Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llenwi

llenwi

Ond, a hwy ar fin dringo'r llethr, gwelent lewyrch golau cerbyd yn llenwi'r awyr ar y dde iddynt.

Bob nos, o bump o'r gloch nes ei bod hi'n tywyllu roedd s n morthwylio a llifio yn llenwi'r lle.

Mae'r môr mawr wedi llenwi ceudwll y llosgfynydd erbyn heddiw ond mae llosgfynyddoedd eraill wedi codi eto yn ei ganol – y diweddaraf yn ystod pumdegau'r ganrif ddiwethaf.

Wrth i'r silt waddodi a llenwi'r cilfachau ac yna wrth i dyfiant organig a malurion gau am ffurfiad y llongddrylliad bydd yn cael ei selio a'i hamddiffyn rhag chwalfa bellach.

Cyn ei gysegru yn esgob Tyddewi, bu Thomas Bec yn ganghellor Prifysgol Rhydychen, yn ogystal â llenwi swyddi pwysig eraill.

Weithiau wrth iddo godi a machlud, mae'r haul yn llenwi'r awyr a lliwiau dramatig.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Ne...ne mi eith y gwarthaig i'r mart 'i hunan." Er ei bod hi'n bnawn myglyd 'roedd drws Nefoedd y Niwl yn agored led y pen a chorff byrgrwn, wynebgoch Laura Elin o'r Felin yn hanner llenwi'r drws hwnnw.

Mae'r dynion hyn yn gwybod yn o dda faint o bowdr fydd ei eisiau i chwythu'r darn hwn o'r graig allan, ac felly y maent yn rhoi rhywbeth o gan pwys i fyny o bowdr ynddo ac yn gosod fuse, sef math o weiren wedi ei llenwi â phowdr, yr hon sydd yn tanio'n araf hyd nes y daw at y powdr, a dyna ergyd ofnadwy a'r graig i'w chlywed yn rowlio i lawr.

'Pan fyddwn ni wedi ei orffan o, mi fydd yr aer sy'n cael ei gludo gan y pryfaid cop yn llenwi hannar y palas, ac mi fydd digon o le i ni'r chwilod pwysig gysgu yma drwy'r nos.

Yn llenwi tudalen ac yn aml yn ddarlun dros ddwy, mae'r lluniau'n cyfleu personoliaeth hoffus Tedi.

Yn 'Teisi' mae dwy das mewn cadlas yn llenwi gofod y llun, un yn y canol, y llall wedi ei thorri yn ei hanner gan y ffrâm, ac ystol goch yn cydio'r ddwy.

Mae llwybr uchaf Afon Ceint yn hynod o syth ac yn llenwi coridor a gerfiwyd, fel y dangosodd Embleton, gan ddwr tawdd yn y cyfnod yn union wedi'r rhewlifiant.

Yn sydyn dim ond y llygaid almond y gallai eu gweld o'i flaen yn llenwi ei olwg, yn llenwi ei feddwl.

Perfformiwyd rhai ou caneuon newydd megis Graffiti Cymraeg, Llenwi Fy Llygaid a Gweld y Llun - does dim dwywaith y bydd y caneuon yma yr un mor boblogaidd â Cae Yn Nefyn, Chwarae Dy Gêm, Dawns y Glaw ar clasuron eraill.

Roedd y gwynt yn llenwi ei ffrag hi ac oni bai am y boen yn ei glustiau tybiai y gallasai fod yn hapus yno.

Ni wyddai Miss Hughes ond y nesaf peth i ddim am y busnes, ac ofnwn pan fu farw Abel na wyddai hi ond ychydig am ei amgylchiadau; ac eto yr oedd hi'n fenyw dda ac yn llenwi'r cylch y galwyd hi iddo yn rhagorol.

Mae'r llyfr hwn yn llenwi tipyn ar y bwlch, ac yn agor y maes, megis.

Gyda dwy flynedd o daith o'i flaen a cholofnau dihysbydd i'w llenwi, roedd ganddo'r sgôp a'r cyfle i gyflawni'r holl amrywiaeth eang o waith sy'n bosib' mewn sefyllfa o'r fath .

Ar lefel y cymydau, hwy oedd yn llenwi'r swyddau o'r cychwyn.

Wrth ymyl y twll mae eisiau rhoi'r badell fwyaf y medri di gael hyd iddi, ei llenwi hi gyda medd ac yna ei gorchuddio gyda sidan." A dyna'n union wnaeth Lludd.

Yr oeddynt yn ceisio llenwi bylchau a ganfyddent yn y traddodiad barddol Cymraeg.

O'u blaenau roedd planced yn llenwi'r llwybr, a llun rhywbeth arni.

