Y Llanc fydd Ifans y dyfodol a'r un mor ddiamddiffyn yn wyneb newidiadau.
Gwelais gerflun o'r llanc Dafydd fab Jesse Ban un o'r meistri, yn gryf a hardd o gorff, a dyna'r argraff a adawai Phil ar bawb a'i hadwaenai.
Pan dyfodd yn llanc yr oedd arno eisiau cariad, ond yr oedd bechgyn y Llan yn fwy medrus o lawer nag ef yn hyn.
Fel un a dreiodd ei law gyda'r gwaith hwn, rhaid i mi gyfaddef na wn i sut oedd llanc ar ei brifiant yn gallu gwneud gwaith mor arteithiol o galed â gweithio ffwrnais.
Trwy gymeradwyo hyn y mae hefyd wedi rhoi rhwydd hynt i'r Wasg hela'r llanc ifanc.
Fel bydd y ferch yn ei gnoi bydd yn syrthio mewn cariad â'r llanc.
Pan welwch chi o, newch chi ddeud wrtho mod i'n chwilio amdano?" Ond ni throdd y llanc ei ben.
Dyblwyd a threblwyd yr emyn a daeth llanc ifanc ymlaen, un nad oedd erioed o'r blaen wedi gwneud dim yn gyhoeddus, a bwrw ati i ddiolch am farwolaeth y Groes ac i weddi%o'n daer am "awel o Galfaria fryn".
"Mi fedrwn daflu cerrig os bydd rhaid!" meddai'r llanc.
Rhoir natur y llanc inni, yn gryno a chytbwys, yn y llinell agoriadol, gyda'r gair 'oer' yn yr esgyll yn wrthgyferbyniad didostur i'r 'twymgalon'.
Ei olynydd oedd ei fab, Edward VI, llanc naw mlwydd oed.
.' (neu 'ffisig coch', 'ffisig gwyrdd' neu 'ffisig du', yn ôl y galw.) Un gaeaf pan oeddwn yn llanc, o fethu â chael gwared â pheswch go gyndyn, nid oedd dim amdani ond galw yn Llys Meddyg i ddweud fy nghwyn.
'Roedd Badshah wedi llwyddo i droi Paul hefyd, un arall o 'blant' Pengwern, llanc talentog a gafodd addysg yn Serampore yn nes ymlaen, yn erbyn ei dadmaeth.
'Clywch gwestiwn y llanc.
Ymhlith yr olaf y mae'r faled enwog 'Y Llanc Ifanc o Lyn' a cherddi eraill gan William Jones.
Yna edrychais ar gorff llanc dewr a oedd yn llonydd.
'Fe fyddi di'n talu'n ddrud am hyn, llanc,' meddai rhwng ei ddannedd.
Gweinidog canol-oed o Fôn, llanc ysgol un ar bymtheg oed a dau fyfyriwr o Aberystwyth.
Y llanc â wyneb hardd.
Yr hyn syn drist ynglyn â phedwar peint ar ddeg y noson William Hague yw nid y ffaith iddo fod yn eu hyfed pan yn llanc ifanc ond ei fod on awr yn teimlor angen i ymffrostio am hynny.
Cyn hynny, bun Mr America yn 1947 ac yntaun llanc un ar hugain oed.
Yr oeddwn yn llanc pendew a thwp pan gwrddais â John Gyntaf, ac , i'm tyb i, anwybodaeth anifeilaidd oedd ei nodwedd amlycaf.
Mae soned ganddo â'r teitl 'Madrondod' sydd yn mynegi ei deimladau wrth ddarllen, fel y dywed yntau mewn nodyn ar y dechrau, 'yn llanc, lyfr o delynegion Cymraeg newydd'.
"Dyna fo!" llefodd y llanc pryd tywyll.
Nid Bryncir oedd yr unig le a welodd fflam y diwygiad yn cael ei chynnau gan ymyrraeth annisgwyl llanc ifanc mewn oedfa.
