Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleill

lleill

Er hynny, nid yw Westring yn ei chyfrif ei hun yr un fath â'r lleill.

Ar yr un pryd y mae'n bur ochelgar ynglŷn â defnyddio'r gair 'dylanwad'; e.e., ar ôl brawddeg aneglur sy'n awgrymu fod rhaid fod arferion y Trwbadwriaid wedi dylanwadu ar arferion y Gogynfeirdd, 'fel y rhaid bod y naill wedi dylanwadu ar y lleill, neu eu dyfod o ffynhonnell gyffredin i ddechreu', â rhagddo i sgrifennu.

Dim ateb gan y lleill.

Ac os oedd gwythiennau'r Fraslyd, y Fowr a'r Bumcwart a'r lleill i gyd yn dipyn sicrach na thywod, eto, o'u twrio a'u tynnu oddi yno roedd y tir uwchben yn siwr o symud ryw fymryn.

Yn sŵn cymeradwyaeth y lleill, gosodais lafn y rhwyf yn y dŵr.

O safbwynt daearyddol nid oes lawer o ddewis rhyngddi a'r lleill.

Er ei bod hi'n olaf a chryn hanner awr ar ôl y lleill yr oedd hi'n wên o glust i glust - yn amlwg wedi mwynhau ei phnawn.

Tystiolaeth rhai merched a'i cofiai yn eu plentyndod oedd ei fod yn '...' ac ychwanegodd un a oedd yn hyn na'r lleill: '....' Fe ddichon nad oedd Daniel Owen y nofelydd mor ddiniwed ag yr ydym wedi arfer meddwl.

Wna-i ddim ar hyn o bryd geisio esbonio sut y mae'r gyfundrefn arbennig hon yn sefyll ychydig ar wahân i'r rhannau ymadrodd eraill, heblaw crybwyll nad yw mor gysylltiol gystrawennol â'r lleill (fel arddodiaid a chysyllteiriau) ac mai hon yn anad dim sy'n cynnwys y deunydd ystyrlon mwyaf 'diriaethol' ymhlith geiriau.

O dan y canlynol, mae'r lleill yn symud yn ddi-ffwdan i'w safleoedd cychwynnol gwreiddiol.)

Fel yn y lleill mae na ddoniolwch yn stori Cosyn gyda hiwmor yr awdur yn sefyll yn y cof.

Yna nofiodd i ffwrdd a'r lleill i'w chanlyn.

Y morwr wrth yr olwyn lywio oedd un o'r lleill, a llongwr yn gwylio'r môr o gwmpas y llong oedd y llall.

Gwelodd y lleill simneiau tenau'n codi i'r nen.

Roedd hon yn waeth na'r un o'r lleill, ond doedd hynny ddim yn poeni'r dderwen hon ar lan yr afon.

Diolch i rai aelodau am adael imi wybod am eu gweithgareddau, rhaid ichwi fodloni ar fy ngwybodaeth i fy hun am y lleill.

Tad yn y Mab, Mab yn y Tad, Ac yr un wedd mae'r Ysbryd rhad; Y man bo un y lleill y sy; O ryfedd Fod!

Trodd i edrych ar y lleill a gallai weld eu bod hwythau hefyd wedi eu cynhyrfu.

Mae hon yn ddigon diniwad.' Gwyliodd Dan y lleill yn difodi'r deisen gwsberis gyda blas, a phan dorrai Emrys ail damaid iddo'i hun, ni allai ymlid yr olwg farus o'i lygaid.

"Mae yna ddarn o bysgodyn ym mhen draw'r cawell." Gafaelodd Wyn yn ysgwydd Einion a dywedodd wrth y lleill am fod yn ddistaw.

Ni allent glywed sŵn ond roedd yn amlwg fod hwn eto, fel y lleill, yn teithio yn weddol gyflym ar hyd y ffordd.

Mae hyn yn dechrau achosi ychydig o ddrwg deimlad, gyda rhai o'r ffoaduriaid yn teimlo fod ganddynt hwy fwy o hawl drosom na'r lleill, mae'n anodd iawn ceisio cadw pawb yn hapus.

