Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llefarydd

llefarydd

Ond ni fydd y swyddfa'n Fangor yn cau, meddai llefarydd ar ran yr awdurdod yr wythnos hon.

Dywedodd llefarydd Gwasanaeth y Carchardai: Dyw'r mater ddim yn ymwneud â thrin carcharorion.

Ond gwadodd llefarydd Llywodraeth Ethiopia Salome Tadesse fod hyn wedi digwydd.

Mae'n rhaid i'r amaethwr drin ei ddefaid ond rhaid gwneud hynny yn y modd mwya diogel iddyn nhw hefyd, meddai llefarydd ar ran Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr.

'Nid yw y penderfyniad hwn yn effeithio ar y cystadlaethau barddoniaeth arbennig ar-lein a gyhoeddwyd ar wefan yr Eisteddfod ac atgoffir i'r beirdd sydd yn defnyddio'r Wê ac e-bost bod cyfle i gystadlu trwy'r amser ar y rhyngrwyd,' meddai llefarydd.

Ddechrau'r wythnos, fe ddywedodd llefarydd eu bod "os yn bosib, yn mynd i ystyried cyflogi stiwardiaid Cymraeg."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Eritrea fod ymosodiad ar Zalambessa, tua 100 cilomedr i'r dde o brif-ddinas Eritrea, Asmara, wedi cael ei yrru'n ôl ddydd Mawrth.

"Hefyd, mae'r Gerddorfa yn hybu'n rheolaidd gerddoriaeth o Brydain ac yn enwedig waith cyfansoddwyr o Gymry fel Grace Williams, Daniel Jones, Alun Hoddinott a William Mathias," meddai llefarydd.

Dywedodd llefarydd Israel bod hofrenyddion y fyddin wedi ymosod ar dri adeilad yn perthyn i Fatah, gan gynnwys eu pencadlys yn Hebron, canolfan arfau yn Jericho ac adeiladau yn Beit Jala ger Jerwsalem.

Ni fyddai'r mesurau yn gwneud y sefyllfa'n waeth, meddai llefarydd.

Mewn cyfarfod cyhoeddus drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngwesty'r Angel Caerdydd nos Fawrth Mai 16eg - cyfarfod i lansio deiseb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith Newydd, deddf a fyddai yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg - fe gafwyd cefnogaeth gref gan Elin Jones, llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg, a Christine Humphreys ar ran y Rhyddfrydwyr Democrataidd.

Ar y llaw arall, gellid honni bod Yr Ymofynnydd yn ystod golygyddiaeth Jacob wedi adlewyrchu sefyllfa a safbwynt y mudiad yng Nghymru, ynghyd â bod yn llefarydd swyddogol yr Undodiaid Cymraeg.

Yn ei lythyr heddiw i Alun Michael mae Ffred Ffransis llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Addysg yn hawlio fod hon yn foment dyngedfennol fydd yn dangos ai twyll oedd datganoli i hwyluso gweinyddu polisiau Llundain yng Nghymru ynteu a gymerir y cam cyntaf tuag at ffurfio polisiau datganoledig Cymreig.

Yn ôl llefarydd ar ran Cymdeithas Pêl-droed Lloegr mae na gytundeb na fydd y cae yn cael ei ddefnyddio am ddeng niwrnod cyn y ffeinal.

Dywedodd Carol Owen, llefarydd ar ran y symudlad fod yr wylnos yn ffordd o ddangos cefnogaeth i waith y gangen yn Llangefni.

'Yn groes i'r drefn arferol, mae modd i bawb ddarllen y cynnyrch wrth iddo gael ei ollwng o ddwylo'r beirdd a chael cyfle unigryw hefyd i gynnig eu sylwadau answyddogol ar y cynnyrch ymhell cyn i'r beirniad swyddogol wneud ei waith," meddai llefarydd.

"Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r cyngerdd heno gymaint ag a wnaethon ni," meddai Anthony Freud, y llefarydd ar ran y panel beirniaid, cyn cyhoeddi enw enillydd y noson.

"Os ydych chi'n gorfod teithio naw milltir a ffeindio lle i barcio - rydych chi'n dewis rhwng hynny a gwneud rhywbeth arall." Yn ôl llefarydd ar ran Swyddfa'r Eisteddfod, roedd rhybudd wedi cael ei gyhoeddi adeg Eisteddfod Llanelwedd y byddai lle yn Nghwm-nedd yn brin ac mai'r cynta' i'r felin fyddai hi.

Cyfarfod cadarnhaol â Win Griffiths, Llefarydd y Blaid Lafur ar Addysg yng Nghymru.

O bryd i'w gilydd wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaenau, byddai llefarydd ar ran y ddau arweinydd yn dod draw i gynnig ambell ddarn newydd ar gyfer y jig-so.

Mae Awdurdod y Palesteiniaid wedi dechrau ymchwiliad i'r digwyddiad ac yn gofyn i'r Israeliaid beidio ymateb fel na fydd y sefyllfa'n gwaethygu," meddai llefarydd.

Hefyd, mae'r Gerddorfa yn hybun rheolaidd gerddoriaeth o Brydain ac yn enwedig waith cyfansoddwyr o Gymry fel Grace Williams, Daniel Jones, Alun Hoddinott a William Mathias, meddai llefarydd.

Dywedodd eu llefarydd Pete Riley: Dydy iechyd y ffarmwr ddim yn cael ei effeithio pan mae'r ffarmwr yn trochi'r defaid cymaint ond wrth drin yr hylif wedyn hefyd.