Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleied

lleied

Ein tuedd ni, yma yng Nghymru, pan yn cyrraedd ffordd drol yw arafu a rhoi'r car mewn gêr cyn lleied a phosib.

Wedi cyrraedd y Wernddu taflodd ei hun i gadair freichiau, ac adroddodd, mewn cyn lleied o eiriau ag a allai, hanes yr ymgyrch wrth ei chwaer Gwen.

Mae'n peri gofid i mi'n aml i weld cyn lleied o'n llywodraethwyr sydd ag unrhyw gefndir o'r fath.

Aeth tatw yn brin a chododd eu pris i'r entrychion ond, er cyn lleied y cnwd, honno oedd y flwyddyn fwyaf broffidiol i'r ffermwyr tyfu tatw.

Mae'n Llyfrgell Genedlaethol ni yn cael grant cyn lleied ag ambell Lyfrgell Brifysgol yn Lloegr am fod y Saeson yn ein gweld ni fel Cenedl israddol.

Rhyw ddyfalu ydw i ond dwi'n poeni efallai mai'r hyn sy'n digwydd ydi bod ysgolion yn defnyddio pobol heb gymwysterau iawn i ddysgu mathemateg oherwydd y cyfyngu ariannol sy wedi bod.' ' Peth arall sydd yn gofidio Gwyn Chambers yw cyn lleied o Gymry Cymraeg sydd yn mentro i faes mathemateg.

Mae'n syndod gynifer o bobl yn yr eglwysi sy'n ceisio darganfod ar ba gyn lleied o grefydd y gallant fyw.

Ar un wedd, fe fagais i barch mawr at y fyddin - a sylweddoli cyn lleied a wyddwn am eu gwaith, eu syniadaeth a'u harferion cyn hynny.

Fe synni di cyn lleied sy 'na.

Yn wir, un o siomedigaethau llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif yw bod profiadau mawr y bro%ydd diwydiannol wedi esgor ar gyn lleied o lenyddiaeth storiol dda.

Welis i rioed greadur efo cyn lleied o grebwyll gwleidyddol'.

Cof plentyn yn unig oedd ganddi amdano a'r cof hwnnw'n ddelwedd o ryw Siôn Corn, un a ddeuai ag anrhegion iddi, ac a arhosai am gyn lleied o amser nes gwneud pob ymweliad yn ŵyl.

Ac yntau o gefndir glofaol ei hun y mae'r ffaith fod gan lenyddiaeth Gymraeg gyn lleied i'w ddweud am ddiwylllant y glowr yn achos loes arbennig i Hywel Teifi.

Ar y cyfan, felly, mae'n drawiadol cyn lleied o ddylanwad clasurol a fu ar y rhan fwyaf o farddoniaeth Gymraeg, a naturiol yw chwilio am esboniad ar hyn.

'Mae'n anodd dychmygu y gallen nhw fod wedi mynd ymhellach nag a deithion ni heddiw, Syr - ddim mewn cyn lleied o amser.

Nid dweud yr ydym na chywirwyd ychydig arno o bryd i'w gilydd yng nghwrs y tri chan mlynedd diwethaf, ond y mae'n ddychryn meddwl cyn lleied o waith cywiro a fu arno.

Y drwg ydi wrth gwrs bod cyn lleied o swyddi yn y maes yng Nghymru; yn ne ddwyrain Lloegr y mae'r rheini.

Yn y bôn, mae'n syndod cyn lleied o debygrwydd sydd rhwng Ystorya Trystan a'r rhamantau Ffrangeg, o ran y stori ei hun ac o ran naws.

Mae'n rhyfeddol cyn lleied a wybodaeth sydd gan yr athrawon am Brydain a bydd yn rhaid inni roi darlithoedd ymhob cyfarfod athrawon o hyn allan ar amryw o bynciau.