Ar y ffordd yn ol i Delhi ar y tren, cael sgyrsiau diddorol ag Indiaid - un wedi bod yn 'UK', a'r lleill, gŵr a gwraig yn eu tridegau, heb fod, ac yn llawn cwestiynau athronyddol am briodasau wedi eu trefnu, Margaret Thatcher, trenau Prydain, ac ati.

Beth bynnag am werth y gwahanol 'ddamcaniaethau' ynghylch yr iawn a ddyfeisiwyd ar hyd y canrifoedd, ni ddyfarnodd yr eglwys erioed ar ddilsrwydd y naill ohonynt ar draul y lleill.

Wrth gwrs mi laddon ni'r rhai oedd yn gwrthod, i ddangos i'r lleill ein bod ni o ddifri.

Rŵan, mae hynny drosodd; rydan ni'n dechrau cofio mor braf yr oedd o." Ni ddywedodd yr un o'r lleill air o'u pennau.

Rhai'n clymu rhaffau'n ddiogel a'r lleill yn rhoi sylw i bopeth symudol oedd allan yn yr awyr agored.

y rhai sydd yn cael trafferthion i ddeall y gwaith, - y rhai a allai droi'n wrthnysig ac yn anodd i'w rheoli, (yn arbennig felly os yw diffyg dealltwriaeth yn arwain at ddiffyg hygrededd ymysg cyfoedion, neu yn ddiweddarach yn eu gyrfa uwchradd, pan fo dealltwriaeth yn arwain at ddiffyg hygrededd), - y rhai galluog sydd angen eu hymestyn;yn bendant nid un o'r diwinyddon defnyddiol fel y 'Dr Goodwin, Dr Owen, Dr Gill, Marshall, Hervey, Usher' a'r lleill, yn Anglicaniaid a Phiwritaniaid, y cydnabu Williams Pantycelyn ei ddyled iddynt: mewn chwarter canrif o ddarllen ni ddeuthum ar draws un Methodist o'r genhedlaeth gyntaf a ynganodd ei enw hyd yn oed.

Ni ddywedodd air wrth y lleill am y peth.

Oherwydd yr holl newidadau hyn sydd i ddigwydd gyda'i gilydd, pob un yn ddiwerth heb y lleill, mae'n rhaid wrth anser eithriadol o hir i esblygiad llawn allu digwydd.

Fe geir naw o gerddi marwnad gan feirdd i'w plant eu hunain, y gynharaf o gryn dipyn gan Gynddelw yn y ddeuddegfed ganrif, a'r lleill i gyd yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen.

Wrth sefyll o flaen un o'r lleill roedd eich pen a'ch traed i'w gweld ond eich canol yn diflannu'n llwyr.

Dechreuodd y corachod daro'u traed yn erbyn y ddaear wrth weld eu gwobr yn diflannu o flaen eu llygaid ond gan alw ar y lleill ac ysbarduno'i ferlyn, arweiniodd Caradog y ffordd heibio iddyn nhw.

Mi dreuliais fwy o amser efo nhad na dim un o'r lleill, ac efallai mai dyna'r rheswm pam mai fi yn unig o'r teulu sydd wedi ceisio dilyn ôl ei droed.

Fe agora i e.' Gwthiodd Paul, y bachgen hynaf, y lleill i'r ochr a gafaelodd ym mwlyn drws y wardrob.

"Mi fedri gymryd arnat dy fod yn medru canu mewn côr debyg, dim ond i ti agor dy geg a gadael i'r lleill ganu ..." "Lleill?

Fel y rhai y mae'r prif gyfrifoldeb arnynt am y sefyllfa, gwŷr Gŵr Glangors-fach a'i ferched am fodolaeth y lleill er nad yw Rhys ac Ifan, Elen a Sal yn ymwybodol nad ar eu pennau eu hunain y maent ym murddun y tyddyn.

