Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lles

lles

Ni allaf wadu na ddaeth lles materol o ymwadiad fy hynafiaid a'r Gymraeg.

Mae'r Panel yn cydnabod fod lles economaidd a chymdeithasol cymuned y Parc yn bwysig er mwyn cadwraeth effeithiol a mwynhad o'r Parciau, ac na ddylid edrych ar ymwneud Awdurdodau'r Parciau yn y maes hwn fel prif swyddogaeth ond fel swyddogaeth gefnogol i asiantaethau eraill.

Cyllideb Lloyd George yn siomi'r Torïaid: cyflwyno 'supertax' o 6d ( 2 1/2c ) i'r rhai a enillai dros £5000 ac ychwanegu at dreth alcohol a baco i dalu am wasanaethau lles.

Fel y dywedodd un o'r cyd-drefnwyr rhanbarthol, 'Dydi'r crash course diets 'ma'n gwneud dim lles i neb.

Nid er lles Aelodau'r Cynulliad mae'r ymgyrch hon.

Bydd rhywbeth syn dy ddal di nôl ar hyn o bryd er lles i ti cyn bo hir.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Hawliau Lles yr Anabl hanes hir o weithgaredd arbnigol ym maes anabledd.

Dio'n gwneud dim lles o gwbl.

Bu farw'n dlotyn wedi oes fer o gynllunio a dyfeisio er lles yr ardal ac ar y diwedd roedd yn druenus ei weld yn ceisio bodoli ar yr ychydig bres a gai oddi wrth Urdd y Seiri yn Llundain.

Os oes, sut y mae'r elfennau hynny yn gweithio er lles neu er drwg i'r iaith?

Bydd y rhain yn gyfrifol am wasanaethau lles, addysg, masnach, tai, cynllunio, yr heddlu, amaethu a physgota a datblygu diwydiannau bychain.

Er mwyn iechyd moesol Cymru ac er lles moesol a chorfforol ei phoblogaeth, rhaid yw dad-ddiwydiannu Deheudir Cymru.

Heb os roedd yna agweddau moesol i'r bwriadau hirben, ond fe bwysleisiwyd bod dyletswyddau gan berchnogion eiddo yn ogystal â hawliau, a pheth cywilyddus oedd esgeuluso lles y rheini oedd yn ddibynnol arnynt.

Ofnai nad oedd y barwniaid diwydiannol goludog yn malio'r un ffeuen am iechyd, lles a dedwyddwch y gweithiwr cyffredin.

Nid yw'n eiriol ond er lles cyffredinol y Gymraeg yn addysg Cymru.

Gwelir y penderfyniad i leoli'r ffilmlo yn lleol fel hwb enfawr a fydd yn gwneud lles i economi'r ardal yn y tymor byr a hir.

Mae honno'n sect ddiddorol ac mae'r glasiad y dydd yn gneud lles mawr iddyn nhw, medda eu gwyr.

Rhaid inni barhau i fynnu newidiadau radical a gwirioneddol er lles y Gymraeg a'n cymunedau.

Golygai 'y llys a wnaeth ein lles ni' lawer mwy ym meddwl y beirdd na lletygarwch a chynhaliaeth faterol.

Ni chawsom wyliau yr haf hwnnw, felly dyna benderfynu'n sydyn y buasai pythefnos ar y cyfandir yn gwneud lles i ni er ei bod yn ddiweddar yn y flwyddyn.

ar derfyn y cyfarfod cefnogodd y gynulleidfa'r datganiad hwn : gan gredu bod rhyfel yn anghyson ag ysbryd cristnogaeth ac yn dinistrio lles gorau dynoliaeth mae'r cyfarfod hwn yn awyddus i ddatgan ei gefnogaeth i'r ymdrechion a wneir ar hyn o bryd gan y gymdeithas heddwch i ledaenu syniadau cywir am y drwg a wneir gan ryfel...

y mae ynof awydd gwneud lles i'm cydieuenctid yn llwybr diweirdeb."

Bu farw'n dlotyn wedi oes fer o gynllunio a dyfeisio er lles yr ardal ac ar y diwedd roedd yn druenus ei weld yn ceisio bodoli ar yr ychydig bres a gai oddi wrth Urdd y Seiri yn Llundain.YR OES OLEUEDIG HON...?

Ond oherwydd ei swyddogaeth hyrwyddol gyffredinol, mae'r Bwrdd mewn sefyllfa unigryw i lunio strategaeth gynhwysfawr a fydd yn tynnu at ei gilydd bawb sy'n gweithio er lles yr iaith.

