Roedd pump o'r plwyfi, sef Dihewid, Llanwenog, Ystrad, Llangybi a Charon yn is-ddeoniaeth Aeron; tra oedd Llanddeiniol neu Garrog, Llanbadarn Odwyn a Llanbadarn Trefeglwys yn uwchddeoniaeth Aeron.
Yr oedd tair ar ddeg o eglwysi prebendari yn perthyn i Landdewi Brefi: Llangybi, Llanbadarn Trefeglwys, Llanfihangel Ystrad, Carrog, Llannerch Aeron, Llanwenog, Blaen-porth, Betws, Llanbadarn Odwyn ger Llwynpiod, Llanboidy, Tre-lech a'r Betws, Llanarth a Thregaron.
Ceir enwau cyffelyb yng Nghymru wrth gwrs ond sylwais ar yr enwau tafarnau canlynol o bob rhan o Gymru sy'n cynnwys enwau adar, anifeiliaid ac un pysgodyn pur gyffredin: Tafarn Ditw, (LLan-y-cefn, Penfro); Tafarn Hwyaid, (Carreg-lef, Mon), Tafarn y Brithyll (Ystradmeurig, Ceredigion); Tafarn y Cornicyll (Llanwenog, Ceredigion); Tafarn y Gath