Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleiaf

lleiaf

Y rhai mwyaf effeithiol yw'r gasgen rowlio lle gall y plant lleiaf ei symud yn ddidrafferth.

Y fam yn y cerbyd gyda'r rhai lleiaf, y tad yn gyrru un wagen, Iago yn gyrru y llall, a David Rhys y brawd hynaf yn gyrru y drol, a'r ddwy chwaer hynaf, Mary ac Elisabeth ar gefn ceffyl ar yn ail i yrru y gwartheg ar ceffylau.

Edrychodd yr athro'n amheus arno, er i Hector egluro'n eiddgar wrtho ei fod wedi astudio'r pwnc yn yr ysgol, ond heb grybwyll na bu ei lwyddiant, a dweud y lleiaf, yn syfrdanol.

Prin y gallai fod yn fy nghofio - un o'i fyfyrwyr mwya trwsgwl a lleiaf dawnus.

Yr hyn a gawsom i swper y noson gyntaf oedd tafellau o goes porc wedi eu rhostio, gyda thatws, pys a chawlifflwr, i ddewis y lleiaf lletchwith o'r tair ymdrech yn y Geiriadur Termau.

Roedd heddiw wedi bod yn siomedig iawn, a dweud y lleiaf.

Fodd bynnag, y gobaith yw y bydd nifer o Reolwyr eraill - o'r rhengoedd isaf mewn sefydliadau mawr i reolwyr/berchnogion yn y cwmnïau lleiaf - yn cael budd o'r gwefan.

Yr oedd yr ohebiaeth yn ddadlennol, a dweud y lleiaf.

Mae'n ddiddorol, a dweud y lleiaf, cael cwmni un sydd a barn bendant a diwyro am garcharau a charcharu.

Nid twymyn bregethu Llandinam a yrrodd Sarah a minnau i Drefeca, y rheswm lleiaf oedd hynny.

hawdd iawn yw clywed y gwahaniaeth lleiaf rhwng dau nodyn ; maent i'w clywed yn curo " yn erbyn eu gilydd.

Moelodd y cardotyn ei glustiau gan wrando'n astud heb wneud y smicyn lleiaf o sŵn rhag iddo darfu ar eu sgwrs.

Po fwyaf y disgynnai'r ganran honno, lleiaf oll oedd y gefnogaeth.

Ymddengys mai'r dull lleiaf trafferthus i'r ysgolion gael gafael ar adnoddau yw drwy eu prynu yn lleol o lyfrwethwr.

Ond arhosodd Parry-Williams yn ddyn cyfoes, ac yn wir, o holl feirdd ei gyfnod, ef yw'r un a deimlodd yr atyniad lleiaf tuag at y gorffennol, hyd y gellir gweld o'i waith llenyddol a barddonol.

Mae yma gofnod trawiadol o'r modd yr oedd gafael y wasg radicalaidd yn niwedd y ganrif ddiwethaf yn cael ei gweld fel bygythiad difrifol gan y dosbarth llywodraethol Prydeinig a hynny nid yn lleiaf am mai yn yr iaith Gymraeg yr oedd y wasg honno yn ei mynegi ei hun.

I'w coginio'n gynt a chadw mwy fyth o'r maeth gellir torri'r betys amrwd yn stribedi mân, eu rhoi mewn sosban gyda'r mymryn lleiaf o ddŵr a llond llwy fwrdd o olew'r olewydden neu flodyn yr haul.

Yno goruwch y dyfnderoedd mawr daliodd y rhai lleiaf un.

Ymateb y Llywodraeth oedd i drïo rhannu pobl Cymru a chynnig y lleiaf i gadw pobl Cymru'n dawel.

Mae cynnwys y llyfrynnau hyn yn amrywiol, a dweud y lleiaf.

Yn gyffredinol fe ellid dweud mai'r 'darnau mawr' lleiaf eu gwerth sy'n cael eu taflu i faes y frwydr yn gyntaf.

Ac un o'r rhai lleiaf sicr o gadw ei le sgoriodd gais gyntaf Cymru - Dafydd James yn gwthio'i wrthwynebydd o'r naill du cyn rhedeg yn glir ar ôl ychydig dros ddeng munud.

Gwelwyd dirywiad enbyd yn y brwdfrydedd hwn yn y chwe degau am amryw resymau, nid y lleiaf ohonynt ddatblygiad y cyfryngau.

Wedi dychryn mae e Aeth Mali, ei fam, i'r Infirmary neithiwr.' Ni bu ganddi erioed awydd na dawn i siarad â phlant bach lleiaf y Teulu, ond nawr roedd Amser ei hun fel pe bai wedi sefyll o'i chwmpas a chlywodd ei llais ei hun yn cysuro'r un bach: 'Mae popeth yn iawn, Robin, bydd dy fam yn dod 'nôl atat cyn bo hir.