Byddem wedi disgwyl i'r patrymau prynu fod dipyn yn llai, ond efallai bod y sawl oedd yn llenwi'r holiadur yn dueddol o wneud hynny ar ran y teulu cyfan gan nodi, felly, mai ef/ hi a'u prynodd ei hunnan.

Yn ddiweddarach fe drows Owa John yn llwyrymwrthodwr ac ymgolli mewn llenwi football pools, a gwae'r neb a fyddai'n siarad pan fyddai'r radio yn cyhoeddi canlyniadau'r meysydd pel-droed.

Mae'r ffigurau uchod ychydig yn annisgwyl o gofio mai dynion yn bennaf sy'n gweithio ar y tir yng Nghymru, ond mae'n bosib mai esboniad am hyn yw mai merched yn bennaf sydd wedi arfer llenwi ffurflenni yn y gymdeithas amaethyddol, ac wedi gwneud hynny yma hefyd ar ran y teulu cyfan.

Y rheswm cyntaf dros y gymeradwyaeth ddiamodol i Nedw ydyw ei fod wedi llenwi angen arbennig mewn lle ac amser.

Llenwi Swyddi Allweddol

"Dydi awyr las a golygfa brydferth ddim yn llenwi bol neb," atebodd Tom yn chwerw.

Yn anffodus nid oedd y mêt wedi gofalu bod y gwenith oedd yn llwyth y llong y fordaith gynt wedi cael ei lanhau o gwmpas agoriad i'r pwmp, a phan geisiwyd pwmpio'r dwr allan nid oedd yn gweithio fel bod y llong yn llenwi â dwr.

Mae hyn, yn amlwg, yn hybu cystadleuaeth rhwng colegau ac yn gorfodi'r colegau i gystadlu yn erbyn ei gilydd i gael myfyrwyr (sydd yn golygu arian) a llenwi eu cyrsiau, yn hytrach na chyd-weithio er mwyn darparu'r addysg orau bosib.

Lledai'r goleuni nes llenwi'r cwm i gyd.

Ar ei eistedd o flaen ei wŷdd y mae'r certmon bellach a chyrn ei radio am ei glustiau yn llenwi'r clyw a phob a roc a jeif a jas.

Nid oedd yr ymchwil am hunaniaeth yn llenwi byd y sgrifenwyr Cymraeg i'r un graddau, efallai, ac eto yr oedd pryder ynghylch dyfodol Cymru yn destun cyson yng ngwaith y goreuon ohonynt hwythau, - Gwenallt a Waldo Williams, er enghraifft.

O na bai'n cael llonydd ganddynt i ddilyn ei briod waith ei hun: troi melinau gwynt i falu grawn yn fwyd i'r plantos, llenwi hwyliau gwynion llongau a'u gwthio dros groen yr eigion, dal ei law dan esgyll adar mawr a mân.

'Roedd o'n gwybod yn eithaf nad oedd bosib bod gen i ryw lawer o Suliau wedi'u llenwi.

Hyd y sylwais i, bydd y mwyafrif o bobl yn huawdl wrth drafod sylfeini ac yn llenwi'r bylchau llwyd â geiriau llanw.

Fel y mae patrwm y geiriau'n datblygu a'r sgwariau'n cael eu llenwi, mae'r cyfle i chwarae â geiriau'n cyfyngu.

Rhennir y llun yn dair rhan: yr awyr o amgylch y felin yn llenwi hanner y canfas, yna'r caeau llafur ar oleddf, a'r creigiau yn y blaendir a lôn yn troelli rhyngddynt.

Baglodd Meic yn ei flaen, ofn oer yn llenwi'o galon.

Ond brwydr amhosibl bron yw ceisio llenwi bwlch y cymorth a gollwyd o'r Undeb Sofietaidd, a does dim amheuaeth fod yna brinder bwyd yng Nghuba erbyn hyn.

Wrth i ni danysgrifio i'r is-normal a derbyn safonau dwbwl, wrth i ni ddweud celwydd a thwyllo'n agored, wrth i ni amddiffyn anghyfiawnder a gormes, yr ydym yn gwagio ein hysgolion, difrïo ein hysbytai, llenwi ein boliau â newyn a dewis cael ein gwneud yn gaethweision i rai sy'n arddel safonau uwch, sy'n geiswyr y gwirionedd, sy'n anrhydeddu cyfiawnder, rhyddid a gwaith caled.

Miloedd ar filoedd ohonyn nhw'n llenwi pob twll a chornel o'r Ddinas.

Er mai gwr bychan o gorff yw'r Arglwydd - Dafydd" i Brif Ysgrifennydd y Cynulliad ac i arweinyddion y pleidiau - y mae eisoes yn llenwi ei le gan ddod a thipyn o liw a steil i'r siambr.