Toc roedd paned o goffi yn barod a galwyd ar y llanc côt dyffl i lawr atynt.
Ar ben hynny nid oedd John Davies ond llanc ieuanc, ugain oed, pan orffennodd yr Esgob Morgan gyfieithu'r Beibl.
Daeth gwraig Jonathan i'r golwg a llanc ar ei hôl.
Roedd hyd yn oed rhai capteiniaid hen longau hwyliau y Cei yn uniaith Gymraeg pan oeddwn yn llanc yn yr Ugeiniau.
Mae gennyf gof am ddyn tal yn hoblian rhedeg am y promenâd, deifar un goes o'r enw Dolphin, ac achubwyd un llanc.
Yr ydym ni'n gwybod yn iawn beth a ddigwyddodd i'r llanc ifanc hwnnw erbyn heddiw a meddwl y wasg ohono.
Tybed ai'r llanc ieuanc a fu'n canu am dd^wr a fydd y dyn i roi terfyn ar y glastwreiddio hwn a dweud nad yw'r Sianel eisiau bod yn Sais?
Doedd hi ddim wedi goleuo yn iawn, ond fe ddigwyddodd weld y llanc yn gorwedd ar ei hyd ar ymyl y ffordd wedi llewygu.
Dipyn o ryfeddod oedd Llywelyn y llanc penfelyn.
'Roeddwn i'n amau y bore yma nad oeddet ti ar berwyl da, llanc.'
Tyrd yma am funud." LLanc ifanc, tlodaidd ei wisg, oedd Aled Owen, yn edrych yn dal am ei fod mor denau.
Aled Williams oedd enw'r llanc ac un o Lanrhaeadr DC ydoedd.
Dechreuodd ef ddarllen llenyddiaeth Gymraeg yn llanc, ac wedi myned I Rydychen gwnaeth ffŵl o'r drefn afrywiog a ddechreuodd ei wneuthur yn fathemategwr, trwy ymroi i ddarllen Cymraeg a gwrando ar ddarlithiau John Rhys.
Awn i mewn i feddwl y llanc ifanc synhwyrus yn 'Atgof' Prosser Rhys, a chawn gip ar ei ffantasïau rhywiol, ac felly hefyd gyda Sant Gwenallt.
'Duwcs ia,' meddai'r llanc.
Yr oedd y Tywysog Charles yn mynychu yr ysgol go arbennig hon ar gyfer cael ei droi o fod yn llanc i fod yn ddyn - os nad dros nos yna, yn sicr, dros gyfnod o wythnosau.
Gwelir enghraifft o'i dechneg yn ei adroddiad o'r digwyddiad sy'n dilyn y tric a chwaraeir ar Robin y Glep gan y llanc a rydd iddo ffug adroddiad o hanes priodas Miss Evans a'r Sgweier ifanc:
Fel ei dad, roedd Arthur yntau yn ymddiddori mewn barddoni, yn canu'r ffidil, ac yn llanc diwylliedig iawn.
Yn fwy na dim, cyflwynir ni yn y Cofiant hwn i dynged drist a droes asbri a direidi llanc ifanc yn y diwedd yn dorcalon.
Dyna a gâi hi, bellach, yn bupur a halen gyda phob pryd bwyd, ei anturiaethau ef ar y Sara Huws, fel y byddai ef yn llanc i gyd yn gwneud plym dyff i'r criw ac yn dringo'r mastiau fel mwnci.
Cododd y llanc ei ben o'i gwpan am y tro cyntaf a gellid gweld drwgdybiaeth yn fflachio yn ei lygaid llwydion.
Yr ochr arall i'r afon safai'r llanc a'r labrador du wrth ei draed.
Gethin Cunnah, 19, o Brestatyn oedd y llanc gafodd ei ladd mewn damwain ffordd ym Mhrestatyn nos Wener.