"Tan y protestiadau hynny doedd pobol o'r tu allan ddim wedi sylweddoli cyn lleied o bynciau oedd yn bosib' eu gwneud trwy gyfrwng y Gymraeg yma.

Yn sicr, byddent yn rhyfeddu cyn lleied o barch a roddir yn awr i'r seithfed dydd.

Agoriad llygaid hefyd oedd gweld cyn lleied mae safle merched wedi newid yng nghefn gwlad China.

Sy'n codi cwestiwn - pam fod cyn lleied o graffiti Cymraeg ar gael yn y tai bach?

Dyna ddangos cyn lleied wyt ti'n ei w'bod am beth sy'n mynd 'mlaen yn y lle 'ma.' 'Byddet ti'n synnu faint dw i'n ei w'bod am bawb a phopeth.

Yn wir mae'n syndod cyn lleied rydym ni'n ei wybod heddiw am fywyd dros hanner y boblogaeth yn yr Oesoedd Canol.

Rwy'n siŵr y byddai'r cwmni%au drama yn falch yn ogystal â'r gynulleidfa sy' ceisio cuddio eu hembaras wrth sylweddoli cyn lleied sy'n cefnogi.

Rwy'n cofio dysgu yn yr ysgol mai 'byr yw dydd a dyddiau Chwefror', a meddwl heddiw na ddywedwyd mwy o wirionedd mewn cyn lleied o eiriau, erioed.

Dyna pryd mae pobl yn draddodiadol yn gwario lot o arian!' Un siom i Ankst yw cyn lleied o gasetiau sy'n cael eu gwerthu mewn dawnsfeydd; mae'n amlwg fod gwario pedair neu bum punt ar gase/ t ar ben tocyn ac arian cwrw yn ormod gan rai.

Roedd hi mor fawr fel yr edrychai'r bobl oedd i fyny ar ei man uchaf cyn lleied â morgrug.

Yn ôl yr unig feddyg yno, roedd gofalu am gymaint o bobl â chyn lleied o adnoddau yn dasg amhosibl.

Pam yr ydych yn meddwl y defnyddir cyn lleied o'r gwastadedd ar gyfer tyfu cnydau?

Does neb sy'n edrych arno'i hun fel bod yn gorfforol annibynnol isio dibynnu ar bethau fel cadeiriau olwyn, calipr, fframiau Zimmer, baglau neu ffyn cerdded, felly fe allen nhw benderfynu eu defnyddio gyn lleied a phosibl neu eu gwrthod yn llwyr.

Ond yn wir, bron iawn nad oedd oeddan nhw wedi anghofio rhoir creision yn y pecyn, roedd ynddo gyn lleied ohonyn nhw, heb sôn am roi ugain punt imi.

Er lleied yw Plaid Cymru, ac er y gall hi gael mwy na'i rhan o glwyfau a siomedigaethau politicaidd, y mae'n anninistriadwy oblegid ei bod wedi ei hadeiladu ar graig teyrngarwch i'r genedl Gymreig.

Mi all yr Etholiad Cyffredinol gael ei gynnal mewn cyn lleied â chwe mis ac mae'r blaid yn gobeithio gwneud yn well na beth wnaethon nhw yn 1997 pan fethon nhw ag ennill yr un sedd.

cyn lleied y mae dyn yn ei wybod am ddirgelion y Cowmos.

"Nid oes gennym amcan maint y nifer hyn, ond mi fydd cyn lleied a sy'n bosib."

Ond a ydynt gymaint allan o gyffyrddiad â bywyd pobl gyffredin fel nad ydynt yn sylweddoli cyn lleied ohonom sy'n gallu mynegi barn oleuedig ar ei gynnwys a'i oblygiadau?

Gellid bod yn ymwybodol o bwysigrwydd Trystan fel arwr heb fod â llawer o wybodaeth fanwl amdano - meddylier cyn lleied o wybodaeth sydd gan Gymry heddiw am hanes Dewis Sant.