Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llamodd

llamodd

Pan ymadawodd y Rhufeiniaid gadawsant wacter ac ansicrwydd o'u hôl, a chyn pen dim llamodd y Pictiaid rhyfelgar yn baent i gyd dros Fur Hadrian a dechrau difrodi'r wlad.

Gan mai am ryw ugain llath fwy neu lai y gall y gelyn ddilyn y trywydd cyn troi'n ôl i'r fan lle llamodd hi i'r wâl, hela ar y darn hwnnw'n unig y bydd ef gan fod y naid anferth wedi torri dilyniant y trywydd.

Yn sydyn ryw fore llamodd y bêl i ben bryn a edrychai dros ddyffryn eang, a gwelodd Idris, o'i dilyn, olygfa ddigalon iawn.

Llamodd calon Morfudd a gollyngodd ei gafael ar y llenni.

'Tybed oes gennych chi Sul allwch chi 'i roi i ni yn Maenan 'ma'r flwyddyn nesaf?' Llamodd fy nghalon a thynnais fy llyfr bach allan.

Gydag un ruad llamodd y Mercedes o'i gaethiwed a disgynnodd Elis Robaitsh yn glwt i'r pwll llaid.

Llamodd ei galon wrth iddo glywed sŵn yn y goedlan gerllaw, dros y ffordd i'r fynwent.

"Fasach chi ddim yn lecio i ni gysgu yma hefo chi y noson gynta' fel hyn?" Llamodd JR o'i gadair a bugeiliodd yr iâr uncyw i gyfeiriad y drws.