Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llais

llais

Efallai bod dylanwad gohebydd Cymraeg dipyn llai, ond dibynnu ar bwysau poblogaidd y mae ewyllys gwleidyddol i weithredu, ac mae llais Cymry yn llais pwysig yng nghôr y cyhoedd y mae'n rhaid i lywodraeth gwledydd Prydain wrando arno.

Torrodd llais Mali ar draws ei freuddwydion a gwelodd fod y ferch â'r plethau wedi'i gadael.

Llais y pêl-droediwr John Hartson oedd y llais yma: Bydd llais newydd i'w glywed yma yfory.

Gan Doli mae'r trac cyntaf ac y mae Dim yn drac egniol syn gweithion dda efo llais unigryw Mared, y prif leisydd.

Ei weled fe cyn gweled y John arall a wneuthum i, a'i wir adnabod ar ôl methu clywed ei oslef arbennig ef yn llais y llall.

gofynnodd Llinos mewn llais bach maldodus gan dynnu ei goes.

Y mae'r ffermwr yn dinoethi ei ddant, mewn gwên lwsifferaidd, ac yna'n gweiddi `Gorwedd!' mewn llais mileinig.

Anwybyddir llais pobl ifanc ym mhob rhan o Gymru -- ond pobl ifanc sydd wedi arwain Cymdeithas yr Iaith.

Cysylltwch a'r Llais i ddweud eich dweud!

"Dewch!" gwaeddodd llais o'r tu fewn.

Er straenio nghlustiau hyd yr eithaf ni allwn adnabod llais neb arall, ond synnais glywed mai yn Saesneg y siaradent.

'Storiau Miss Lloyd!' Yr oedd byd o ddirmyg yn llais fy modryb.

Yn aml iawn fe ddeuai llais Rwsiaidd ar y lein yn rhybuddio'r un oedd yn galw fod honno wedi mynd am ei swper ac felly roedd rhaid aros tan iddi ddychwelyd cyn ein cysylltu ni â Phnom Penh.

Bron nad yw hi'n atgoffa rhywun o arddull Gwerinos neu Jac-y-Do ond, er hynny, mae llais Rhodri Vine fymryn yn aneglur ar y trac hwn ac efallai mai gormod o gerddoriaeth gefndirol sydd yn gyfrifol am hynny.

Sawl tro yng nghynffon y gân maen troin offerynnol cyn i'r llais ddod i mewn eto ar gân yn gorffen gyda swn chwibanu.

Holl ddigwyddiadau'r noson cynt; breuddwyd llygad Duw, ei chynnwrf gyda'i thad, ymdrech y gof i ymgrogi a nawr eto llais bach Robin a llythyr Hannah.

Ar ôl rhyw ddeng munud o'r distawrwydd yma, daeth llais dros yr uchelseinydd i gyhoeddi y byddai 'cwshti' yno'r noson ganlynol yn ogystal, ac y byddai'r "hogiau lleol yn siwr o orchfygu% eu gelynion y tro nesaf.

'Mi est ti'n rhy bell tro 'na,' meddai hwnnw mewn llais tawel.

Rhowch im eiliad neu ddwy eto.' Troes y fydwraig yn ol i'r llofft flaen, a'm tad yn dal i oedi'n ansicr ar y grisiau; ond cyn hir clywodd ei llais awdurdodol yn ei alw i mewn i'r ystafell.

Wrth i mi baratoi'r ddarlith hon yr ymateb a gawn, gan y canol oed yn ogystal a'r hen pan soniwn am y testun, oedd 'Fe gefais siglo llaw ag Elfed' neu 'Fe glywais Elfed yn pregethu sawl tro', a'r son wedyn, bron yn ddi-ffael, am y llais swynol i'w ryfeddu a oedd ganddo.

Castall C'narfon ydy o!' 'How dare you!' gwichiodd llais wrth i'r gelen a'r broga Iygadu'r porth.

Un flwyddyn cofiaf fod y ddau ohonom wedi canu ar y llwyfan gyda'n bysedd yn ein clustiau rhag i ni glywed y llais arall.

Ymunwch â ni ar faes Eisteddfod yr Urdd, ac yna ar strydoedd y brifddinas, i godi llais dros Ddeddf Iaith Newydd.

"Ddaw Emrys allan i chwarae?" oedd y cwestiwn a glywais yn llais Capten, a neidiodd fy nghalon gan lawenydd.

