Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleia

lleia

(Er i adfynach chwerw a adawodd y gymdeithas rhyw flwyddyn ledaenu si ymysg mân fynachod Enlli fod y Priodor wedi'i erlid o Rydychen ar ôl cwta dau dymor dan amgylchiadau pur amheus a dweud y lleia'.) Ond roedd hynny flynyddoedd maith yn ôl, pa 'run bynnag.

Dod i adnabod person arall pan oedd yr adnabod mor bwysig; ymhyfrydu ymhob darganfyddiad bach a ychwanegai'r gronyn lleia o ddiffiniad ar ddirgelwch annelwig cymeriad.

Dim ond meddwl ei fod o'n fawr mae hi, rhaid iddi gofio mwya'n byd fydd rhywbeth i'w weld o bell, lleia'n byd fydd o o'i gael yn eich llaw.

Ond cafwyd canlyniad symol a dweud y lleia.

Ma' hi'n amsar rhyfal William Huws ac ma' petrol ar rasion.' Gwr â'i faen sbring wedi'i windio hytrach yn dynn oedd Ifan Ifans y Paraffîn; datodai'n un llanast' ar y styrbans lleia'.

Wnes i 'rioed chware yn y fath dywydd llethol, lle'r oedd y chwys yn tasgu dim ond wrth wneud y symudiad lleia, heb sôn am garlamu o gwmpas y lle ar ôl tipyn o bêl.

'Wnes i mo'r niwed lleia' iddo fo, naddo wir.

Mae yna ystyriaeth ariannol, hefyd, ond dynar lleia o bryderon Henry wrth ddychwelyd i geisio profi y gall e wneud swyddi Cymru ar Llewod.

Mwya mae Mark Hughes yn chwarae'n y tîm lleia o siawns fydd 'na i Nathan Blake i chwarae.

Roedd y cwbwl ar dâp - y dagrau, y gweiddi, menyw'n llewygu dan y gwres a'r emosiwn, wynebau oer a gynnau cadarn y milwyr Israelaidd, a baner y wladwriaeth Iddewig yn chwifio'n herfeiddiol ar dir y daeth yn amlwg imi nad oes ganddynt y bwriad lleia' o'i ddychwelyd i'w wir drigolion.

Yn yr Ail Adran collodd Bristol Rovers. Mae hyn yn rhoi'r mymryn lleia o obaith i Abertawe y gallan nhw osgoi disgyn yn ôl i'r Drydedd Adran.

Pwysleisiai fod Mam yn disgwyl iddo ef ddod adre i fynd â ni i'r Cwrdd am y tro cyntaf a soniai am fy mrawd lleia a waeddodd mâs cyn i'r offeiriad gyhoeddi'r emyn olaf "Sdim fod siarad yn y Cwrdd" nes peri i'r gynulleidfa niferus (yr adeg honno) droi i edrych i gyfeiriad y cyhoeddwr dewr!

Diolch i'r drefn, wnest ti ddim blasu ond y tameidyn lleia - ac eto, roedd hynny'n ddigon i'th hala i gysgu am amser maith!

Roedd y lamp ddarllen wrth ymyl y gwely ynghynn tan yr oriau mân, er bod y rheiny'n oriau annifyr, a dweud y lleia'.