"Mae'r ffilmiau'n saff o gael dangos drwy'r byd i gyd, felly yn sicr bydd yn gwneud lles enfawr ir diwydiant twristiaidd ac i fusnesau lleol yn y pen draw, yn ogystal â'r adeg bydd y ffilmio yn mynd yn ei flaen," meddai Sian Ekan-Wood ar ran y bwrdd.

Ni ddaw lles o gorffori cenhedloedd mewn gwladwriaethau mawr aml genhedlig ond i rai militarwyr a chyfalafwyr.

Mae CiF wedi parhau i fod yn weithgar ym maes cyffredinol gofal am blant yng Nghymru, ac mae wedi cefnogi'r camau 'Plant yng Nghymru' newydd i ddatblygu corff aml-asiantaeth i hyrwyddo lles plant yng Nghymru.

Mynnwn fod cymunedau Cymru a'r iaith Gymraeg angen grym deddfwriaeth gynradd i ateb gofynion eu lles gorau ac i herio'r anghyfiawnder a'r dinistr sydd wedi ein caethiwo fel cenedl gyhyd.

Yn groes i holl gynghorion y swyddogion lles a diogelwch ar y teledu roedd wedi gosod y drych yn fwriadol yn y man hwnnw fel bod pob cwmwl o fwg-taro yn melynu'r gwydr.

Y mae i denant y boddhad moesol o wybod bod pob gwelliant a wna yn lles i rywun arall.

Ond gellid meddwl mai Davies a Salesbury a fu'n bennaf gyfrifol am ddarblwyllo'r Frenhines a'i gweinidogion fod lles crefyddol y Cymry'n bwysicach nag unffurfiaeth wladwriaethol.

Sarvodaya, lles pawb, a gwasanaeth pawb - dyna egwyddor ganolog.

Tyfodd o hadau eu collfarn hwy gerddi gwarchod lawer a geisiai gelu'r ffaith fod lles y genedl, fel y i gwelid gan ei hyrwyddwyr, yn gofyn gostwng gwerth y famiaith.

Tynged cenedl heb lywodraeth, yw diweithdra, tlodi, diboblogi, ymfudo, malurio diwylliant, ac mewn rhyfeloedd gwaedir hi er nad oes a wnelont ddim oll â'i lles hi.

Yn y cyswllt hwn o edrych ar hanes plwyf, gellir olrhain y mudiadau ac adwaith y bobl tuag atynt gan ystyried eu lles i godi safonau byw.

* gyda lles y plentyn yn egwyddor sylfaenol y ddarpariaeth;

Ei freuddwyd ef oedd cymdeithas o "gyfalafwyr bychain", lle byddai pawb yn gweithio er lles y gymdeithas a'i les ei hun yr un pryd.

Elusennol Hawliau Lles yr Anabl, Cynnal Gofalwyr ac Adran y

'Yn yr ornest ddigymar hon darganfyddwn ddwy ffaith sy'n dwn lles i'n heneidiau: sef bod ffyddlondeb a thynerwch i'w cael ymhlith y gelynion a bod y brofediagaeth i gyd yn deillio o'r sarhad a roddodd Pwyll ar Wawl fab Clud.

Y cwestiwn sydd angen ei ateb yw: Ym mha fodd y gallwn fel rhieni a llywodraethwyr ddefnyddio y gryn sydd ganddom ni er lles y plant ac addysg yn gyffredinol?

Gwasanaethodd ar y pwyllgorau canlynol, Ffyrdd, Iechyd, Lles, Adeiladau, Cyllid ac Addysg Amaethyddol, ac yn enwedig y Pwyllgor Addysg a oedd yn delio â materion lle'r oedd Edwin yn neilltuol gymwys i roi arweiniad.

Ddaw dim lles o boenydio dy hun fel hyn.

Dwi'm yn gweld fod o'n gwneud dim lles o gwbl.

Er mwyn cyrchu at ein nodau gorgyffwrdd yn y modd mwyaf effeithiol posib, ymroddwn i weithio'n egniol tuag at greu rhwydwaith effeithiol o ddarparwyr, er lles y defnyddwyr a darpar-ddefnyddwyn.

Ar ôl bwrw ei brentisiaeth gyda Betsey, i ffwrdd ag ef ar daith garu ddiflino, bicare/ sg, a fyddai'n darllen fel dychan ar y nofel serch Victoraidd yng Nghymru oni bai am y protestio parhaus fod y cwbl er lles moesol ei gynulleidfa, yn enwedig y rheini a oedd yn tueddu at y fath ymddygiad.

Er mwyn cyflawni'r nod yma, bydd rhaid i'r Cynulliad sicrhau seiliau cymunedol cryf i'r iaith Gymraeg ar draws Cymru gyfan, ac, yn yr ystyr yma, y mae lles y Gymraeg yn mynd law yn llaw â lles gorau holl gymunedau Cymru.