Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lledu

lledu

Mae Llywodraeth Iwerddon yn poeni yn fawr y byddai hynny'n lledu'r clwy ymhellach.

Yr ochr draw i Gob Malltraeth, mae Afon Cefni yn llifo'n naturiol unwaith eto, ac yn lledu'n aber eang.

O dan y ffurfafen yr oedd adenydd pob un wedi eu lledu nes cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, ac yr oedd gan bob un ohonynt ddwy i guddio'i gorff.

Y bennod nesaf, 'Lledu Gorwelion Ysgolheictod ...' , a'r bennod ar ei hôl yw'r ddwy feithaf yn y llyfr, yn ymestyn dros ddau draean ei hyd ac yn llawn o ddeiagramau a mapiau a lluniau pwrpasol.

'Roeddwn i'n hoffi'r ffordd gafodd y bêl ei lledu gan yr olwyr yn enwedig yn yr awr gynta.

Dangosodd yr astudiaethau hyn fel yr oedd tafodieithoedd yn ymrannu'n ardaloedd ffocol, canolfannau o ddylanwad ar gyfer lledu nodweddion ieithyddol ac ardaloedd trawsnewid rhagddynt, sef ardaloedd yn rhannu nodweddion dwy neu ragor o ardaloedd ffocol cyfagos.

Cymer ychydig ohono eto a'i daflu i ganol tân a'i losgi; bydd tân yn lledu ohono i holl dŷ Israel.

Dinas a choleg Caerdydd yw man genedigaeth y cylchgrawn hwn, yma y gwelwyd bod tir newydd yn ein disgwyl yng Nghymru, i'w ddarganfod gennym a'i weithio a'i feddiannu, er lledu teyrnas diwylliant Cymreig.

Yn y cylchgronau a oedd yn lledu a helaethu eu dylanwad yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf roedd ymadroddion fel 'Meibion Hengist' neu 'Blant Alis' am y Saeson wedi mynd yn ystrydebau, neu'n rhan o rethreg y cyfnod.

Ac wele'r Quango Iaith yn gwneud gwaith brwnt y Torïaid yng Nghymru (sef holl bwynt sefydlu Quangos os na allwch ennill grym trwy etholiadau), yn lledu twyll a rhagrith fel wna'r WDA, Tai Cymru, yr Ymddiriedolaethau Iechyd, yr Ysgolion sydd wedi eithrio a'r Swyddfa Gymreig ei hun, yr Arch Quango.

Daeth Miss Lloyd i agor y drws a rhyw gochni tywyll anarferol yn llenwi ei hwyneb ac yn lledu i lawr ei gwddf.

A robin yn camu fel esgob gan stwytho a lledu godre'i blu.

Os ni'n meddwl taw lledu'r bêl sy angen - fe wnawn ni ledu hi.

A gwibio yn waeth wnân nhw fel maen nhw'n gneud ar ôl lledu pob croeslon.