Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llawfeddyg

llawfeddyg

Trwy fod yn llawfeddyg yr ymennydd, er enghraifft, neu'n Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Y mae Crile yn gofyn a fyddai'r llawfeddyg wedi mynnu gwneud yr operasiwn ei hun petai'n gweithio am gyflog yn hytrach na chael tâl am wasanaeth?

Os yw llawfeddyg yn gweld bod gwir angen am driniaeth lawfeddygol anodd, cymhleth a pheryglus ar y claf, a honno'n driniaeth nad oes ganddo fawr ddim profiad ynglŷn â hi, yna dylid, ar bob cyfrif, danfon y claf at lawfeddyg arall sydd wedi arbenigo yn y math yma o driniaeth.

Nid oedd gan y llawfeddyg a weithiai yno unrhyw gymwysterau arbennig ynglŷn â llawfeddygaeth yr abdomen ond mentrodd arni ac fe ddarganfu delpyn caled ym mhancreas y claf.

Un llawfeddyg dewr sy'n beirniadu'r system hwn o 'dâl am wasanaeth' yw George Crile.

Er nad yw canser y pancreas bron byth yn digwydd mewn pobl o dan ddeugain oed, ac er ei fod yn amlygu'i hun trwy achosi clwyf melyn yn hytrach na phoen, gwnaeth y llawfeddyg ddiagnosis o ganser y pancreas.

"Y mae'i galon o wedi peidio â churo!" rhybuddiodd y llawfeddyg.

Ceir miloedd o achosion bob blwyddyn ac y mae'n ofynnol i bob llawfeddyg dalu miloedd o ddoleri ar gyfer yswiriant camymddygiad er mwyn ei amddiffyn ei hun rhag mynd i drybini ariannol neu hyd yn oed fethdaliad pan fydd un o'i gleifion yn honni iddo gael ei gamdrin, gan ddod ag achos yn ei erbyn.

Ond, fel y soniwyd eisoes, yn aml ni all y llawfeddyg cyffredinol dibrofiad a chymharol anfedrus fforddio danfon achos cymhleth at rywun mwy profiadol gan fod ei fywoliaeth yn dibynnu ar wneud yr operasiwn ei hun.