Wedi i'r llais ddistewi, mae'r gyfrinach yn diflannu hefyd.

Deuai llais yr athro a'i gwestiynau undonog trwy'r ffonau a oedd yn dynn dros eu clustiau.

Gallaf glywed ei llais yn awr, a'r chwithdod o glywed rhywun yn cyfeirio at Mam fel 'Mami'.

Ni elli wrthsefyll y llais sy'n dy alw ymlaen ac mae'n rhaid i ti ddilyn y Belen Olau.

Pe byddai Helen Mary Jones yn cyrraedd yr uchelfannau, felly, gallwn fod yn siwr y bydd llais yr ifanc yn cael ei glywed o fewn Plaid Cymru.

Roedd rhaid iddo ef wedyn gael llais yn y prif benodiadau - y swyddogion sy'n gyfrifol am y gwahanol adrannau.

Mae llyfrau'r Lolfa yn cael eu disgrifio yn y Llais Llyfrau cyfredol fel pethau iwtilitaraidd o ran eu gwneuthuriad.

Llais Lewsyn oedd un, ond pwy oedd y llall?

Ychwanegodd mai'r gamp yw cyfuno'r elfennau hynny o lun, llais, gair a stori.

Mae'r ola o'r caneuon, Sêr yn llawn egni ond oherwydd fod llais Alex, unwaith eto, yn tueddu i fod yn rhy dawel mae yr effaith fwriadol yn cael ei cholli ar geiriau felly braidd yn anneglur.

Cyn iddo ymddangos fel epa mawr o ganol y coed roedd y ddau wedi adnabod llais cras Williams y Cipar.

Symudwch i'r Gwyliwr!' taranodd llais.

Dyma gyfle arbennig i chi geisio dyfalu pwy yw perchennog y llais cudd yng nghystadleuaeth Adnabod y Llais.

Ceir yma arddull wahanol i Carreg, gan fod y penillion yn weddol acwstig eu naws, ac yn sicr mae llais Mei yn gweddu'r math yma o gerddoriaeth yn well.

"Neidia ar ei gefn, Deio," meddai Idris, "i ti gael marchogaeth i'r Cwmwd." "Na wnaiff wir," meddai Cadi yn yr un llais yn union â'i mam, "ddim yn ei ddillad gorau." Gafaelodd Deio ym mwng Llwyd a cherdded ymlaen felly.

Fe atseiniai drwy unigrwydd yr ystafelloedd megis llais coll.

Llais soprano swynol a thlws iawn, yn arbennig lle'r oedd galw am berfformiad tyner.

Yn ogystal â defnyddio ei llais mawr defnyddiodd holl nerth ei chorff mawr wrth fwrw top ei desg yn erbyn y ffrâm.

'Unwaith y byddwch chi wedi dechrau rhoi tystiolaeth, ac arfer â chlywed eich llais eich hun, mi fyddwch chi'n iawn.

Canodd a chanodd y gloch unwaith yn rhagor, ond ni ddaeth llais cyfarwydd Emyr i'w chlyw.

Roeddwn yn arfer addasu rhai o'r geiriau gogleddol fel efo, dos, fo ac hitia i'r geiriau sy'n gyfarwydd i ni fel gyda, cer, fe a phaid a becso - yn enwedig yn llais yr awdur.

Ymhen rhai oriau o ffonio, mae'n cyfaill yn clywed llais bach tawel ar ben arall y llinell.

Mae cordiau'r llais yn tynhau a'r unig sŵn y maen nhw'n medru ei gynhyrchu yw chwyrnu cras, tebyg i sŵ n blaidd.

Daeth y llais o'r tu ôl i'r milwyr, o gysgod y tryc agosaf, mor sydyn ac mor annisgwyl fel y safodd pawb yn ei unfan yn fud ar amrantiad.

Ond nid oherwydd y bygythiad, yn gymaint ag oherwydd cyfoeth operatig y llais yr ufuddhaodd hi yn y bôn, a chyn agor y drws, trodd ei phen i roi cip arni ei hun yn y drych ar y silff ben tân.

Llais yr ifanc iawn.

Llais dyn ifanc.

Trannoeth am dri o'r gloch y prynhawn daeth llais y Prif Weinidog, Mr Neville Chamberlain, dros y radio i gyhoeddi'r newyddion drwg fod y Rhyfel rhwng Prydain a'r Almaen wedi dehcrau.

efalle na fyddech chi'n gallu'i throi hi'n ôl i fod yn fenyw wedyn ...' ychwanegodd mewn llais tawelach, wrth weld y gwrachod yn rhythu'n ffroenuchel arno.

