Y mae iddo dair rhan: y modd yr enillir Enid (a hanes hela'r carw purwyn yn arweiniad tuag ato); adran gysylltiol lle'r â'r arwr a'i wraig i'w teyrnas eu hunain ac ymserchu yn ei gilydd i'r fath raddau nes ennyn beirniadaeth a chrechwen y llys; a hyn eto'n arweiniad at wir thema'r 'rhamant', ymgais Geraint i'w brofi ei hun, neu'i wraig, mewn cyfres o ymladdfeydd sy'n cyrraedd uchafbwynt yn 'chwaraeon lledrithiog' y cae niwl.
Y mae geiriau cyntaf Geraint yn arwydd eglur fod perthynas newydd wedi'i sefydlu rhyngddynt ac mai ynghyd yr wynebant bob anturiaeth newydd, 'Arglwyddes', ebe ef, 'a wyddost ti pa le y mae ein meirch ni?' Yr antur olaf yw'r cae niwl a'r chwaraeon lledrithiog.