mantell Fair fynyddig Alchemilla vulgaris, tormaen coch Saxifraga oppositifolia, llafn y bladur Narthecium ossifragum, tormaen mwsogaidd Saxifraga hypnoides, bara'r gôg Oxalis acetosella, tormaen serennog Saxifraga stellaris, eglyn Chrysoplenium oppositifolium, suran y mynydd Oxyria digyna.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

'O?' 'Efo Ifan Paraffîn, yn y bus.' ''Ron i'n meddwl 'mod i'n gweld gola' ac yn clywad rhyw swn pan o'n i'n cau ar yr ieir.' Sylweddolodd Dora Williams ei bod hi'n sefyll yn llond y ffenestr yn ei choban, yn wyneb llafn o olau lleuad, a theimlodd ei hun yn cael ei dadwisgo'n gyflym.

Gafaelai'r dwblwr mewn un pen o'r llafn a'i ddyblu ar lawr y felin, ac yna ei godi at fwrdd y shêr, ei gymhwyso, ei roi o dan y gwasgwr, ei drin o dan y gyllell, ac yna ei daflu ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.

Beth bynnag oedd y broses ar lawr y felin, gan y dalwr yr oedd y gair olaf, oblegid ar y part olaf, wedi i'r rowlwr dynnu'r wythau i'r hyd gofynnol, gafaelai'r dalwr yn y llafn a'i daro ar lawr y cefn i ennill momentwm, a'i roi'n daclus mewn pentwr o'r neilltu.

Hepgorir manylion fel dail, rhisgl, llafn glaswellt er mwyn rhoi mwy o rym i ffurfiau sylfaenol y cyfansoddiad.

Yn hardd a galluog ond heb un ffrind a allai fod wedi trafferthu digon i gyflawni'r ffafr syml o'i chadw'n fyw..." "Paid." "...All siarad o nawr hyd Ddydd y Farn newid dim ar y ffaith mod i wedi'i lladd hi, cyn sicred a phe bawn i wedi suddo cyllell ynddi a throi'n llafn yn y clwyf." "Roeddwn i'n amau.

Ella y medri di daflu llafn o oleuni ar beth fel hyn.

Wedi i'r fflach o olau gilio, gwelodd gyda syndod ei fod yn sefyll yno gan ddal clamp o gleddyf addurniedig, a gemau lliwgar ar ei charn, a'i llafn mor ddisglair nes ei bod yn goleuo'r gell gyfan.

Ymhellach, niwronau primiaidd yw'r celloedd hyn ac maent yn parhau ar hyd y llafn gwaelod fel acsonau i ymuno a'r nerf sy'n rhedeg ar hyd pob tentacl.

Wedi rowlo'r llafn ddwywaith neu dair, cyrhaeddai'r hyd o ryw chwe throedfedd, ac yna tatlai'r rowlwr y llafn at y dwblwr.

Yn ol Hywel ystorm, ef oedd 'Llafn angau brau bro Gynffig.' Ymryson barddol, ond odid, a geir yn yr awdl uchod.

Ond ni welaist ef ac felly fe gerddaist yn syth yn dy flaen a tharo dy ben yn erbyn y llafn.

Gwylient y llafn o olau yn goleuo'r twll, yna'r dyn yn camu'n ofalus i mewn iddo.