Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleihau

lleihau

Fel y bydd y cnydau'n datblygu, ni fydd lle i'r chwyn dyfu a bydd y gwaith hofio'n lleihau.

Fel yr esgynna Sam i blith y cymylau a'r sêr yng nghwch y ferch ddi-enw, ddi-sylwedd a ninnau gyda hwy, y mae'r bro%ydd cartrefol beunyddiol, ein priod ardaloedd hysbys yn pellhau a lleihau otanom yn y dyfnder ac fe ddaw moment pan anghofiwn amdanynt yn

Gan fod llawer o'r offer a ddefnyddir i wneud arolwg tanfor ar hyn o bryd yn ddigon anfoddhaol, gellir dweud fod archaeoleg tanddwr mewn stad o 'anwybodaeth soffistigedig' - soffistigedig gan fod llawer o'r archaeolegwyr modern yn bustachu gyda phroblemau ei lleihau.

Mae CAA, CAI, CGAG a MEU yn gwerthu eu cynnyrch ac felly yn derbyn incwm sy'n lleihau cyfraniad y grant.

Cadw eich Gwaith Fe ddylech gadw eich gwaith yn fynych, mae hyn yn lleihau'r posibilrwydd ichwi golli eich campwaith am byth.

Nod polisi rhent yw lleihau'n raddol y gwahaniaeth rhwng rhenti a godir ar eiddo sy'n debyg o ran math, lleoliad a gwerth mwynderau.

Lleihau urddas dyn a thlodi ei ddynoliaeth a wna'r agwedd hon at gymundodau dynol, ac i'r graddau y gwneir hyn y mae'n wrth-Gristnogol.

Lleihau y mae gallu dynion i lunio eu hamgylchedd teuluol a lleol, heb sôn am yr amgylchedd cenedlaethol.

Yn anffodus mae nifer y Boda Tinwen yng Nghymru wedi lleihau dros y degawd diwethaf ac y mae'r gwaith a wneir gan y Gymdeithas er Gwarchod Adar a'r Cyngor Gwarchod Natur, yn chwilio am y rhesymau dros hyn.

Ar yr un pryd, ymbiliwn arnat oleuo meddyliau a chydwybodau arweinwyr y cenhedloedd i anelu at amgenach cyfiawnder wrth drafod cynnyrch y ddaear er mwyn lleihau newyn ac angen.

Trwy ddilyn rhaglen o ddiet ac ymarfer fe ellir lleihau'r peryglon yn sylweddol.

Ar wahân i'r dirgelwch a'r rhamant sy'n gysylltiedig â llongddrylliadau ac yn gymhelliad i ddenu pobl ifanc i astudio gweithgareddau tanfor, gall safleoedd llongddrylliadau ddangos imi sut y mae grymusterau naturiol dros gyfnod penodol o amser yn lleihau effaith llongddrylliadau ar lawr y môr.

Y gobaith yw y bydd y math yma o drefniant yn lleihau dylanwad y benthycwyr mawr diegwyddor sydd yn dod â diflastod i gynifer o deuluoedd tlawd.

Pan ledaenodd yr arfer o yfed coffi ar draws Ewrop dechreuwyd ychwanegu sicori iddo, nid yn unig er mwyn lleihau'r gost ond hefyd oherwydd y gred fod sicori'n llesol.

Mae potensial haidd yn nhermau cynnyrch yn lleihau o gant i gant a chwarter yr erw am bob wythbos o oedi yn yr hau ar ol dechrau Mawrth.

Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen.

Pe gwaherddid yr arferiad hwn, byddai hyn ynddo'i hun yn lleihau costau triniaeth lawfeddygol yn sylweddol.

Mae'r Cynulliad am weld maint y dosbarthiadau yn lleihau i lai na 30 yr un.

Iaith ar encil yw'r Gymraeg yng Nghymru mwaych, iaith lleiafrif a lleiafrif sydd eto'n lleihau.

Dewiswyd safle mewn dwr dwfn (Swnt Blasket, Iwerddon) gan y byddai hyn yn lleihau effeithiau cerrynt ac ymyrraeth gan rai'n chwilio am ddarnau i'w cadw.

Gwelodd fod y leptocephalii a ddelid yn lleihau o ran maint fel y dynesai at Fôr Sargasso.

Amcan ymyriant llywodraethol mewn sefyllfa o'r fath, fyddai ceisio lleihau osgled y toniannau.

Er bod lleihau drafft yn fuddiol cofiwn bod angen newid aer ystafell ddwywaith y dydd cyn y gellir sicrhau digon o ocsigen.

Erbyn hyn mae Hiraethog wedi lleihau ei gyfrifoldeb fel adroddwr.

Wedi sicrhau rhyw fath o ddyfodol i'r ysgol, edrychai'n fwy nag amlwg i rai ohonom y byddai'r un frwydr yn ein hwynebu eto ymhen pump, deg neu efallai bymtheng mlynedd, os na fyddai nifer y disgyblion yn cynyddu yn hytrach na lleihau.

Sut bynnag, oherwydd yr oediadau sydd ynghlwm wrth bolisi%au economaidd, y mae perygl i fesurau gwrthgylchol y llywodraeth gynyddu yn hytrach na lleihau osgled y toniannau, ac, fel canlyniad, ansefydlogi yn hytrach na sefydlogi'r economi.

Fel y nodwyd eisoes, ni fydd yn ffynnu os yw ei defnydd yn y cartref a'r gymuned yn lleihau, hyd yn oed os yw nifer y siaradwyr newydd a ddaw o'n hysgolion yn cynyddu.

Mewn gwaith therapiwtig dymunir lleihau nifer y celloedd gorwithgar neu adwythig.

Mi fyddai llywodraeth Geidwadol yn lleihau baich y trethi busnes ac yn lleihau'r Adran Diwydiant a Masnach gan wneud arbedion o £400m.

Ac y mae yr adwaith o hyd yn newid, y berthynas rhwng un uned a'r llall yn cael ei lleihau neu agosa/ u, ac mae'r finiau rhwng unedau yn aml yn aneglur ac yn symudol.

Mae'r Capeli'n dirywio'n fawr, y nifer sy'n eu mynychu'n lleihau a'r adeiladau'n cael eu gwerthu ac ati.

Gwelir fod y ganran o dir pori da yn lleihau mewn siroedd megis Gwynedd a Phowys, lle ceir cyfran uchel o dir mynyddig o radd isel.