Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llechu

llechu

Prin iawn yw'r gwylwyr a allai wahaniaethu rhwng milwyr Irac a milwyr Syria pan fyddan nhw yn llechu yn y tywod.

Roedd set Julian Williams yn set eang ac yn caniatau i'r camera ddangos eangder oeraidd y gweithdy a'r posibilrwydd o bobl yn llechu yma a thraw.

Llew wedi dweud fwy nag unwaith fod rhyw blentyn yn llechu ynddo, rhy Peter Pan sy'n gwrthod prifio a thyfu'n hþn.

Erbyn hyn mae modd ymweld a'r eglwysi hynafol sy'n llechu oddi mewn i waliau'r Kremlin ei hun, ac yno gwelir lluniau hardd yn addurno'r muriau.

Doedd oes o gydfyw gyda ffermwr mynydd ddim eto wedi ei dysgu nad oedd llechu rhag curlaw yn rhan o batrwm ei lafur.

Ofn yr anwybod, ofn y duwiau - yr hyn a alwai'r Groegwyr gynt deisidaimonia; yr hen ofn hwnnw a fu'n llechu yn y galon ddynol erioed ac a fydd eto, bid siwr: ofn newyn, tlodi a dioddefaint; ofn poen, afiechyd a marwolaeth.

Ond pan nofiodd ychydig yn is, gwelodd rywbeth hir a llyfn yn llechu.

Os taenwch yr ewyn yn wastad ar eich bys fe welwch greadur bach melynwyrdd yn llechu ynddo, larfa pryfyn eithaf cyffredin, llyfant y gwair.

Dychmygwch am eiliad eich bod yn annerch rali o blaid 'Achub Ciwcymbyrs Coch Prin Powys' - dim problem yn fanna, tan i chi sylweddoli fod Dafydd Morgan Lewis - yr arch derfysgwr - yn llechu ynghanol y dorf yn ei sbectol dywyll, ei farf ffug a'i falaclafa du.

Syllodd Ibn i'r goedwig ar y naill du a thybiodd iddo weld rhywun yn llechu yno ond ni allai fod yn hollol siwr.

Ond wrth fudo i sir Northampton yr oedd yn ymuno â mudiad Piwritanaidd a oedd yn llechu o dan adenydd gwyr dylanwadol ac a oedd yn ymddangos fel petai dyfodol disglair o'i flaen.

Byddech yn meddwl fod trafficwyr caethion gwynion yn llechu yng nghysgod pob drws siop yn Amwythig.

Beth oedd yn llechu yn y tywyllwch tu ôl i'r blanced?