Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llath

llath

Methiant arall oedd un Ryan Giggs ac yntau bum llath yn unig o'r gôl.

Am y bardd, roedd ganddo ef hynafiaid wrth y llath, gyda thraddodiad hir a disgyblaeth fanwl yn gefn iddo.

Mi ddylse fo wedi gwneud yn llawer iawn gwell yn ddiweddarach o ddeg llath ond fe drawodd o'r bêl ymhell dros y bar.

Yna, ymhen rhyw ugain llath, lledodd y sianel yn ddwr llonydd, dwfn o flaen ceg yr ogof.

A roedden nhw'n ffodus iawn yn y mundau ola wrth i George Demetradze o Kiev fethu gôl gyfan o chwe llath.

Prin roedd e wedi mynd hanner can llath cyn y clywid rhuo mawr ar y mynydd uwch ei ben.

Gan mai am ryw ugain llath fwy neu lai y gall y gelyn ddilyn y trywydd cyn troi'n ôl i'r fan lle llamodd hi i'r wâl, hela ar y darn hwnnw'n unig y bydd ef gan fod y naid anferth wedi torri dilyniant y trywydd.

Newidiodd patrwm y gêm yn llwyr yn yr ail hanner, gan ddechre gyda phedwaredd cic gosb Phil, cic o ddeg llath ar hugain.

Trwy'r smotiau gwyn o flaen ei lygaid, gwelai gar Davies a Rogerson o'i flaen, yn nes yn awr, a'r car arall ryw ugain llath o'u blaenau nhw.

Gyrru'r car yn wysg ei din am ryw ddeugain llath, a dod o hud i'r ffordd.

Ond yn ôl cwpwl oedd yn byw efo'u plant 180 llath oddi wrth gartref Mr Godfrey yn Abergele, gogledd Cymru, roedd cerddoriaeth roc wedi amharu ar eu bywydau am dros dair blynedd.

Fe allai Caerdydd fod wedi talu'n ddrud, ergyd wych o ddeugain llath gan Sasha Opinel yn rhoi gôl i'r ymwelwyr ac yn brawychu ffyddloniaid Parc Ninian.

Ar ddiwedd y daith honno roedd yn ofynnol i ni wedyn gario un o'n cydfilwyr ar ein hysgwydd am gan llath, yna gwyro ar un pen-glin, a saethu at darged, ac os na lwyddid i gael hanner yr ergydion naill ai i'r canol neu o fewn ffiniau'r magpie' - fel y'i gelwid - rhaid fyddai gwneud y daith unwaith yn rhagor.

Lle rhyw dair llath o led oedd y fargen, a dyna oedd gweithdy'r malwr, ond gyda hyn o wahaniaeth, mai'r awyr oedd ei do; felly gwelwch fod y creadur hwn yn dibynnu'n hollol ar y tywydd am ei fywoliaeth.

clywi sŵn ryw bymtheg llath i fyny'r llwybr.

I arbed troedio yr un llwybr yn ol ewch trwy'r bwlch yn y twyni rhyw ddau can llath wedi troi ar hyd y traeth, a gallwch gerdded trwy'r coed yn ol at y maes parcio, gan gofio troi i'r dde, neu fe ddeuech allan yn Niwbwrch!

O fewn eiliade i ddechre'r ail hanner, bylchodd Roy Bergiers drwy amddiffyn Montreal, a hanner can llath o gae o'i flaen, a finne'n rhedeg nerth 'y nhraed wrth ei ochor yn barod i dderbyn pas pe bai angen.

Yr oedd y bont fawr yn un filltir, un fil, saith gant a phum llath o hyd.

Gwelais ef a chil fy llygad wrth ei basio, a bu raid i mi stopio'r car, a gyrru'n ol ryw ddeg llath i wneud yn siŵr.

Sal: Pysgod Nant-las i swper, brithyllod a samwn, llyswennod wrth y llath o rabanau'r gors .

Hwnnw'n rhedeg am ugain llath, cyn taflu'r bêl o'r tu mewn i'm dwylo i, a finne o fewn ychydig lathenni i'r llinell yn llwyddo i groesi, dan gario dau o olwyr ar 'y nghefn.

Oherwydd ei bod wedi mynd heibio i'r wâl am oddeutu ugain llath cyn dod yn ei hôl drachefn ar yr un trywydd, y mae wedi gadael dwbwl ei thrywydd arferol ar y darn hwnnw o dir a bydd y gelyn yn cael ei gamarwain i dybio ei fod ar ei gwarthaf ac ar fin ei goddiweddyd.

Wrth fynd i orffwyso i'r wâl cymerant sylw manwl o gyfeiriad y gwynt; os chwyth y gwynt o'r gogledd, fe â'r ysgyfarnog heibio i'r wâl am ryw ugain llath gan gadw ar yr ochr ogleddol iddi a rhyw dair llath oddi wrthi.