Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleidr

lleidr

Serch hynny, ychydig a boenai'r lleidr profiadol o Lundain am dreulio cyfnod o gaethiwed yn Awstralia, ond ystyriai'r gweision fferm yr alltudiaeth gyda'r ansicrwydd eithaf.

Mae'r lleidr yn gosod deg neu ugain hwyrach o'r cewyll gwifrog yma yn y pentref bob nos wedi iddi nosi, ac yna mae'n mynd o gwmpas i'w casglu yn y bore bach.

Vatilan, lleidr llestri - gan Robin Llywelyn

Vatilan, lleidr llestri hirben a diegwyddor, oedd yr unig un i Nel erioed ei garu go iawn.

Gwelodd hi dri lleidr yn dianc mewn car.

Estynnodd lyfryn o'i boced a darllen ohono: 'Lleidr yw Vatilan a phlismon o'r enw PC Llong wyf innau.'

Corgi bach melyn oedd Cymro, ci Rhodri, ac fe wnâi gymaint o sŵn wrth gyfarth, fel na fentrai lleidr ddod o fewn canllath i'r tŷ.

A lleidr y perthi yn ei gap du a'i wasgod sgarlad, cythraul mewn croen yn ôl y garddwyr ond wiw ei ddifa.

"Y lleidr anniolchgar!" medd yr hen ŵr, â'i lais yn taranu drwy'r caban.

`Roeddwn i'n siwr mod i'n medru rhedeg yn gynt na'r lleidr.

Gan feddwl mai lleidr oedd yno, o o wedi codi bat criced o'r porch ac wedi mynd ar flaenau'i draed at ddrws y gegin, troi nobyn y drws a chanfod ei fod o wedi'i gloi o'r tu mewn.

Gallai enw lleidr fod yn bwysicach na'r hyn a ladratawyd, neu dân yn llai pwysig na'r sawl a achubwyd ohono.

Ac roedd pawb wedi eu syfrdanu/ pan welsant ei bod yn gwisgo dillad lleidr pen ffordd." Rhoddodd y Llewod ochenaid hir wedi gwrando ar Guto Hopcyn yn adrodd yr hen stori.

`Lleidr!' bloeddiodd Debbie nerth esgyrn ei phen.

Pan oedd y lleidr ar fin cyrraedd y car daliodd Debbie ef.

Gan na fedrai ymryddhau o afael Debbie gollyngodd y lleidr y bag arian.

"Mae'r lleidr cathod wedi bod ar ein tir ni.

O flaen y lleidr gwelodd Debbie ddrws car yn agor a chlywodd beiriant yn cael ei danio.

`Hei.' gwaeddodd Debbie, yna heb oedi munud, ciciodd ei hesgidiau i ffwrdd a rhedodd ar ôl y lleidr.

Gellir dirnad y siom a'r chwerwedd yng ngwawd y rhai a watwarai Iesu, yn cynnwys y 'lleidr' (gwrthryfelwr, yn bur sicr) a waeddai, 'Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau'.

Dwi'm yn cofio beth oedd ymateb y siopwr ond dwi'n gobeithio fod hon yn enghraifft ddigonol o gyfrwystra'r lleidr llestri Vatilan.

Oherwydd y lleidr, rydw i'n gorfod ei brynu fesul casgenaid bellach." ăI'r dim, fe dywalltwn ni win i mewn i'r bibell i weld beth ddigwyddith." Caewyd un pen i'r bibell a gwasgiwyd y gasgenaid gwin i mewn iddi.

Mi fedr lleidr guddio ei edrychiad a newid swn ei lais, ond fedr o ddim cuddio rhywbeth fel cloffni." "Ond, dydwi ddim yn deall," meddai Catrin Williams.

"Y lleidr cathod!

Nid oedd Cochyn y plismon i'w weld yn unlle, a meddyliai Wyn ei fod yn dal i fod ar drywydd y lleidr cathod gan fod Mari Ddu, un arall o gathod y stad dai, wedi diflannu yn ystod y nos.

Gwasgodd Del ei dwylo am ei bochau pan sylweddolodd mai ceisio dal Fflwffen oedd y lleidr.

Am eiliad petrusodd ffrind y lleidr.