Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llenydda

llenydda

Ond ni ellir gwadu nad yw llenydda yn Saesneg yn eich galluogi i farchnata nid yn unig yn Lloegr, ond ledled y byd.

Rwyf fi'n llenydda am fy mod i'n caru crefft llenydda, yn caru geiriau a rhythm geiriau; felly rwy'n tristau'n arw wrth feddwl y gellir fy ngalw - a hynny'n gyfiawn - yn ddieithryn yn fy ngwlad fy hun.

MECANICIA A LLENYDDA - Holi Wil Sam

Peth arall oedd yn newydd i un a fagwyd mewn tref Seisnigaidd fel Y Rhyl oedd darganfod fod llenydda'n rhywbeth byw i'r rhai a fagwyd mewn awyrgylch gwbl Gymraeg.

Ynteu a yw'r clwy llenydda wedi bachu mor ddwfn fel bo raid rhuthro'r pin at y papur ar amrant megis, ac ymlwybro o'r gwely i wneud hynny?

Lawer o flynyddoedd wedi hynny, a minnau wedi dechrau llenydda'n Gymraeg, cymerais yr enw 'Pennar' i'm hachub fy hunan rhag cyffredinedd estron a dilewyrch fy enwau Seisnigiedig, fy nhri enw prin eu swyn.

Yn sicr, nid ymarferiad unigolyddol oedd llenydda iddo.