"Halt!" gwaeddodd llais sarrug o'r tywyllwch.

Wedi dychryn mae e Aeth Mali, ei fam, i'r Infirmary neithiwr.' Ni bu ganddi erioed awydd na dawn i siarad â phlant bach lleiaf y Teulu, ond nawr roedd Amser ei hun fel pe bai wedi sefyll o'i chwmpas a chlywodd ei llais ei hun yn cysuro'r un bach: 'Mae popeth yn iawn, Robin, bydd dy fam yn dod 'nôl atat cyn bo hir.

Yna, mewn llais tawel, a gwên hiraethus ar ei hwyneb dywedodd yr hen wreigan: "Ugain mlynedd yn ôl i heno, fe laddwyd fy merch ar y ffordd ble y gwelsoch chi hi heno, a phob blwyddyn ers hynny, ar y noson arbennig hon y mae rhyw yrrwr caredigyn dod â hi adref, - diolch i chi - fe gaiff dawelwch am flwyddyn arall rwan." Gadawodd y dyn y tū wedi ei ysgwyd i'w sodlau gan yr hyn a welodd ac a glywodd.'

Enillodd droeon ar yr unawd tenor dan a thros bump ar hugain oed yn y Genedlaethol ac yn y blynyddoedd olaf yn cael ei ddyfarnu yn 'llais y flwyddyn' yn Eisteddfod Llangollen.

Doedd dim melodrama yn ei llais wrth ddweud y pethau hyn, na chasineb chwaith.

A'i nain wedyn, yr oedd honno yr un mor gyndyn i ollwng ei gafael, ac yn ôl pob golwg, hyd yn oed yn gwrthryfela yn ei henaint, yn codi ei llais gynnau, yn erbyn pwy tybed?

Aeth yn ôl i'r gegin a chlywed y sgrechian wedyn a llais Mary yn glir yn gweiddi mewn dychryn, 'Mae'n ddrwg gen i, ddrwg gen i.

'Nabododd William Huws berchennog y llais nesa' a phenderfynodd roi gordd arno.

Yna siaredais gyda llais penderfynol ac awdurdodol.

Jeans a'r hen gotia peilot yna, fel tasan nhw'n ysu am ryfel" "Fedrach chi ddim deud wrth y llais?" Roedd yn bwysig ei bod yn cael gwybod.

Eithr nid oedd llais Hardie yn llef unig, ychwaith: cafodd atsain yn areithiau ambell AS Rhyddfrydol, ac yng ngholofnau rhai papurau newydd.

A llais digon dymunol hefyd.

'Moesymgrymwch o flaen y Gwylwyr ar ddiwrnod y Moliant,' taranodd llais.

Go brin y gallai gwlad fechan dlawd heb lywodraeth na llais rhyngwladol ddylanwadu ar dynged y rhain, hyd yn oed pe bai ei phobl yn dymuno hynny.

Dyma esgus da i bawb roi'r gorau i weithio ac er i'r dyn Indiaidd ysgwyd ei ddwrn a dweud mewn llais miniog, '...

"Faint o ffordd eto?" gofynnodd Iona mewn llais distaw.

'Paid ag edrych, ond mae 'na ŵr bonheddig ar 'i ffordd yma sy'n mynd i edliw hynny i ti.' 'Chwilys.' 'Roedd llais Lleucu'n chwerwach.

'Cer i mo'yn rhywun i edrych ar ôl hwn,' ebe llais cyfarwydd y tu ôl iddo, 'a dwed mai fel'na cest ti e, ar y llawr.'

roedd y llais y tu mewn iddo'n llefaru eto.

Mae cyfraniad Harvinder Sangha - a gyfrannodd hefyd i Hen Wlad Fy Mamau rai blynyddoedd yn ôl - yn un pwysig i lif y gân gyda'r bît ethnig yn amlwg ac yn sicr yn un o uchelbwyntiau'r albwm sy'n dangos yn eglur faint o feistri ar eu crefft ydy Llwybr Llaethog, yn gosod y llais mewn mannau allweddol yn y cyfoeth o gerddoriaeth.

Er mor swynol yw'r llais mae rhywbeth yn dweud wrthyt mai lle dieflig yw hwn.

Mae yna naws hamddenol ‘dybaidd' i'r trac - sy'n arbrofol ac yn dangos hyblygrwydd llais Lauren.