Cynnwys lu mawr o gerddi rhagorol a erys yn eu blas tra pery'r iaith ac nid y rhan lleiaf pwysig o'r gyfrol, o ran glendid arddull a graenusrwydd cynnwys, yw'r Rhagymadrodd.

Y mae'n gwestiwn, a dweud y lleiaf, a oedd pawb yn darllen y stori hon fel llith rybuddiol.

Gwych o gyffelybiaeth yw'r un a geir yn y pennill cyntaf: y tonnau a'r graig yn noethi eu dannedd ar ei gilydd ond heb y mymryn lleiaf o sŵn i'w glywed.

Ond cynnwys y mudiad newydd elfennau go ddieithr i feddwl Cymru heddiw, - cred mewn pendefigaeth gymdeithasol, ac ewyllys da (a dywedyd y lleiaf) tuag at Eglwys Rufain.

Felly rhwng hynny, a'r hanesion am sut oedd pethau y tu ôl i'r llen haearn, 'doedd teimladau'r teulu yma ddim yn gysurus a dweud y lleiaf.

Cofiai Vera'n iawn sut y byddai'r newidiadau lleiaf i'w drefn yn gwneud Arthur yn bigog ac yn anodd i fyw gydag ef am ddyddiau.

Yn ei henaint dangosodd gryn ddewrder yn ei ymlyniad wrth gydwybod ar bwnc heddwch a rhyfel, ond er iddo dreulio blynyddoedd yng Nghymru nid ymddengys iddo ymglywed o gwbl â'r cyffro cenedlaethol na dangos y diddordeb lleiaf ym mhwnc cenedlaetholdeb mewn egwyddor na gweithred yng Nghymru.

yw dysgu ar lefel gallu mwyafrif y dosbarth gan anwybyddu i raddau y mwyaf galluog a'r lleiaf breintiedig...

Ac yntau heb y syniad lleiaf am beth i ysgrifennu, plannwyd yr hedyn yn ei ddychymyg pan soniodd ei wraig am ei phrofiad yn cynorthwyo i chwalu ei gartref yn Llanberis bedair blynedd ynghynt, wedi marw ei fam.

Yn Y Tafod diwethaf roedd na lun pedwar ymennydd a'r lleiaf o'r rhai hyn oedd un Poly Toynby.

Profiad cynhyrfus a dweud y lleiaf oedd mynd yn y cwch bach yn ôl i'r llong.

Os anarchiaeth yw'r gred mai'r wlad fwyaf diddig yw'r un â lleiaf o lywodraeth ganol, yna anarchydd oedd Gandhi.

Yn ôl yr hogyn lleiaf acw, sydd at ei fogail mewn prosiect TGAU ar y pwnc, mae siocled yn cynnwys cemeg o'r enw Phenylethylamine sydd yr un ag y mae'r ymennydd yn ei ryddhau yn naturiol pan yda ni'n syrthio mewn cariad.

Y cof nesaf yw fy mod wedi aros gartref yn y Gaiman ddydd Nadolig, efo Anti, tra'r oedd Mama wedi mynd i Drelew gyda'r plant lleiaf i basio'r W^yl efo Nain.

Am genedlaethau yr ystafell yn y gwaelodion gyferbyn â'r "gegin" oedd cartref y plant lleiaf, a neb llai na Miss Jennie Dryhurst Roberts oedd yr athrawes.

Mewn sawl ffordd, diwylliant dirgel yw'r diwylliant Cymraeg ac y mae'i ogoniannau yn anhysbys hyd yn oed i'r Cymry hynny nad ydynt yn siarad Cymraeg, fel y gall y Cymry Cymraeg anrhydeddu Cymro enwog na fyddai gan y Saeson sy'n byw yn yr un stryd a hwy mo'r syniad lleiaf pwy ydyw.

Gan nad oedd ein gard ddim yno, annoethineb ar ein rhan fuasai rhedeg oddi yno; fe'n cyhuddid o geisio dianc, a phe gofynnid inni egluro pam yr oeddem yn rhedeg buasai'n ddiwedd y byd arnom: nid oedd gennym mo'r syniad lleiaf sut i gyfieithu, "Mae 'na butain yn yr iard," i Siapanaeg.

Yr olaf ond nid y lleiaf, diolch i Nyffryn, mae eu cefnogaeth i'r Arwydd yn gyson a gwerthfawr ers blynyddoedd, y beiro, y ddau droed a'r bwrdfrydedd ar waith.

Doedd ganddo ddim y syniad lleiaf sut i drin heclwyr.

Aethom draw at y twr lleiaf ar y chwith i gael hoe a phaned.

Mae'r dosbarth lleiaf yn 35 a'r mwyaf tua 42.

ond unwaith eto mae'r dewis o haneri yn ddadleuol a dweud y lleiaf.

