Dyn a chryn ddychymyg ganddo debyg iawn a benderfynodd fod tri phlwyf Llangwyryfon, Llanrhystud a Blaenpennal yn dod at ei gilydd ar ynys fechan yng nghanol Llyn Eiddwen, ac nid yw ffin Lledrod ym mhell o'r un uniad chwaith.
Fel y gwelir ar y mapiau, plwyf tair anglog cymharol fychan o ryw bedair mil o gyfeiriau yw Llangwyryfon, ac y mae'r stori hon amdano yn cyfeirio yn rhannol hefyd at y pum plwyf sy dros y ffin iddo.
Y Ddolen yw enw'r papur bro sy'n wmpasu Trefenter, Blaenplwyf, Llangwyryfon, Llanilar, Cwmystwyth a sawl ardal arall.
Y ddau blwyf arall sy'n ffinio â Llangwyryfon yw Llanilar a Llanddeiniol.
PLWYF LLANGWYRYFON Y mae i bob plwyf ei nodweddion arbennig ei hun ac nid oes unrhyw ddau yn hollol yr un fath.
Rhennir y plwyf bron yn ddwy adran gydradd o ran maint gan afon Wyre sy'n rhedeg o Fynydd Bach drwy Lledrod a Llangwyryfon i'r môr yn Llanrhystud; mae i honno ei changhennau a'i nentydd mân, ac y mae'n disgyn fil o droedfeddi o'i tharddell i'r môr; am hynny mae hi'n codi'n wyllt ar ôl glaw ac yn gostwng yr un mor sydyn pan ddaw hindda.