Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lledaenu

lledaenu

Sethrir ar ddiwylliannau gwannach ran amlaf dan gochi lledaenu diwylliant ac addysg arall i wledydd estron.

Uwchben y creaduriaid yr oedd math ar ffurfafen, yn debyg i belydrau grisial ac yn ofnadwy; yr oedd wedi ei lledaenu dros eu pennau oddi uchod.

Gallai pobl ifanc fynd at y goeden a sibrwd enw'r un roeddynt yn ei garu, ac yna byddai'r goeden yn lledaenu'r neges i'r pedwar gwynt.

Ac er bod y mwyafrif yn dal i drochi eu defaid mae'r ychydig sy'n methu gwneud hynny yn tanseilio'r ymdrechion hynny ac yn lledaenu'r clefyd.

lledaenu gwybodaeth am eich profiad o leoliad

Ymrwymiad i barhau â'r rhaglen codi ymwybyddiaeth a fu ar y gweill (gyda BBC Cymru, HTV ac eraill, megis y Bwrdd Croeso) i addysgu a lledaenu gwybodaeth ymysg y cyhoedd, cyflenwyr erialau a gwesteiwyr am safon a pherthnasedd gwasanaethau teledu o Gymru.

Yma yng Nghymru bu protestio yn erbyn y bwriad i foddi Capel Celyn ac 'roedd Saunders Lewis wedi cynhyrfu'r dyfroedd yn ei ddarlith 'Tynged yr Iaith'. Ond 'roedd oes y brotest yn lledaenu drwy'r byd, y duon yn yr Unol Daleithiau a'r mudiad heddwch newydd a godasai o ganol tanchwa Hiroshima a Nagasaki.

Cynhyrchu pecynnau fydd yn cyflwyno theori ar ddatblygiad ieithyddol, lledaenu arfer dda, yn rhoi cyfle i athrawon adfyfyrio ar eu dulliau dysgu

Ac, yn anffodus, yr oedd peth wmbredd o bobl yn llawenhau yn eu hail-ddyfodiad, ac nid yn unig yn llawenhau ond yn lledaenu'r pla yn ogystal.

Terfysgoedd mewn trefi ym Mhrydain yn lledaenu o Gaerdydd.

Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen.

Ar un cyfnod, hwn oedd y llyn mwyaf yn y rhan hon o Loegr, ond fe'i sychwyd i greu porfeydd, a gwelwyd tomen sbwriel yn lledaenu ar ran ohono.

Gan mai prif nod y prosiect yn ei gyfanrwydd oedd canolbwyntio ar ddulliau dysgu yn y sefyllfa uwchradd uniaith Gymraeg a dwyieithog, bydd mwyafrif y casgliadau yn ymwneud a lledaenu ymarfer dda yn y dosbarth.

Fe'i clywais yn dweud, pe gellid lledaenu r gymdeithas honno drwy'r byd, y byddai'r byd i gyd yn well lle i fyw ynddo.

Mae gennym syniadau heddychlon i'w lledaenu ar draws y byd.'

Efallai y byddai'n fuddiol cwblhau'r ffurflen grynhoi a lledaenu'r wybodaeth hon.

Yr oedd diddordeb yn yr Oesoedd Canol wedi ei adnewyddu ac wedi lledaenu, ac yr oedd agweddau anghyfarwydd yr Oesoedd hynny'n tynnu mwy a mwy o sylw.

Yr agwedd hon tuag at archaeoleg môr sydd wedi lledaenu gorwelion yr astudiaeth a dwyn dimensiwn newydd i statws y maes.

Lledaenu datblygiad dwyieithog plentyn yn sirol ac yn genedlaethol ac oblygiadau polisiau gwleidyddion, addysgwyr a gweinyddwyr addysg i hynny.

Y mae arnynt ôl yr egni, yr hwyl, a'r diffyg gofal am yr oblygiadau, a ddaw o gydgyfansoddi gan rai oedd yn rhannu egwyddorion a brwdfrydedd dros eu lledaenu.

Bellach, mae'r firws wedi lledaenu i bob rhan o'r byd bron.