Tyf llawer ohonynt ar goed yn y trofannau, nid yn isel ar y goeden mewn tywyllwch llaith fel y dychmygwn, ond yn agos i'r brig mewn goleuni da ag awyr iach.
Ceir amryw o rywogaethau o degeiriannau'n tyfu yn y pantiau llaith rhwng y twyni.
Trodd yn disgwyl gweld Twm Tew yno, ond y cyfan a welodd Guto oedd Bob Parri, yn dod o'i ymarfer wrth y rhwydau, ei wallt yn chwys i gyd a'i grys yn batsys llaith.
Os trof fy wyneb tua'r gogledd, dros y bencydd moel a'r rhosydd llaith, heibio i Gnwc-y-frân a thros afon Carrog ar hyd Cefn Du ac ymyl Penlanolau, dof at fy hen gartref yng nghysgod y graig yn ymyl y llyn.
Chododd e ychwaith mo'i ddwrn na'i lais mewn protest, roedd yn swagrwr bonheddig ac yn ŵr llaith a ddewisoedd, yn gam neu'n gwmws, broffesiwn arbennig o galed.
Gwell peidio casglu'r blodau chwaith, gwywo'n llipa wnant cyn pen fawr o dro wedi eu codi, mae'n llawer rheitiach eu gadael i eraill fwynhau eu prydferthwch.Cynefin tra gwahanol sydd i Flodyn y Gog un sychedig yw hwn ac felly ar weirgloddiau llaith a glannau afonydd y'i gwelwn.
Hefyd, gan fod gwahaniaeth rhwng indecs plygiant aer a dwr rhaid fydd newid crymedd lens y llygad yn ogystal a datblygu chwarren arbennig ar gyfer cadw pilen y llygad yn llaith.
Yr oedd chwant cnoi yn ei ddannedd; y poer tan daflod ei enau yn wyn a phluog fel poer y gwcw; ei ben yn boen a'i gorff yn llesg ac yn llaith ac yn darfod o fodfedd i fodfedd.
Bu'n cysgu yn y gwely llaith yma am yn agos i dair wythnos, gyda'r canlyniad, pan aeth adref, iddo fod yn wael gydag erysipelas am fis.
Defnyddient y garreg-las, wedi ei malu'n fân, hefyd i roddi ar y dolur llaith (foul-foot), ar garn yr anifail.
Mae nifer o fawnogydd bychain yn gwpannau llaith rhwng y creigiau ac yn hafan i chwys yr haul Drosera rotundifolia, tafod y gors - Pinguicula vulgaris, a phlu'r gweunydd - Eriophorum angustifolium.
Roedd y tywydd yn oer a llaith; tywydd swatio wrth y tân.
Roedd yr awyr yn fyglyd, yn wlyb a llaith ac yn llwythog gan aroglau gorfelys tegeiriannau trofannol yn eu blodau.
Mae'n debyg mai amddiffynfa i'r larfa rhag rheibwyr ac i'w gadw'n llaith mewn math o fath swigod moethus tra bo'n gwledda'n awchus ar sydd y planhigyn.
Ond ar y llaw arall gallai fod yn llaith ac yn ddrafftiog yn y gaeaf A dyna ichwi dystiolaeth fod gennyf ffydd nid ychydig yn y Wladwriaeth Les a'i darpariaeth dai, a minnau mor beryglus o agos i'm hoedran ymddeol, heb arlliw o fwthyn uncorn o dŷ haf na dim arall i droi iddo pan fydd raid troi o'r annedd steil ar ben stôl y gwelodd yr Eglwys yng Nghymru neu ddamwain hanes imi drigo ynddi nawr'.
Tyfwch rywfaint o hadau mwstard a berw dwr ar sbwng llaith mewn soser ac yna rhowch ef mewn blwch cardbord a chau'r caead.Torrwch dwll bychan yn ochr y blwch, a'i adael ar sil ffenestr y gegin gyda'r twll yn wynebu'r ffenestr.Sylwch ar y blwch yn rheolaidd, a dyfrhewch yr hadau mwstard a berw'r dwr.