Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llawenhau

llawenhau

Cynorthwya ni i dderbyn dy gynnig, ein Tad, fel y cawn ni etifeddu'r bywyd tragwyddol yr wyt ti'n ei gynnig i ni, a llawenhau yn dy gwmni a'th gariad yn y bywyd hwn.

Yr oedd y profiad newydd hwn yn llawenhau'i ysbryd, a'i synnu, braidd, gan mor anesmwyth oedd hynt y llongau yn nygyfor y tonnau a oedd dipyn yn fwy ymchwyddol na neithiwr.

Cyn i'r llawenhau fedru cychwyn o ddifrif mae LIWSI yn ymryddhau oddi wrth y grwp sy'n cadw reiat a chamu y tu allan i'r ty unwaith eto.

Wrth ei godi'n ofalus roedden nhw'n synnu ac yn llawenhau pan riddfannodd y bugail a rhwbio ei lygaid.

Dewis March yw'r tymor pan na fydd dail ar y coed, a chân Esyllt englyn gorfoleddus, yn llawenhau y bydd hi'n gallu treulio pob tymor yng nghwmni ei chariad, gan fod tri phren, y gelynnen, yr ywen a'r eiddew, â dail ir trwy gydol y flwyddyn.

Ac, yn anffodus, yr oedd peth wmbredd o bobl yn llawenhau yn eu hail-ddyfodiad, ac nid yn unig yn llawenhau ond yn lledaenu'r pla yn ogystal.

Pan ddaw'r newid, bydd y bobl yn llawenhau wrth dderbyn y nwyddau materol hynny y bydd America yn fodlon eu hallforio unwaith eto.

Faint a fynnir o ddeunydd am Loegr ac Ewrop þ Harri Tudur yn glanio yn Aberdaugleddau a'r Cymry druan yn llawenhau o feddwl fod Tywysog o Gymro yn mynd i'w lordio hi tua Llundain yna ac yn mynd i ddod â'r mil blynyddoedd i ben.

Does dim i'w wneud ond eu blasu; er y gellid, efallai, atgyfnerthu eu heffaith arnom trwy ddarllen gwaith meistr cyffelyb ar iaith a dychymyg, megis yr hen fardd hebreig hwnnw gynt a barodd i Dduw ateb Job o'r corwynt: 'Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a holl feibion Duw yn gorfoleddu?' Ar y llaw arall ni chawn anhawster i amgyffred arwyddocâd y gwrthgyferbyniad awgrymog rhwng 'ymryson' yn nechrau'r pennill a 'murmur' ar ei ddiwedd.