Gwelwn ar unwaith mai'r un persona sydd gan adroddwr y bryddest a'r bardd ei hun mewn ambell gerdd arall: wrth gyfeirio, er enghraifft, at hen bobl nad ydynt yn awr ddeifiol hon ond gwefusau carpiog yn y gwynt a'r lleill y calonnau aeddfetgoch a'u chwerthin yn deilchion yn y brwyn a'r gwallt ar chwal.

"Tyrd i fan'cw i edrych fedrwn ni weld y lleill.

Dada yn gyrru a Mam a'r babi yn ei breichiau ac un o'r lleill yn y

Tynnodd ef o'i logell a gweiddi ar y lleill, 'Fe ddaeth yr amser i brofi anrheg y ddraig.' Cymerodd ychydig o'r llwch ohono a'i daflu drosto'i hun a'i ferlyn.

Iesu oedd 'i holl fyd e, a phan groeshoeliwyd Iesu, teimlodd Tomos golled bersonol, yn fwy na'r lleill; ei hapusrwydd, ei obaith a'i hyder yn ffradach y cwbwl ar ben.

Ir lleill sydd ar ôl mae'r abwyd yn awr yn amlwg.

Tystiodd y caplaniaid fod y bechgyn hynny a fagwyd yn yr Eglwys, wedi cydymddwyn â'u cyflwr yn well na'r lleill, ond yr oedd perygl iddynt hwythau, hefyd, ymbellhau oddi wrthi.

naddo.' 'Dan ba arwydd y cest ti dy eni - Virgo?' Chwarddodd y lleill a cheisiodd Dei chwerthin hefyd er nad oedd o'n deall y jôc.

Does dim cysylltiad rhyngddo a'r lleill.

Y gwahaniaeth rhyngddynt oedd fod un garfan - y mynaich traddodiadol - wedi eu cyfyngu i fynachlogydd ac wedi cymryd fel eu prif orchwyl gynnal y cylch o wyth gwasanaeth canonaidd ddydd a nos; tra oedd y lleill - y Brodyr - yn cael gadael eu priordai er mwyn mynd ar hyd y wlad i bregethu, gan gardota am eu cynhaliaeth wrth fynd.

Arhosai'r ci ifanc yn ufudd nes yr oedd y lleill wedi mynd o'i flaen.

Y mae tradyrchafu un gynneddf, dyweder y gynneddf ddadansoddol, ar draul anwybyddu'r lleill, yn golygu gwneud cam mawr â chyfoeth y bersonoliaeth.

Ond doedd dim un ohonyn nhw yn gallu cael diod pan fyddai'r lleill yn gafael yn y cwpan, ac mi fydden nhw'n gweiddi, un ar _l y llall, "Dydw i ddim wedi cael diferyn!" "Na finnau chwaith!" "Mae 'na de wedi mynd i'm llygaid i!" "Ac mae 'na beth yn fy ngwallt i!" "Ac mae 'na dipyn wedi mynd ar fy nghrys i!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn cael diod iawn yn y pnawn ac mi fyddai syched arnyn nhw.

Y mae hithau o fewn cyrraedd hwylus o Lundain gyda thrên neu fws neu fodur ac yn naturiol ddigon arian y brifddinas a'i gwnaeth hithau, fel y lleill, yn fagnet haf i'r cannoedd.

Gallasai rhai o'r lleill ddysgu oddi wrtho.

Felly, wrth i mi godi i fynd i 'ngwely dyma fi'n rhoi fy nwy law ar ben Joe Louis a dweud wrth y lleill: 'Mae bwrw cythreuliaid o ddyn yn eitha hawdd.

Roedd y corachod wedi llwyddo i ddod allan o'r ogof ac wedi bod yn gorffwys yn lluoedd ar fin y coed, yn aros, fel y lleill, i'r wawr dorri.

Un o ddisgynyddion gwŷr y traethau, y tywod gwyn, yr awyr a'r palmwydd glas oedd Joe Erskine ac wrth eistedd felny o flaen y tân, roedd ei wedi dechrau chwysu a gwamalu wrth y lleill ei fod e am wneud 'come back' a threchu Frank Bruno am ffortiwn yn ei ffeit gyntaf.