Pan gynhaliwyd gwyl genedlaethol yn Llanbed y tro diwethaf - yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1984 - cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith bapur o'r enw CYMRU 2000. Ein dadl ar y pryd oedd y gallasai cymunedau naturiol Cymraeg fod wedi diflannu ymron erbyn troad y ganrif, er y byddai dros 400,000 o unigolion yn dal i siarad Cymraeg.
Wedi mis yn Saudi Arabia, ro'n i wrth fy modd o gwrdd â Chymry Cymraeg tua'r un oed â mi a oedd yn gyfarwydd â Llanbed, neu Lanfairpwll, heb sôn am fy nhref enedigol, Caerdydd.
Coleg Dewi Sant, Llanbed, yn dod yn seithfed aelod o Goleg Prifysgol Cymru.
Fe'i prentisiwyd yn grydd, ond yn hytrach na dilyn y grefft honno aeth yn fyfyriwr i Goleg Dewi Sant Llanbed ac oddi yno i Goleg Rhydychen, yna tua diwedd y ddeunawfed ganrif daeth yn Archesgob yr Eglwys Sefydledig yng Nghanada.
Daeth Sir Aberteifi, yn arbennig yr ardaloedd o amgylch Tregaron, yn enwog am fagu ceffylau o bob math, a manteisiodd y ffermwyr ar y cyfle i'w gwerthu yn y gwahanol ffeiriau, fel Ffair Garon a Ffair Dalis Llanbed.
Cayo Evans, un o athrawon Coleg Dewi Sant Llanbed a bellach ei fab Julian sydd yma.