Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleddf

lleddf

Cyfoeth o storiau, am ei ddyddiau cynnar fel siopwr gwlad, oedd forte Evan Jones, y perchennog, a gallai ddifyrru'r oriau gydag atgofion am y llon a'r lleddf.

Yr oedd y sŵn mor felys ac mor lleddf, yn atsain ar draws yr hen gwm, a'r cilfachau'n dynwared y canu a'r wylo, a ninnau'n ochneidio fel mewn llesmair wrth ei glywed .

Fel hyn y cymharodd Tom Parri Jones ddagrau'r llon a dagrau'r lleddf þ Dwy afon dirion deurudd þ i rai llon, Ond i'r lleddf a'r dwysbrudd Chwipiadau rhaffau ar rudd, Stori cwest ar y cystudd.

Ymhen tipyn clywn y canu lleddf ar draws yr afon a'r cwm, a rhedasom i'r tŷ i ddweud eu bod yn canu ac yn wylo wrth dŷ ewyrth Richard.

Canai, ubain-ganai ei farwnadau hyd y cyfddydd a chyhoeddai ei fygythion lleddf am oriau.

Roedd y cynigion i gyd yn y cywair lleddf; roedden nhw i gyd yn ddigalon, ond digalon yn gyffredinol ac nid dim ond digalon ynghylch Cymru, ac roedd hynny'n rhyw fath o gynnydd.