Ymhell cyn fy ngeni i deuai bob blwyddyn â hosan Nadolig i bob plentyn yn yr ysgol, o'r lleiaf i'r mwyaf, ynghyd â ffrwythau a melysion.

Mae llawer o'n hacademwyr lleiaf wedi mynd i gredu hyn eu hunain, a dyna sy'n cyfrif fod cymaint o rigymu pert, eithaf clyfar o ran techneg, ond er hynny heb ronyn o welediad.

Yr oedd hefyd yn awdurdod ar ddiod ei fro, a chofiai'r manylion lleiaf ynglŷn â hi a'r rhywogaethau neilltuol o afalau y gwasgwsid hi ohonynt.

Bydd y rhaglenni'n cyfuno byd ffantasi a'r byd go iawn wrth gyflwyno cysyniadau mathemategol i'r plant lleiaf.

Mae'r ystum ei hyn yn symbolaidd, a dweud y lleiaf, a byddai'n anodd dod o hyd i swydd lai gogoneddus.

Gallwn yn hawdd fod wedi ei hoffi a maddau llawer iddo petai wedi dangos yr arwydd lleiaf o serch tuag ataf.

Iddi hi nid oedd gwahaniaeth rhwng pregethwr a phregethwr; yr oeddynt oll yn dda, a dangosai gymaint o barch i'r lleiaf ag i'r mwyaf.

Anffodus a dweud y lleiaf fyddai peidio â'i ddarllen ac yna canfod i ni wneud camgymeriad o'r mwyaf.

Yn lle'r hen Dalfan wyllt, gwelwn yn datblygu fachgen mewnblyg, prin ei eiriau a fyddai'n gwylltio'n gaclwn am y rheswm lleiaf.

Ac i fod yn hollol onest, faint ohonom ni'r 'werin' gyfoorddus, hunan gyfiawn sydd a'r syniad lleiaf o achosion y streic andwyol hon?

Daw hyn a ni am y ffin a chyfriniaeth, ond gall cyfriniaethgymryd llawer ffurf, a gwell peidio a mynd ar ol y trywydd hwnnw yn awr, o'r hyn lleiaf, nid ymhellach na'r profiad lledgyfriniol y mae llawer ohonom wedi ei gael.

(Nid y peth lleiaf yng nghynhysgaeth feirniadol Mr Thomas yw ei wybodaeth o lenyddiaeth Saesneg y cyfnod ar ei hyd: mae yma ym Mhennod II astudiaeth gymharol rhwng Henry Vaughan a Morgan Llwyd sy'n berl.)

'Roedd y pethau lleiaf yn ddigon i droi'r drol yn aml.

Yn ôl Dylan Phillips, 'Go brin fod gan yr aelodau cyffredin y diddordeb lleiaf yn yr athronyddu a'r gwleidydda: profiadau uniongyrchol y brotest a'r weithred a oedd yn eu diddori hwy' (t.181). I fudiad ymgyrchu dyma un o'i gryfderau: tra bod rhai mudiadau eraill yn trafod beth i'w wneud, mi roedd aelodau'r Gymdeithas yn gweithredu ac yn tynnu sylw at ddiffyg statws yr iaith.

Y newyddion drwg i'r rhai hynny sy'n trio cadw llygaid ar eu siap ydi mai yn y siocled drutaf y mae'r lleiaf o galori%au achos bod ynddyn nhw fwy o gacoa a llai o siwgwr.

Y mae bod yn etifedd dau ddiwylliant yn gallu creu anawsterau digon blin yn aml ac nid y lleiaf ohonynt yw anallu'r sawl na wyr iaith ond Saesneg i sylweddoli nad yw medru Saesneg a bod yn hyddysg yn hanes a llenyddiaeth Lloegr o angenrheidrwydd yn gwneud pobl yn Saeson.

Canlyniad hyn oedd cael ambell ymadrodd a brawddeg a oedd, a dweud y lleiaf, yn anystwyth os nad yn amhersain.

Gellid cyhoeddi llun pedwar ymennydd yn Y Tafod hwn hefyd a'r lleiaf o'r rhai hynny, gryn dipyn yn llai nag un Toynby, fyddai un Betts.

Sentimentaliti anghyfrifol mewn Cymry yw pledio undeb gau fel hyn ar draul bywyd y cenhedloedd lleiaf; manteisio ar eu cyfle'n sinical a wna'r gwledydd mawr a'i pledia.

Y newyddion hwyrnos yw'r rhan lleiaf boddhaol o'r gwasanaethau newydd.

Yr oedd cyhoeddi yr adeg honno yn fenter gostus gydag ymateb y bobl fel arfer yn llugoer a dweud y lleiaf.

Dyma Jini yn mynd yn ddwfn i boced ei sgert ac yn tynnu allan lyfr bach, bach - y llyfr lleiaf a welais i erioed.

O'r hyn lleiaf, gellir tybio hynny, os teg yw casglu mai efe oedd awdurdod y Parch.