"Deudwch wrthyn nhw." "Emrys Ifans," atebais innau mewn llais crynedig.

Byddwch angen meddalwedd Real Audio ar eich cyfrifiadur i wrando ar y llais.

Mae'n rhaid i'r Cynulliad fod â llais Cymraeg ei hun, fel y bydd, wrth agor ei ddrysau am y tro cyntaf, yn cyfarch pobl Cymru drwy ddweud 'Bore da, ac mae hi'n fore da iawn yng Nghymru!'.

'O.' Daeth llais Lleucu â hi o'i myfyrdodau.

Y bora arbennig hwn, a'r tywydd yn oer, mam yn ei gwely efo 'asthma' a ninnau'r plant yn ein gwelyau, neu'n chwara'n y llofft, dyma lais nhad fel angel o waelod y grisiau (parch i mam am ei bod hi'n sâl) "Lle ma' nghrys i Jini?" mam yn ateb â gwich yn ei llais, "Yn yr 'airing cupboard' Charles." Nhad yn rhuthro i fyny'r grisiau, 'roedd yr 'airing cupboard' ar y landing, dros ffordd i lle'r oedd Mam yn cysgu.

'It's Mrs Thatcher's Secretary here' meddai'r llais menywaidd Seisnig ac annwyl hwn wrthyf.

Bu bron i Angharad dagu ar friwsionyn o dost pan adnabu'r llais.

'Dyna ni ylwch.' 'Roedd llais Lleucu'n hen ddigon uchel, ond ni chymerodd y dyn sylw o'i geiriau.

Fel Dysgu Nofio mae diweddglo'r gân yma yn drawiadol hefyd, wrth i'r piano a'r bît ddiflannu yn raddol, gan adael llais i ganu'r gytgan heb unrhyw offerynnau yn y cefndir.

"Morfudd!" rhybuddiodd y llais.

Ac eto, un cyfrwys ar y naw ydi'r temtiwr, un a fedr siarad â llais cymhellgar trwy ddangos pa mor foesol ydi'r aberth.

Gwthiodd Geraint Myrddin o'r ffordd a gweiddi, 'Oes 'na rywun yna?' mewn llais isel, fel roedd o wedi'u gweld nhw'n gwneud droeon mewn ffilmiau ysbryd.

Cael llais, ie - ond cael rhywbeth i'w ddweud efo'r llais," meddai.

Fel Cymro, dwi'n meddwl fy mod i'n dueddol o glywed llais y lleiafrif, yn hytrach na'r mwyafrif; mae gen i fwy o glust i glywed yr ochr leiafrifol, neu'r ochr sy'n colli a'r ochr sy'n cael ei gormesu.

Dylai'r Cynulliad, felly, newid y pwyslais yn y cylch penderfyniadau i gryfhau ymhellach llais y gymuned a'r boblogaeth yn gyffredinol, ac, yn enwedig, llais carfanau a anwybyddir ar hyn o bryd gan y Llywodraeth.

'Doedd mam perchennog y llais - un o wragedd Tai Teras - newydd adael ei gwr am longwr tir sych a ddaeth i Wersyll Penychain i ddysgu morio.

"Pump ...!" rhuodd y llais yn fuddugoliaethus.

Ysgogwyd y tri i sefydlu'r Seren Ogleddol gan newid a ganfuwyd ganddynt ym mholisi golygyddol Seren Gomer, llais y Radicaliaid yn ystod y pymtheg mlynedd flaenorol.

Aelodau Evans ydy Alex Philp, llais, Rhys Elis, gitar, Dylan Evans, gitar, Aled Williams, Bas a Dewi Jones, drymiau ac ar Hydref 16 mae'r grwp yn rhyddhau eu Ep cyntaf o'r enw Evans ar label nodedig Sylem o Fetws y Coed.

Geraint Jarman - Chwilio am y Llais Angerddol, S4C 8.00 Nos Iau, Medi 28ain.

Ond aeth y llais yn ei flaen heb gymryd dim sylw o'i eiriau.

'Dyna ddigon rwan,' meddai eu mam, mewn llais a weithiai bob tro yn achos Emyr.

'Mae'n fwy diogel yma,' meddai mewn llais isel.

Llais fel pres, yn gyfoethog ac yn sgleiniog ac yn aeddfed.

''Gorwch nhw Bigw,' dwi'n ei ddweud mewn llais uchel.