Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lledr

lledr

Mi fedra i ei glywed o 'nghwmpas ym mhob man - ar wahân i arogl lledr, glud, cemegolion a defnyddiau crai eraill.' Tydi hynna ddim yn wir,' meddai, gan gasa/ u dweud celwydd, ond yn ceisio'i hargyhoeddi ei hun mai dyna'r unig amddiffyniad yn erbyn y diwydiannwr hwn oedd mor annioddefol o lwyddiannus.

Cofio wedyn ei gyfarfod yn ei swyddfa ddiaddurn yn Llundain ac yntau'n eistedd mewn cadair â'i lledr wedi rhwygo.

Dyffryn afon Lledr yn llawn ffresni i gyfeiriad Bwlch y Groes a llethrau'r Drosgol, efo ambell oen bach yn prancio yn ei afiaith ar y llechwedd.

mae'r lledr yn dechrau torri.

Wrth edrych draw tua Betws y Coed a Dyffryn Lledr gwelwn fod y niwl wedi aros yn y dyffrynnoedd gydol y dydd gan adael y copaon fel llongau yn llygad yr haul.

Ond yn troi'n win blasus - o brynu potelaid gan un o'r hen ddynion wyneb-lledr a mwstas Stalinaidd, gwyn, a chap stabal am ei ben, sy'n eistedd yng nghysgod olewydd efo rhesiad o boteli, heb labelau, ar wal wen isel ger y traeth.

'Rşan y plismon plant ichdi,' ysgyrnygodd Nel yn sefyll a'i thraed un bob ochor i ben PC Llong a lledr ei sgidiau sodlau uchel yn cochi'i glustiau, 'tydi Vatilan heb ladd neb yn naddo?'

Yn lle ei siwt gragen amlbwrpas, gwisgai rywfath o grysbas lledr cryf a llodrau gwlanen pigog.

Ni thrafferthai'r wraig ei wthio'n ôl i'w le; daliai goler ei chot ar gau yn dynn wrth ei gwddf â'i llaw dde a chariai fag siopa lledr coch yn ei llaw chwith.

Cyfaddefwyd hefyd y gallai'r clafr achosi problemau masnachol difrifol i ffermwyr ac i'r diwydiant lledr.

Gweld urddas a balchder rhai o'r cenedlaetholwyr yn wyneb caledi ail-enedigaeth gwlad; sylwi ar siacedi lledr a bysedd modrwyog cyfoethogion y farchnad ddu; clywed recordiau Americanaidd yn dôn gron ddiddiwedd ar radio gyrrwr ein car.

Blasus oedd y peint uwd yn y bore a'i gynhesrwydd yn treiddio trwy'r gwythiennau a'r ymennydd, ac amheuthun oedd y cig lledr, y pytatws llygredig a'r pwding reis dyfrllyd.

Codwn innau, gwisgo amdanaf, sodro bwrdd bychan o flaen fy nghadair, rhoi fy nhraed mewn basgedaid o sbarion lledr, ac ymroi i weithio gyda'm llyfrau gan ddal ati, hynny fedrwn i, trwy'r oriau man tan y bore.

Daeth arogl y glud, y lledr a'r defnyddiau gwneud yn gryfach.

Lledr rhy gadarn, rhy galed i'r ardal hon, i'r gwres hwn, esgidiau y byddai rhywun yn eu gwisgo i gerdded dros ran arall o'r byd, y Tyrol er enghraifft.