Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llafurus

llafurus

Gwaith costus a llafurus yw hyn sydd yn anaml yn cael ei ystyried yn waith celf.

Ar ddiwedd y cofnodion, ceir sylwadau fel a ganlyn: 'Godidog yn ei swyddogion, llafurus yn eu casgliadau, a gradd o lewyrch, er nad cymaint a fu.

Ond pobl ydynt sydd yn galw am dynnu'r ffrwyn pan fo'r daith yn llafurus ar hyd inclein.

Roedd y gwely pren isel wedi ei osod yn erbyn y wal fewnol ac roedd gwrthban brown golau yn symud i fyny ac i lawr wrth i'r hen ŵr anadlu'n llafurus odano.

Pan ymwelodd Mrs Thatcher a Rwsia fe groesawodd Mr Brezhnev hi, medden nhw, drwy ddarllen yn llafurus y brawddegau a oedd wedi eu rhoi ar bapur ar ei gyfer.

Gellir gweld atyniad yr algorithm genetig - nid oes angen rhaglennu'r camau datrys yn uniongyrchol, sy'n broses faith a llafurus, dim ond diffinio 'DNA' yr 'unigolion' yn ôl y broblem, a chael rhyw ffordd o fesur pa mor dda yw cyfuniad arbennig o'r wybodaeth 'enetig' yn y 'DNA'.

Cyrhaeddodd Phil faint dyn yn gynnar, ac yr oedd y cyfuniad o ieuenctid, cryfder corff a deallusrwydd meddwl yn gynhysgaeth angenrheidiol iddo gyflawni gwaith mor llafurus.

Nid yw'n rhoi llawer o foddhad i ddarllenydd, a gwaith llafurus yw ei darllen.

Mae rhan gyntaf y llyfr yn fwy llafurus a llai gafaelgar.

Cyfaddawdu a wneir yn aml wrth ddefnyddio ffrwydron i gloddio yn lle cloddio hir a llafurus â llaw.

Cyrhaeddwyd y lan yn hwylus ac fe gludiwyd y casgenni'n llafurus trwy'r wîg hyd nes y daeth pentref di-nod - rhyw lond dwrn o hofeldai ac eglwys i'r golwg.

Yr adeg honno rhaid oedd allforio unrhyw gynnyrch tebyg i lo gan nad oedd rheilffyrdd i'w cael a defnyddio'r camlesi'n ychwanegu'n ddirfawr at y gost, a'r gwaith yn llafurus iawn.

Roedd Tremenheere, a oedd, o'i gymharu â'r arolygwyr eraill, yn eithaf parod i ystyried yr amgylchiadau, ac nid yn foesolwr oeraidd, yn cymryd gofal mawr i bwysleisio bod y gweithwyr at ei gilydd yn cael eu talu'n dda am eu gwaith, pa mor llafurus ac annymunol bynnag ydoedd.