Ond rhaid cydnabod mai tasg enfawr oedd ganddo, sef llenwi dwy golofn hir bob wythnos (o gofio beth oedd maint tudalennau'r Cymro bryd hynny), ac nid yw'n syndod iddo gael ambell wythnos lom.

Wedi tyllu tipyn ar y cerrig bras sydd ar lawr maent yn llenwi'r twll o'r bron hefo powdr ac yna rhoi tipyn o faw i orffen ei lenwi ac yn ei guro i lawr er mwyn ei wneud yn airtight a thanio'r fuse yr un fath â'r twll mawr.

Treulio'r bore gyda Janet yn llenwi'r ffurflen Dreth ar Werth a thalu biliau.

Yn ôl y gwybodusion roedd yr Is Gadair yn mynd i gael ei llenwi gan aelod sydd yn sefyll ar docyn Annibynol ond erbyn y cyfarfod blynyddol roedd y penderfyniad wedi newid.

Wedi'r cwbl mae gofyn llenwi'r adroddiadau â lluniau o ryw fath!

'...A'r polîs yn dweud ei fod yn beryglus dros ben,' ebe Tudur gan godi ar ei draed yn frysiog a dechrau llenwi gweddill y twll â'r pridd a'r tyweirch.

'Hen syniadau pobol eraill am fod yn glên oedd yn llenwi ei ben bach o a dyna fo, mi gafodd ei gyfla i ddweud pwt fan hyn a fan ddraw'.

Chwith meddwl na welwn eto y wen yn llenwi ei hwyneb, nac ychwaith glywed ei llais cyfoethog pan fyddai yn cyfarfod a'i chyn-ddisgyblion.

Hyd yn oed ymhlith siaradwyr Cymraeg rhugl, byddai eu hanner yn llenwi ffurflen trwyddedu cerbyd yn Saesneg, yn rhannol oherwydd eu bod yn credu fod y fersiwn Saesneg yn eglurach na'r un Cymraeg.

Bwriad Cymdeithas yr Iaith yw ceisio llenwi'r bwlch.

Gan iddi flodeuo yn yr hydref, yn groes i'r rhelyw o goed eraill, mae ei ffrwythau hi yn llenwi yn y flwyddyn newydd.

Wrth gwrs, gellid llenwi Suliau ymlaen am ddwy neu dair blynedd neu fwy na hynny.

Os bydd lli coch wedi llenwi'r afon - bydd y siwin cyntaf ym mhyllau'r Elwy a'r Seiont, a bydd hydlath yr hwyr byr nad yw byth yn tw'llu'n iawn yn fy nghyfareddu.

Gwaith papur fyddai hynny yn fynych - llenwi ffurflenni, llunio pwt o epistol Undebol, darllen y newyddiadur o bosib.

Er mwyn gwneud i'r tiwb ymddangos yn agored defnyddiwch betryal bychan gyda phatrwm llenwi a phatrwm llinell gwyn.

Ar ol pystachu stwffio drwy rhyw le cyfyng mae'r ogof yn agor allan ychydig ac mae dwr y mor yn llenwi'r gwaelod, 'n ol a mlaen ac yn lluchio'r trochion i fyny weithiau.

Gallai yntau ddychmygu'r wraig yn torri bara ymenyn, yn llenwi'r tyn bwyd, a rhoi te yn y piser.

Y goeden sy'n llenwi'r rhan fwyaf o ddigon o'r gofod ac eto mae'r awyr y mae'n ei chuddio hefyd yn llawn nerth deinamig.

'Mae'n bryd i ti ddysgu darllen y Beibl drosot dy hun,' meddai, 'a pheidio a llenwi dy ben a rhyw hen storiau gwneud.'

Daeth Miss Lloyd i agor y drws a rhyw gochni tywyll anarferol yn llenwi ei hwyneb ac yn lledu i lawr ei gwddf.

Yna ewch at y patrwm llenwi a dewiswch batrwm i lenwi'r petryal.

O, na, roedd milord yn trotian yn ôl a blaen i ymyl y dŵr efo'i fwced, yn tywallt ei llond i'r ffos ac yn methu'n lân â deall pam nad oedd y ffos yn llenwi.

Gan fod Yr Ymofynnydd hefyd yn cyflawni swyddogaeth cylchgrawn hanes y mudiad, byddai bywgraffiad ambell arwr, fel Thomas Emlyn Thomas o Gribyn a Gwilym Marles, Llwyn, yn cael llenwi'r misolyn ac ni allai neb a ddarllenodd y rhain fethu â dilyn y thema ganolog a theimlo'r ergydion sylfaenol.

Rhaid cadw border y blodau lluosflwydd yn rhydd o chwyn nes y bydd y dail yn llenwi'r bylchau.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog perthnasol i wneud penodiadau dros dro, llawn neu ran amser, fel bo'r angen - ond er llenwi bwlch yn unig.